Dros bymtheg mlynedd ar hugain yn ôl, bellach, cafodd perthynas annwyl imi gais gan HTV i wneud darn nodwedd am bysgota cimychiaid o borthladd y Bermo ar gyfer
Y Dydd a
Report Wales.
Dyn uniaith Gymraeg, i bob pwrpas ymarferol ydoedd. Cymro coeth a chywir ei Gymraeg, yn gynefin a phob ymadrodd traddodiadol Cymraeg oedd yn perthyn i'r diwydiant pysgota cimychiaid, ac yn un o'r olaf i ddefnyddio'r fath ymadroddion yn naturiol didrafferth.
Roedd o'n siaradwr Saesneg gwan a thrwsgl, efo acen josginaidd ac yn swnio fath a thwpsyn yn ei estroniaeth. Er gwaethaf hyn, roedd o'n fodlon digon i wneud y rhaglen yn y Saesneg ond yn poeni nad oedd ei
Gymraeg yn ddigon dda ar gyfer
Y Dydd.
Roedd fy niweddar Fam yng nghyfraith yn Gymraes rugl, yn siarad y Gymraeg yn naturiol fel y siaradwyd hi yng ngwaelodion Dyffryn Conwy am ganrifoedd. Ond, o ddeall bod ei merch yn canlyn
pregethwr, o bob peth, yn penderfynu bod rhaid iddi siarad Saesneg yn fy nghwmni gan
nad oedd ei Chymraeg yn ddigon da i'w defnyddio o flaen pregethwr! Er gwaetha'r ffaith mae chwarter Sais, Cymraeg ail iaith, oedd y pregethwr dan sylw.
Mae diffyg hyder Cymry Cymraeg i siarad Cymraeg ac i ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy o fygythiad i ddyfodol yr iaith nag ydy'r mewnlifiad, o bell ffordd.
Mae'n bwysig i ymgyrch yr iaith bod y syniad o
Gymraeg diffygiol yn cael ei ddifa. Mae siarad Cymraeg yn bwysicach na siarad Cymraeg cywir. Gwell yw dweud
rwy’n licio stroberis a chrîm na throi i'r Saesneg!
Ond mae cadw safonau ieithyddol yn bwysig hefyd, os am gadw'r iaith Gymraeg yn fyw mae'n rhaid wrth gywirdeb iaith. Mae'n rhaid i ddefnyddwyr y Gymraeg cyhoeddus bod yn ramadegol cywir eu Cymraeg. Mae rhaid i
Vaughan Roderick, Bethan Gwanas, Gerallt Lloyd Owen ac ati
Hoffi Mefus a Hufen yn hytrach na stroberis a chrîm!.
Ond dyma'r cyfyng gyngor: Lle mae'r we yn ffitio i mewn i'r ddadl cywirdeb iaith?
Wrth ddanfon y post 'ma rwyf yn ei
gyhoeddi (ei chyhoeddi?) yn yr iaith Gymraeg, os gyhoeddi mae'n rhaid sicrhau bod y cyhoeddiad yn parchu holl reolau'r iaith. Does dim gwahaniaeth rhwng cyhoeddi yn gyhoeddus yma na chyhoeddi ar
Garreg Gwalch neu
Lolfa.
Ond ar y llaw arall ai cyhoeddiad, neu sgwrs ar lein yw blog? Fi'n dymuno dweud fy neud fel dwi'n dweud o yma, boed yn ramadegol gywir neu ddim; ond a oes gennyf hawl i wneud hynny heb y sicrwydd bod fy Nghymraeg yn swyddogol digon dda?
Ydy’r ymateb
yma i'r post
yma yn deg?