Llongyfarchiadau twym
galon i Paul Molac o Union Democratique Bretonne; y cenedlaetholwr Llydewig
cyntaf i gael ei ethol i Lywodraeth Canolog Ffrainc.
Paul yw cadeirydd Mudiad Ysgolion Dwyieithog Llydaw Div
Yezh ac mae o'n gyn-Gadeirydd Cyngor Diwylliannol Llydaw.
O holl
wladwriaethau Ewrop, Ffrainc yw'r un mwyaf anoddefgar o genhedloedd ac
ieithoedd lleiafrifol o fewn ei thiriogaeth; mae ethol Paul yn garreg filltir
bwysig yn hanes hawliau ieithyddol a gwladgarol pob un o'r gwledydd Celtaidd -
newyddion gwych!