Ond mae yna ambell i sylwebydd sydd ddim yn canu'r un gan ac yn honni bod modd amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rhag toriadau gwaeth na rhai Thatcher heb i wledydd Prydain troi'n fethdalwr.
Mae'r ddadl sydd yn cael ei roi gan y Cenedlaetholwr Cernywig Cornish Zetetics yn un wirioneddol gwerth ei ddarllen.
Ymysg y pwyntiau y mae o'n gwneud yw:
- Nad ydy'r lefelau presennol o ddyled yn hanesyddol uchel ac mae modd eu rheoli a'u gostwng yn araf bach wrth i'r economi tyfu allan o'r dirwasgiad.
- Bod y swm o £80 biliwn yn ffigwr sudd wedi ei ddewis ar fympwy, pam dim £60 biliwn neu £40 biliwn neu hyd yn oed £100 biliwn.
- Bod lefelau treth ar hyn o bryd yn isel iawn i gymharu i'r dyddiau a fu pan oedd y gyfradd uchaf yn 83%.
- Mae lol yw dweud bod Prydain mewn twll ariannol - dydy hi ddim mae hi'n parhau i fod ymysg y gwladwriaethau cyfoethocaf yn y byd ac fe gynyddodd gwerth ariannol y 1000 cyfoethocaf o £77 biliwn llynedd.
Traethawd gwirioneddol werth ei ddarllen yn ei gyfanrwydd.
Broke? Or just fooled? How to solve the debt ‘problem’.