23/12/2007

Nadolig Llawen Traddodiadol Cymreig

Mae 'na nifer o bethau, gweddol newydd, sydd bellach yn rhan o draddodiad hanesyddol y Nadolig. Mae'n debyg mae Albert, gwr y Frenhines Victoria oedd yn gyfrifol am y goeden Nadolig sydd yn must have ym mhob tŷ yng Ngwledydd Prydain bellach. Hysbyseb gan Coca-Cola ym 1931 sydd yn gyfrifol, yn ôl y son, am y dyn barfog yn ei benwynni a'i wisg goch, a J Glyn Davies sy'n gyfrifol am enw Cymraeg y gwron Siôn Corn.

Mae'r pethau yma mor gyffredin bellach fel ei bod yn anodd credu bod yna rhai ar dir y byw (gan gynnwys fy rhieni) sydd yn hyn na thraddodiad Siôn Corn a bod y goeden Nadolig wedi ymddangos yn beth newydd estron i bobl yr wyf yn eu cofio, megis fy hen daid.

Rhan arall o draddodiad y Nadolig cyfoes yw clywed arweinwyr crefyddol yn cwyno bod y seciwlar wedi dwyn y Nadolig oddi wrth y Cristionogion. Bod ystyr ac ysbryd y Nadolig wedi ei golli.

Traddodiad anghydffurfiol bu traddodiad crefyddol Cymru ers dros ddwy ganrif. Dydy anghydffurfwyr ddim yn dathlu gwyliau eglwysig. Mae anghydffurfiwr go iawn yn credu bod rhaid cofio am enedigaeth, bywyd, dysgeidiaeth, marwolaeth ac atgyfodiad yr Iesu yn barhaus - nid jyst ar ddyddiau arbennig. Cystal cofio am enedigaeth y Crist ar Fawrth y pymthegfed ag ar Ragfyr y 25in.

Dydy'r Nadolig ddim yn perthyn i draddodiad crefyddol y Cymry o gwbl, a nonsens yw i grefyddwyr Cymru cwyno am golli gwir ystyr gŵyl nad oedd ystyr iddi erioed yn ein traddodiad Cristionogol arbennig ni.

Gall Gristion o Gymro mwynhau hwyl yr ŵyl fel rhan o ddathliad cymdeithasol neu ymwrthod a'r ŵyl fel rhywbeth sy'n perthyn i'r byd. Yr hyn na all Cymro Efengylaidd Cristionogol gwneud yw cwyno am sarhad Nadoligaidd trwy honni bod pobl wedi dwyn oddi wrthym rywbeth nad oedd yn eiddo i'n traddodiad cynhenid yn y lle cyntaf!

Nadolig Llawen i holl ddarllenwyr blog yr HRF. Mwynhewch yr ŵyl trwy loddest, trwy weddi neu trwy'r ddau!

09/12/2007

Rwy’n Licio Stroberis a Chrîm ac yn Hoffi Mefus a Hufen

Dros bymtheg mlynedd ar hugain yn ôl, bellach, cafodd perthynas annwyl imi gais gan HTV i wneud darn nodwedd am bysgota cimychiaid o borthladd y Bermo ar gyfer Y Dydd a Report Wales.

Dyn uniaith Gymraeg, i bob pwrpas ymarferol ydoedd. Cymro coeth a chywir ei Gymraeg, yn gynefin a phob ymadrodd traddodiadol Cymraeg oedd yn perthyn i'r diwydiant pysgota cimychiaid, ac yn un o'r olaf i ddefnyddio'r fath ymadroddion yn naturiol didrafferth.

Roedd o'n siaradwr Saesneg gwan a thrwsgl, efo acen josginaidd ac yn swnio fath a thwpsyn yn ei estroniaeth. Er gwaethaf hyn, roedd o'n fodlon digon i wneud y rhaglen yn y Saesneg ond yn poeni nad oedd ei Gymraeg yn ddigon dda ar gyfer Y Dydd.

Roedd fy niweddar Fam yng nghyfraith yn Gymraes rugl, yn siarad y Gymraeg yn naturiol fel y siaradwyd hi yng ngwaelodion Dyffryn Conwy am ganrifoedd. Ond, o ddeall bod ei merch yn canlyn pregethwr, o bob peth, yn penderfynu bod rhaid iddi siarad Saesneg yn fy nghwmni gan nad oedd ei Chymraeg yn ddigon da i'w defnyddio o flaen pregethwr! Er gwaetha'r ffaith mae chwarter Sais, Cymraeg ail iaith, oedd y pregethwr dan sylw.

Mae diffyg hyder Cymry Cymraeg i siarad Cymraeg ac i ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy o fygythiad i ddyfodol yr iaith nag ydy'r mewnlifiad, o bell ffordd.

Mae'n bwysig i ymgyrch yr iaith bod y syniad o Gymraeg diffygiol yn cael ei ddifa. Mae siarad Cymraeg yn bwysicach na siarad Cymraeg cywir. Gwell yw dweud rwy’n licio stroberis a chrîm na throi i'r Saesneg!

Ond mae cadw safonau ieithyddol yn bwysig hefyd, os am gadw'r iaith Gymraeg yn fyw mae'n rhaid wrth gywirdeb iaith. Mae'n rhaid i ddefnyddwyr y Gymraeg cyhoeddus bod yn ramadegol cywir eu Cymraeg. Mae rhaid i Vaughan Roderick, Bethan Gwanas, Gerallt Lloyd Owen ac ati Hoffi Mefus a Hufen yn hytrach na stroberis a chrîm!.

Ond dyma'r cyfyng gyngor: Lle mae'r we yn ffitio i mewn i'r ddadl cywirdeb iaith?

Wrth ddanfon y post 'ma rwyf yn ei gyhoeddi (ei chyhoeddi?) yn yr iaith Gymraeg, os gyhoeddi mae'n rhaid sicrhau bod y cyhoeddiad yn parchu holl reolau'r iaith. Does dim gwahaniaeth rhwng cyhoeddi yn gyhoeddus yma na chyhoeddi ar Garreg Gwalch neu Lolfa.

Ond ar y llaw arall ai cyhoeddiad, neu sgwrs ar lein yw blog? Fi'n dymuno dweud fy neud fel dwi'n dweud o yma, boed yn ramadegol gywir neu ddim; ond a oes gennyf hawl i wneud hynny heb y sicrwydd bod fy Nghymraeg yn swyddogol digon dda?

Ydy’r ymateb yma i'r post yma yn deg?

08/12/2007

Emynau Cymraeg yn Anghristionogol?

Yn y Daily Post ddoe (tud 11 - dim linc ar gael) roedd yna adroddiad o dribiwnlys diwydiannol lle'r oedd hogan yn honni ei fod wedi ei cham-drin yn y gweithle ar sail rhagfarn grefyddol.

Mae Louise Hender yn dwyn yr achos yn erbyn cwmni gofal o'r enw Prospects. Mae Prospects yn elusen Gristionogol sydd a'i phencadlys yn swydd Berkshire ac sydd â chartref gofal i bobl ag anawsterau dysgu yn Llandudno. Yn 2005 fe gymerodd Ms Hender cyfnod o absenoldeb mamolaeth ac wedi dychwelyd i'r gwaith darganfydd bod y cartref wedi troi yn llawer mwy "Cristionogol" nag y bu.

Ym mysg y newidiadau i Gristionogeiddio'r lle oedd Welsh hymns were replaced with Christian songs !

07/12/2007

Am Glod i Gollwyr!

Enillwyr gwobr rhaglen AM-PM BBC Wales am ymgyrch gorau'r flwyddyn eleni oedd Chris Bryant AS a Leighton Andrews AC am eu hymgyrch i gadw ffatri Burberry y Rhondda ar agor. Llongyfarchiadau mawr i'r ddau ar eu gwobrau.

Ond, oni chaewyd y ffatri er gwaethaf pob ymgyrch? Oni chollwyd yr ymgyrch arbennig yma?

Os mae brwydr a gollwyd oedd ymgyrch gorau'r flwyddyn, ba glod sydd, o fod yn ymgyrchydd gorau?

01/12/2007

Jac y Cymry

Nid ydwyf, am resymau amlwg, yn or-hoff o'r syniad o gynnwys symbol Cymreig ar Jac yr Undeb, ond fe wnaeth y ddau awgrym isod codi gwen:





Diolch i Paul Flynn AS

30/11/2007

Biniau Peryglus!

Mae llawer o drafodaeth wedi bod yn diweddar yn erbyn yr arfer o gasglu biniau lludw yn bymthegnosol yn hytrach nag yn wythnosol fel bu'r arfer ers degawdau.

Mae'r nifer o'r dadleuon wedi eu hen arfer: drewdod, pryfaid, pydredd, llygod, blerwch, cathod; ac ati. Ond mi glywais ddadl newydd (i mi o leiaf) heno.

Yn ôl cyn cyd-weithiwr imi, sydd bellach yn gweithio mewn adran damweiniau ac argyfwng ysbyty, roedd damweiniau a oedd yn ymwneud a bin sbwriel yn bethau achlysurol iawn yn yr adran gynt. Mor brin, bod stori'r boi a anafwyd yn ei fin yn peri chwerthin yn y gyfadran. Ers i ddalgylch yr ysbyty dechrau casglu biniau yn bymthegnosol mae achosion o'r fath wedi dod yn gyffredin iawn, iawn. Mor gyffredin fel eu bod yn achosi pwysau ychwanegol ar yr uned damweiniau.

Mae'r anafiadau, gan amlaf, yn digwydd o herwydd bod pobl yn neidio yn eu biniau i geisio gwasgu'r gwasarn a chael mwy o rwtsh yn y bin.

Mi fyddai'n ddifyr gwybod os oes yna ystadegau swyddogol i gefnogi'r dystiolaeth anecdotaidd yma. Ac os oes, diddorol bydda wybod faint o gost ychwanegol sy'n cael ei godi ar y GIG trwy'r arfer o gasglu biniau pob pythefnos.

28/11/2007

Pleidleisiau y Loteri

Yr wyf wedi pleidleisio dwywaith heddiw. Yn gyntaf mi fwriais bleidlais i brosiect sy'n ceisio adfer parc cyhoeddus Dolgellau, i ennill nawdd o Gronfa'r Loteri Fawr; yn ail mi roddais gefnogaeth i brosiect Sustrans Connect2 i dderbyn arian o Gronfa £50 Miliwn y Bobl.

Rhaid cyfaddef fy mod i heb bleidleisio mewn modd gwrthrychol, trwy edrych ar yr holl brosiectau dan sylw a chefnogi'r un mwyaf haeddiannol. Mi fwriais fy mhleidlais am resymau plwyfol a hunanol. Bydd aelodau o fy nheulu sy'n byw yn y dre yn cael bendith o barc Dolgellau, a phrosiect Sustrans yw'r unig un o'r pedwar dan sylw sydd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru. Mae'n siŵr bod mwyafrif o'r rai sydd wedi bwrw pleidlais wedi gwneud hynny am resymau unigoliaeth yn hytrach na rhai gwrthrychol.

Os nad yw'r arian yn cael ei rannu ar sail wrthrychol mae'n rhaid amau cyfiawnder rhannu grantiau'r Loteri trwy bleidlais boblogaidd. Mae Dolgellau yn cystadlu am grant yn erbyn prosiect yn Nhreffynnon. Poblogaeth y naill dref yw 2,700 tra bod y llall a phoblogaeth o 8,700, mae'r rhifyddeg yn rhoi mantais glir ac annheg i Dreffynnon. Nos yfory bydd pentref bach Penarlâg yn cystadlu yn erbyn dinas fawr Abertawe am arian!

Mae yna ambell i achos da sydd ag apêl fwy poblogaidd nag eraill. Bydda brosiect i helpu plant bach sâl yn sicr o ddenu llawer mwy o gefnogaeth na phrosiect i helpu oedolion sy'n gaeth i gyffuriau er enghraifft. Mae'n haws i brosiectau poblogaidd denu arian o ffynonellau eraill nag ydyw i'r achosion llai poblogaidd. Gan hynny yr achosion llai poblogaidd sydd a'r angen fwyaf am grant.

Mae yna rywbeth ffiaidd yn y syniad o drin achosion da fel cystadleuwyr mewn sioe cwis câs, lle mae'r enillydd yn ennill popeth a'r collwr yn cael ei drin fel y ddolen gwanaf, sy'n cerdded i ffwrdd efo dim.

Rwy'n credu'n gryf dylid rhoi'r gorau i ddosbarthu arian elusennol mewn ffordd mor annheg a chael hyd i ffordd sydd yn ymdrin â phob cais mewn modd cytbwys a gwrthrychol.

17/11/2007

Cymru, Lloegr a thegwch ar y Bîb

Mae'r BBC am gynnal arolwg i weld os ydy digwyddiadau yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd yr Iwerddon yn cael cynrychiolaeth deg ar raglenni Newyddion Prydeinig y Sianel.

Prin fod angen gwario miloedd ar y fath arolwg. Mae'r ateb yn glir. Prin iawn yw'r wybodaeth am wledydd llai'r DU ar raglenni megis News at Ten .

Pe bai dyn yn dirymu ar newyddion Prydeinig y BBC am wybodaeth o'r cynulliad eleni, yr unig beth fyddai'n gwybod, bron, yw bod y Cynulliad wedi lladd Siambo.

Ond rwy'n amau bod yr arolwg yn edrych ar y cwestiwn anghywir. Mae gan Gymru a'r Alban eu gwasanaethau newyddion cenedlaethol eu hunain. Mae'n wir fod gormod o bobl yn dewis peidio gwylio newyddion Cymreig - ond cwestiwn arall yw hynny. Yr unig wlad sydd heb wasanaeth newyddion a materion cyfoes cenedlaethol yw Lloegr.

Mae modd imi wylio rhaglenni sydd yn ymwneud a gwleidyddiaeth unigryw fy ngwlad. Does dim modd i'r Sais gwneud yr un peth. Mae'r Sais yn hollol ddibynnol ar y gwasanaeth Prydeinig.

Ers datganoli mae gan Loegr gwleidyddiaeth unigryw sydd yn wahanol i wleidyddiaeth Cymru, yr Alban a Gogledd yr Iwerddon. Gwendid mwyaf gwasanaethau newyddion y BBC (a sianeli eraill) yw nad ydynt yn cydnabod hyn trwy greu rhaglenni Saesnig.

Pe bai gwasanaeth cenedlaethol i Loegr yn cael ei greu rwy'n sicr mae un o sgil effeithiau hynny byddid cynrychiolaeth decach o holl wledydd y DU ar y gwaddol o raglenni Prydeinig.

06/11/2007

Tân Gwyllt Cymreig?

Mae yna nifer o resymau dros beidio â dathlu gwyl Guto Ffowc. Yn amlwg mae'n wyl Prydeinllyd - yn cael ei ddathlu ar raddfa Brydeinig ac yn cael ei gynnal i ddathlu goroesiad Senedd a Brenin Lloegr.

Mae o'n wyl sy'n annog anoddefgarwch crefyddol, yn dathlu ymosodiad ar ryddid barn ac yn clodfori agwedd ffiaidd tuag at drosedd a chosb..

Ond mae'r plantos yn mwynhau noson tân gwyllt a dim ond rhiant crintachlyd bydda am rwystro eu plant rhag ymuno yn yr hwyl o herwydd cywirdeb gwleidyddol.

Be mae rhiant gwladgarol Cymreig am wneud, felly? Be am gael noson tân gwyll i ddathlu digwyddiad cenedlaethol Cymreig yn ystod yr un cyfnod o'r flwyddyn? Oes yna ddigwyddiadau addas ar gael?

Tân Gwyllt Cymreig?

Mae yna nifer o resymau dros beidio â dathlu gwyl Guto Ffowc. Yn amlwg mae'n wyl Prydeinllyd - yn cael ei ddathlu ar raddfa Brydeinig ac yn cael ei gynnal i ddathlu goroesiad Senedd a Brenin Lloegr.

Mae o'n wyl sy'n annog anoddefgarwch crefyddol, yn dathlu ymosodiad ar ryddid barn ac yn clodfori agwedd ffiaidd tuag at drosedd a chosb..

Ond mae'r plantos yn mwynhau noson tân gwyllt a dim ond rhiant crintachlyd bydda am rwystro eu plant rhag ymuno yn yr hwyl o herwydd cywirdeb gwleidyddol.

Be mae rhiant gwladgarol Cymreig am wneud, felly? Be am gael noson tân gwyll i ddathlu digwyddiad cenedlaethol Cymreig yn ystod yr un cyfnod o'r flwyddyn? Oes yna ddigwyddiadau addas ar gael?

20/10/2007

Diwrnod Cefnogi Siopau Bach

Mae'n debyg bod heddiw wedi ei bennu yn Ddiwrnod Cefnogi Siopau Bach.

Mae Undeb yr Annibynwyr am inni brynu ein nwyddau heddiw yn siop y pentref yn hytrach na'r archfarchnadoedd mawr.

Syniad clodwiw iawn rwy'n siŵr. Yn anffodus y cyntaf imi glywed am y cynllun oedd wrth imi godi copi o'r Cymro yn Tesco 'pnawn yma - yr unig siop yn yr ardal hon sy'n gwerthu'r papur.

Ysgolion Gwynedd

Mi fydd yn anodd ar y naw i Blaid Cymru cadw ei gafael ar Gyngor Sir Gwynedd ar ôl etholiadau mis Mai nesaf os ydy'n bwrw 'mlaen a'r cynllun addysg a gyhoeddwyd ddoe. Cynllun bydd yn cael effaith andwyol ar dros 80% o ysgolion cynradd y sir. Mae cyhoeddi cynllun o'r fath namyn chwe mis cyn etholiad megis gweithred o hunanladdiad gwleidyddol ac yn anodd iawn ei ddeall yn nhermau gwleidyddol, heb son am ei effaith ar addysg yn y sir.

Yn ardaloedd cryfaf y Blaid, Dwyfor a Meirionnydd, dim ond dwy ysgol arbennig sydd yn cael eu hamddiffyn rhag y fwyell!

Rwy'n ddeall mae Llywodraeth Lafur y Cynulliad diwethaf a orfododd pob sir yng Nghymru i edrych ar strwythur eu hysgolion cynradd, felly tal hi ddim i ambell i gefnogwr y Blaid Lafur i lyfu gên yn ormodol am y sefyllfa. Ond wedi dweud hynny rwy’n methu yn fy myw a deall pam bod cyngor Plaid Cymru Gwynedd wedi penderfynu ymateb i orchymyn y llywodraeth Lafur mewn modd mor eithafol.

Mae rhai agweddau o'r polisi a gyhoeddwyd ddoe yn gwbl annealladwy. Pam bod y cyngor wedi penderfynu cau Ysgol y Clogau? Mae gan y Clogau 39 o ddisgyblion ar ei lyfrau (nid y 25 mae'r cyngor yn honni). Mae Ysgol y Ganllwyd, sydd ag 20 o blant, ac yn yn nes at ei hysgol gynradd agosaf nag ydyw Ysgol y Clogau am ei gadw ar agor fel safle addysgol. A'i geisio ennill y frwydr trwy osod ysgol yn erbyn ysgol yw'r diben? Does dim synnwyr yn y peth!

Mae dwy ysgol gynradd Dolgellau ymysg yr ysgolion cynradd mwyaf yng Ngwynedd. Gan eu bod ar draws y ffordd i'w gilydd hwyrach bod synnwyr yn y syniad o'u huno yn weinyddol, ond mae eu cau a'u huno a'r ysgol uwchradd er mwyn creu un ysgol 3-16 oed yn orffwyll ac yn ymylu ar fod yn anfoesol.

Mae'r syniad o fynd i'r ysgol fawr yn gam bwysig yn natblygiad plentyn, mae'n rhan o dyfu fyny a derbyn cyfrifoldeb. Mae'r cam yma i'w dynnu oddi ar blant Dolgellau (ac, o bosib, plant Harlech hefyd). Pe bawn yn dad i blentyn 3 neu 4 oed byddwn yn anfodlon a'r syniad bod y bychan am fentro i fyd addysg mewn ysgol oedd yn cynnwys plant mawr, cyhyrog, ffiaidd eu tafodau a llawn hormonau 16 oed. Pe bawn yn gwr ifanc 16 oed ar drothwy dod yn oedolyn ni fuaswn am fynychu'r un ysgol a babanod 3 oed.

Mae cynlluniau Gwynedd yn ddrwg i addysg ac yn wleidyddiaeth farwol i'r Blaid. Mae'n rhaid i'r Blaid yng Ngwynedd taflu'r cynllun hurt yma allan ar y cyfle cyntaf un.

11/10/2007

Cydsyniad Tybiedig

Ar ddiwedd pob Sesiwn Lawn o'r Cynulliad mae aelod o'r meinciau cefn yn cael codi pwnc o ddiddordeb iddo / iddi mewn dadl fer. Dr Dai Lloyd gafodd y fraint ddoe, a'i bwnc oedd Cydsyniad Tybiedig ar gyfer rhoi organau.

Os digwydd i ddyn marw yn sydyn ond yn weddol iach - trwy ddamwain, dyweder - mae modd defnyddio nifer o ddarnau iach o'i gorff ar gyfer trawsblaniadau. Ar hyn o bryd mae'n rhaid i'r unigolyn cydsynio cyn ei farwolaeth i gael defnyddio ei organau neu mae'n rhaid i'w berthynas agosaf cydsynio ar ôl ei farwolaeth.

Cyn imi briodi, tra roedd fy nhad yn berthynas agosaf imi, roeddwn yn cario cerdyn rhoddwr. Mae'r hen ddyn yn credu bydda ddoctor, o weld y cyfle i achub 5 bywyd trwy aberthu un, yn dewis aberthu'r un bywyd yna yn hytrach na cheisio ei achub. Gan hynny mi fyddai'n gwrthod rhoi cydsyniad rhoi organ ar ôl farwolaeth un o'i blant. Rwy'n anghytuno, ond yn parchu ei farn - dyna paham yr oeddwn yn cario'r cerdyn.

Ers imi briodi rwy'n gwybod bod fy mherthynas agosaf bellach, Mrs HRF, yn gefnogol i roi organau - ond mae hi'n credu mai temtio ffawd yw cario cerdyn rhoddwr. Rwy'n anghytuno a hi hefyd, ond i barchu ei barn nid ydwyf yn cario cerdyn mwyach ac nid ydwyf ychwaith (am yr un rheswm) wedi cofrestru fel rhoddwr.

Mae Dr Lloyd yn awgrymu dylid newid y drefn. Yn hytrach na derbyn bod unigolyn yn gwrthod rhoi ei organau oni bai bod yna brawf o'i bodlonrwydd (cerdyn neu enw ar restr), sef y drefn bresennol; dylid derbyn bod unigolyn yn cydsynio i ddefnyddio ei organau ar gyfer trawsblaniad oni bai ei fod o, neu aelod agos o'i deulu, yn gwrthwynebu.

O ran rhoi organau bydda'r syniad o gydsyniad tebygol yn gwneud pethau yn haws i mi, ond, mae'r cynsail bydda'r fath drefn yn creu yn fy mhoeni. Mae'r syniad bod dyn yn cytuno oni bai ei fod yn anghytuno yn syniad gwrthun i'w tybio, ac yn arf peryglus i roi i wleidyddion (a gwleidydd yw Dr Dai bellach, yn hytrach na meddyg, cofier).

Mae modd cofrestru i roi organau yn wirfoddol trwy ymweld â'r wefan yma.

02/10/2007

3500 iaith ar fin farw

Diolch i Peter D Cox am y ddolen at yr erthygl yma yn National Geographic 18 Medi eleni:

Languages Racing to Extinction

Erthygl sy'n honni bydd dros hanner o ieithoedd cyfredol y byd wedi marw cyn diwedd y ganrif, a bod ieithoedd yn marw allan yn gynt nag ydy rhywogaethau.

Erthygl frawychus ond gwerth ei ddarllen.

28/09/2007

Gwarth Titwobble yn y Teulu

Pan ddaw'r copi newydd o Golwg i'r Tŷ 'ma mi fydd gennyf, fel arfer, rhyw sylw bachog i'w gwneud ar y blog am ei gynnwys gwleidyddol.

Mae hynny'n amhosibl heddiw gan fy mod am guddio fy mhen mewn cywilydd.

Yr wyf yn gwrido o weld y copi cyfredol! Ar y tudalen blaen ac eto ar dudalen 24 mae yna lun o fy nghyfnither hoff Olwen Levold. Roedd Mam Olwen nid yn unig yn fodryb imi ond yn athrawes ysgol Sul arnaf hefyd. Teulu Olwen oedd ochor barchus y teulu!

Roedd Olwen a fi yn arfer cyd fodio i gyfarfodydd o Gymdeithas yr Iaith a Mudiad Adfer efo'n gilydd ac yn arfer cynllwynio yn ein glaslencyndod i wirio holl broblemau'r byd

Ond ow! ac och! dyma Olwen yn ymddangos yng Ngolwg, ar ei newydd wedd, fel Teresa Titwobble o' Tool. Cywilydd a gwarth i'r teulu. A oes modd imi godi fy mhen mewn cymdeithas barchus eto gan wybod bod Titwobble yn y teulu?

I'r rhai ohonoch sy'n ymhyfrydu yn y fath ychafinas, bydd sioe Olwen Bei-Ling Burlesque i'w gweld yn Theatr y Chapter, Caerdydd ar Hydref 5ed a'r 6ed. Diolch byth mae yng Nghaerdydd ydyw ac nid yn Nolgellau!!!!!

21/09/2007

Clod, Dave Collins a'r Gymraeg

Mae erthygl olygyddol y rhifyn cyfredol o'r cylchgrawn Golwg yn awgrymu bod blogwyr gwladgarol Cymru wedi ennill rhyw fath o fuddugoliaeth fawr trwy ddiswyddiad Dave Collins.

Fel Sanddef a Welsh Ramblings, rwy'n methu gweld buddugoliaeth nac achos ymffrost yn y ffaith bod tad i deulu ifanc wedi ei roi ar y clwt am ddim byd mwy na mynegi sylw ar flog.

Er anghytuno yn chwyrn a barn Dave Collins rwy'n credu bod y ffordd y mae o wedi ei drin gan ei gyflogwyr yn warthus, yn llawdrwm ac yn gwbl anghyfiawn. Ac o ystyried mae plaid, honedig, y gweithwyr oedd y cyflogwr a'i diswyddodd mai'n brawf o ragrith a haerllugrwydd ymrwymiad y Blaid Lafur at hawliau gweithwyr.

19/09/2007

Cofio 1997

Un o'r pethau sydd yn mynd dan fy nghroen i wrth gofio 1997 yw'r honiad bod y rhai a methodd pleidleisio ar y diwrnod naill ai yn dawel yn erbyn datganoli, neu yn rhy ddi-hid i drafferthu pleidleisio.

Ar ddiwrnod y bleidlais cafodd fy Mam yng nghyfraith trawiad ar ei chalon, danfonwyd hi i'r ysbyty am chwech y bore, fe fûm i, fy ngwraig, chwaer fy ngwraig a fy mrawd yng nghyfraith yn yr ysbyty trwy'r dydd yn disgwyl y gwaethaf. Am hanner awr wedi deg y nos cawsom gwybod bod Mam wedi dod dros y gwaethaf a bod gobaith iddi gael gwellhad.

Dyna bump pleidleisiwr, pob un yn gefnogwyr datganoli, fel mae'n digwydd, na phleidleisiodd ar y diwrnod AM RESWM NAD OEDD DIM I'W GWNEUD A DIFATERWCH. Rwy'n siŵr bod hanesion tebyg ym mysg y gwrthwynebwyr hefyd.

Peidied neb honni mae difaterwch oedd y rheswm dros bob diffyg pleidlais!

Y Blaid a Democratiaid Lloegr

Yn union wedi etholiad 2005 mi ddanfonais bwt o lythyr at Elfyn Llwyd, arweinydd Seneddol Plaid Cymru San Steffan. Dyma ei gynnwys:

Annwyl Elfyn,

Er gwaethaf pob ymdrech i'w trechu, mae pobl "ar y stryd" yn dal i deimlo bod Plaid Cymru yn blaid "gwrth Seisnig" ac yn amherthnasol i wleidyddiaeth Prydain Fawr.

Gai awgrymu rhywbeth bach gellir ei wneud i newid rhywfaint ar yr agwedd yma? Rhywbeth gellir ei wneud yn syml heb gost, heb newid strwythur y Blaid a heb newid polisïau.

Mae yna blaid weddol newydd yn Lloegr - wedi sefyll am ddim ond yr ail dro, mi gredaf, yn yr etholiadau diwethaf, sef yr English Democrat Party. Yn wahanol i bleidiau cenedlaethol Seisnig o'r gorffennol dydy'r blaid yma ddim yn hiliol nac yn asgell dde eithafol. Ei nod yw ennill i Loegr Senedd gyda'r un grymoedd a Senedd yr Alban - trwy raid bydda ennill y nod yma yn rhoi'r un grymoedd i Gymru.

Trwy gydweithio tipyn bach gyda'r Blaid yma - gwahodd aelod i siarad yn y gynhadledd nesaf, cael aelod mewn ambell i gynhadledd i'r wasg ar y cyd gyda'r SNP - ffeirio hanner awr o gymorth canfasio - gellir rhoi neges seicolegol i bobl Cymru bod polisïau cyfansoddiadol y Blaid YN berthnasol i BOB rhan o wledydd Prydain ac yn bolisïau sydd â neges bositif ynddynt i Loegr a hawliau pobl Lloegr yn hytrach na'u bod yn wrth-Seisnig.


pob hwyl

Alwyn


Dyma'r ateb, siomedig cefais:

Annwyl Alwyn

Diolch am yr e-bost isod ac am dy sylwadau.


Fel mae'n digwydd rwyf wedi cael gwahoddiad i annerch Cynhadledd yr English Democrats Party ond mae eu syniadau nhw ar ddyfodol Ewrop yn gwbl wrthyn yn anffodus. Oherwydd hynny mae hi yn anodd iawn gen i ystyried cydweithio hefo nhw - ond fe gymeraf y pwynt yr wyt yn ei wneud.

Dymuniadau gorau.

Yn ddiffuant

Elfyn.


Rwy'n deall pwynt Elfyn, yr wyf innau yn anghytuno a nifer o bolisïau Democratiaid Lloegr hefyd. Ond onid pwrpas datganoli / annibyniaeth yw caniatáu i wledydd gwneud eu penderfyniadau eu hunain? Mae awgrymu bod rhaid i Genedlaetholwyr Cymru, yr Alban, Cernyw a Lloegr bod yn gytûn ar bopeth cyn cael cytundeb i gydweithio yn drewi o Unoliaeth imi!

Ta waeth, yr wyf yn falch o weld bod yr SNP yn llai cibddall nag ydy Elfyn Llwyd, a bod yr SNP wedi danfon gwestai i Gynhadledd y Democratiaid Seisnig dros fwrw'r Sul diwethaf. Rwy'n gobeithio yn arw bydd Plaid Cymru yn gweld y goleuni cyn bo hir!

16/09/2007

Gliniaduron y Blaid (eto)

Un o'r polisïau mwyaf gwreiddiol i'w gosod gerbron yr etholwyr yn ystod etholiadau mis Mai oedd polisi Plaid Cymru i gynnig gliniaduron i bob plentyn ysgol. Mae cynllun peilot ar gyfer y polisi yn rhan o gytundeb Cymru'n un, ond does dim son di bod hyd yn hyn parthed pa bryd bydd y cynllun peilot yn cychwyn.

Mae ysgol uwchradd ar ynysoedd Yr Hebrides wedi achub y blaen ar y Blaid trwy gynnig gliniadur i bob un o blant Ysgol Uwchradd Bowmor ar Ynys Islay. Hyd yn hyn mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiannus ac yn boblogaidd iawn ymysg rhieni, y plant a'u hathrawon.

Un o'r cwynion gan y pleidiau eraill am gynllun y Blaid oedd y gost (fel arfer). Mae'r cynllun Albanaidd yn un llawer drytach y pen nag yr un a bwriadwyd gan y Blaid. Mae ysgol Bowmor wedi gwario £750 y disgybl er mwyn cael cyfrifiaduron a meddalwedd o'r safon uchaf. Ond er gwaethaf y gost roedd prifathro'r ysgol yn awgrymu bod y prosiect yn mynd i arbed llawer o arian i'r ysgol yn y tymor hir. Yn wir roedd o'n awgrymu ar Politics Scotland prynhawn 'ma bydd modd prynu cyfrifiaduron i ddisgyblion newydd y flwyddyn nesaf allan o hanner yr arbedion bydd yr ysgol yn gwneud ar ei fil ffotocopïo yn unig.

Mae'r cynllun yma yn yr Alban yn un i'r Blaid cadw llygad arno fel prawf bod rhai o'i syniadau ddim cweit mor wirion ag y mae rhai o wrthwynebwyr y Blaid yn awgrymu.

15/09/2007

Symyd o'r Bae i'r Gyffordd, da neu ddrwg?

Yn ôl tudalen blaen y rhifyn cyfredol o'r Cymro (14.09.07) mae Gareth Jones AC yn gandryll o herwydd y penderfyniad i ohirio'r cynllun i adleoli adrannau o'r Cynulliad Cenedlaethol i Gyffordd Llandudno am o leiaf dwy flynedd.

Rwy'n cytuno a llawer o gŵyn Mr Jones:

Mae angen i Gymru Gyfan elwa o ddatganoli ac mae'n rhwbio halen i'r briw yn yr ardal yma fod swyddi wedi mynd i Ferthyr Tudful a bod rhai i Aberystwyth ar eu ffordd

Rwy'n cydymdeimlo a llawer o rwystredigaeth Mr Jones bod y Cynulliad, unwaith eto, yn trin y gogledd mewn modd eilradd. Os yw'r Cynulliad, wir yr, am fod yn Gynulliad Cenedlaethol, mae'n rhaid iddi brofi i bobl, o bob parth o'n gwlad, mae nid Cynulliad Caerdydd mohoni!

Ond, mae gan nifer o bobl Conwy amheuon parthed cynllun y Gyffordd. Maent yn teimlo mae symud 600 o swyddi o Gaerdydd yw'r bwriad yn hytrach na chreu cyfleoedd i bobl leol.

Yr unig swyddi i bobl leol sy'n debygol o fod ar gael yn y Gyffordd bydd swyddi isel eu cyflog megis swyddi glanhawyr. Bydd y swyddi cyflog mawr i gyd yn cael eu cyflenwi gan Goloneiddwyr o Gaerdydd sy'n cael eu symud o'r ddinas i'r stics!

Siawns bod mymryn bach o ymyl arian i'r cwmwl o ohirio'r prosiect yn y Gyffordd. Sef y cyfle i bobl sir Conwy gwerthuso'r prosiectau i symud swyddi o Gaerdydd i Ferthyr ac Aberystwyth a chael gweld os ydynt yn cynnig mantais i bobl leol yn hytrach na'u bod yn ddim byd llai nag ymerfariad o symud cyrff o Gaerdydd i'r Gogledd.

13/09/2007

Dim Darlledu Cymraeg o Gynhadledd y Blaid

Mae Adam Price yn honni yn y rhifyn cyfredol o'r Western Mail mae Cynhadledd y Blaid eleni, sydd yn cychwyn yn Llandudno heddiw, bydd y gynhadledd bwysicaf yn hanes y Blaid erioed. Mae peth cyfiawnhad i froliant yr AS, dyma fydd y gynhadledd gyntaf yn ei hanes i'w cynnal gyda'r Blaid yn rhan o lywodraeth ein gwlad.

Er gwaethaf pwysigrwydd y Gynhadledd ymddengys bydd Golygydd Materion Cymreig y BBC (a blogiwr gwleidyddol Cymraeg y gorfforaeth) yn rhy brysur i'w fynychu. Ac, am y tro cyntaf imi gofio ers i'r sianel cael ei sefydlu, bydd dim un rhaglen o'r gynhadledd yn cael ei ddarlledu ar S4C.

Yr ateb i 'Luned

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol roedd Eluned Morgan yn pryderu am y ffaith bod cyn lleied o bobl Cymraeg eu hiaith yn cefnogi'r Blaid Lafur bellach. O dan nawdd Cymdeithas Cledwyn mae hi, Meri Huws (cyn Cadeirydd CyIG) ac Alun Davies AC am gynnal gweithgor ymchwil i geisio'r rhesymau pam bod y Cymry Cymraeg yn ymwrthod a Llafur.

Rwy’n' awgrymu bod Eluned a'i gweithgor yn holi Dave Collins, ymgeisydd Cyngor ar gyfer y Blaid Lafur ac un sy'n cael ei gyflogi gan Lafur yn y Cynulliad, er mwyn cael hyd i'r ateb.

Dyma farn Dave Collins am ddysgu'r Gymraeg mewn ysgolion:

Compulsory Welsh may also diminish young pupils enthusiasm for education and their confidence in their ability to master a subject. You cannot successfully teach a practically brain dead language to young children whose families don't want it revived or couldn't care less about it. It can only be dulling for them. Yet the education system is trying to do just that, under the ridiculous premise that everyone should be adopting a "Welsh identity" - and the obnoxious premise that they should be compelled to.

A oes rhaid i Eluned, Meri ac Alun ymchwilio ymhellach am y rheswm pam bod gymaint o Gymry Cymraeg yn casáu'r Blaid Lafur?

DIWEDDARIAD

Mae blog Keir Hardley bellach wedi ei ddileu. Ond mae sylwadau hurt Dave Collins i'w gweld o hyd mewn post ar flog Martin (lle gwnaed y sylwadau yn wreiddiol)

06/09/2007

Yr Ateb i Dlodi - Sioe Max Boyce?

Mae canran o'r arian Amcan Un sydd wedi ei roi gan y Gymuned Ewropeaidd er mwyn tynnu ardaloedd tlotaf Cymru allan o dlodi wedi ei gyfeirio at gynllun o'r enw "Cymunedau'n Gyntaf". Ond rwy'n methu gweld sut mae rhoi tocynnau rhad i weld cyngerdd gan Max Boyce o dan cynllun Cymunedau'n Gyntaf, yn cyfrannu tuag at dynnu Cymru allan o dlodi.

Rwy'n llongyfarch Max Boyce ar ei haelioni, personol, unigol o ganiatáu i fwy na'r nifer cyffredin a byddai'n manteisio ar gynllun Cymunedau'n Gyntaf i gael gweld ei sioe yn rhad.

Rwy'n siŵr bod y sioe yn wych (fel bydd pob un o sioeau Max) ond, a ydy Caernarfon yn gyfoethocach - yn ystyr wir fwriad Amcan Un - oherwydd bod cymaint o dlodion y dref wedi gweld sioe Max?

Gweler Hefyd:
Martin yn dwyn y clod am haelioni Max, fel cefnogaeth i gynllun gwantan y Blaid Lafur.

04/09/2007

Byddin Prydain?


Un o'r sylwadau hurt a glywir gan y gwrth Gymreig hyd at syrffed yw na fyddai modd i Gymru annibynnol cynnal byddin effeithiol.

Baner lluoedd arfog pa wlad sydd wedi bod yn chwifio ar draws tudalennau papurau Llundain trwy'r dydd heddiw felly?

01/09/2007

Yr Hen Newyddion Diflas

Mae Arch-Gwynwr Cymru, Gwilym Owen, yn honni yn y rhifyn cyfredol o'r Cymro bod newyddion S4C wedi aros yn ei hunfan er dechreuad y Sianel.

Gan fod 60% o'r newyddion heno yn ymwneud a digwyddiad a fu deng mlynedd yn ôl (marwolaeth hogan ddibwys), hwyrach bod gan yr hen rech blinach na fûm i erioed pwynt dilys!

31/08/2007

Blogio yn yr Heniaith

Wrth imi roi cychwyn ar flogio, tua mis Ebrill, fy mwriad oedd cynnal blog dwyieithog. Cefais fy mherswadio mae dau flog cyfochrog y naill yn y Gymraeg a'r llall yn y Saesneg oedd y trywydd callaf i'w dilyn. Felly mae gennyf dau flog cyfochrog Hen Rech Flin a Miserable Old Fart.

Rhaid cyfaddef bod mwy o byst Saesneg na rhai Cymraeg gennyf am amryfal resymau.

Dyma un ohonynt:

O ddanfon neges i MOF, bydd tua dau gant yn ei ddarllen. O ddanfon neges debyg i HRF bydd tua ugain yn ei ddarllen. Ar ddyddiau di neges bydd hyd at gant yn darllen MOF, ar ddyddiau di neges bydd tua neb yn darllen HRF.

Mae blog Saesneg Sanddef yn aelod o gymdeithas blogio o'r enw Blogpower, lle mae blogwyr gwleidyddol Prydeinllyd yn cefnogi cyd aelodau o'u grŵp trwy addo gwneud pethau megis:

Darllen blogiau eu cyd aelodau pob dydd

Postio sylw er cynnal trafodaeth

Cyd lincio i flogiau'r aelodau eraill.

Traws ymateb mewn pyst


Rwy'n blogio yn y Saesneg er mwyn cael dweud fy nweud, rwy'n blogio yn y Gymraeg er mwyn bod yn wleidyddol cywir fy nghefnogaeth i'r iaith!

A oes modd cynnal cymdeithas debyg i Blogpower i'r sawl sy'n blogio yn y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod ein perlau yn cael eu darllen gan gyd flogwyr, o leiaf, os nad gan neb arall?

26/08/2007

Yr Hen Bechodau

Bu nifer o adroddiadau yn y wasg dros y dyddiau diwethaf am hen ddynion yn cael eu dedfrydu yn y llysoedd am droseddau a gyflawnwyd ganddynt yn eu hieuenctid. Un hynafgwr hyd yn oed yn cael ei gollfarnu ar ei wely angau. Mae'n debyg bod dulliau arbrofi newydd wedi galluogi'r heddlu i ail ymweld ag ambell i hen drosedd a dod a'r troseddwyr i gyfraith ar ôl maith amser.

Ond gan fod cwynion parhaus am ddiffyg son am slobs ar lon, cyllidebau tyn a charchardai llawn, a'i dedfrydu hynafgwr am drosedd glaslanc yw'r defnydd gorau o adnoddau cyfiawnder? Onid gwell byddid cael, megis yn yr UDA, statud ffiniau cyfiawnder, sydd yn dweud nad oes modd erlyn unigolyn am drosedd a gyflawnwyd mwy na hyn a hyn o flynyddoedd yn ôl?

Neu ydi dal ac erlyn troseddwr, yn arbennig yn achosion difrifol megis llathrid, cam drin plant a llofruddiaeth, yn rhoi rhywfaint o gymorth a rhyddhad i'r dioddefwyr - hyd yn oed os oes rhaid iddynt ddisgwyl ugain, deugain neu hanner can mlynedd cyn gweld cwrs cyfiawnder yn dod i ben?

YouGov a Chymru

Yn ôl y son, polau piniwn YouGov sydd wed darogan y canlyniadau cywiraf yn etholiadau'r Alban dros flynyddoedd lawer. Yn anffodus dydy YouGov ddim yn cyhoeddi polau Cymreig. Un o'r rhesymau am hynny yw nad oes digon o gyfranwyr Cymreig ar gael i wneud pôl dibynadwy. Mae Cymru yn cael ei gyfrif fel rhan o Ganolbarth Lloegr ar gyfer ei bolau, mae'n debyg.

Does dim modd curo pôl YouGov trwy annog 5 mil o gefnogwyr y Blaid i ymuno a'r cynllun, gan fod y rheolwyr yn dewis a dethol pwy sydd i ateb pob cwestiwn yn ôl rheolau pendant, ond po fwyaf o Gymry sydd yn aelodau, po fwyaf yw'r gobaith o gael digon o Gymry yn y cynllun i wneud pôl Cymreig yn rhywbeth gwerth chweil.

Mae'r rhai sydd yn aelodau o YouGov yn cael eu talu am gyfrannu at bôl (dim ond chweigan y tro), ac mae'n rhaid ennill £50 cyn gellir hawlio'r tâl, sef can holiadur.

O gysylltu trwy glicio ar y ddolen yma, mi gaf i chweigien yn ychwanegol am eich cyflwyno. Ond nid ydwyf yn annog aelodaeth am y chweigian, rwy'n credu bod angen mwy o gyfranwyr o Gymru, gwir yr, er mwyn creu polau Cymreig dibynadwy. Mae modd darganfod ffurf o ymaelodi a YouGov trwy Gwgl, heb i mi cael dime o gildwrn, os nad ydych am imi gael y cildwrn ymunwch felly, da chi!

19/08/2007

Yr Alban - un o'r Cenhedloedd Unedig?

Yn y rhifyn cyfredol o'r Sunday Herald, mae yna erthygl ddiddorol gan John Mayer. Rwy'n ansicr os mae John Mayer y cerddor ydyw neu unigolyn sy'n digwydd rhannu'r un enw, ond beth bynnag bo cefndir awdur yr erthygl mae ei gyfraniad yn un gwerth ei ddarllen.

Mae Mayer yn annog Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond i wneud cais i'r wlad cael ymuno a'r Cenhedloedd Unedig. Syniad anghall ar un wedd gan nad yw'r Alban yn wlad annibynnol, ond mae Mayer yn egluro bod cynsail i wledydd sy' ddim yn annibynnol ymuno ar CU. Mae'n debyg bod yr India, Belarus, Ynysoedd y Ffilipin a'r Iwcraen oll wedi dod yn aelodau llawn o’r CU cyn eu bod yn wledydd annibynol. Mae gan y Palestiniaid aelodaeth sylwedydd o'r CU, er nad oes fawr obaith o weld Palestina annibynol yn y tymor byr.

Mae un aelod o senedd yr Alban, Michael Matheson, eisoes wedi rhoi ei gefnogaeth i'r alwad, ac mae aelodau pwysig ond dienw o'r SNP wedi awgrymu bod y syniad yn un sydd yn adlewyrchu dymuniad y Prif Weinidog i weld yr Alban yn cael ei gynrychioli ar gyrff rhyngwladol. Pe bai'r Alban yn gwneud cais ac yn cael ei wrthod oherwydd gwrthwynebiad llywodraeth y DU bydda hynny'n fêl ar fysedd y cenedlaetholwyr, pe bai'r Alban yn cael ei dderbyn mi fyddai'n cam pwysig ymlaen i annibyniaeth.

Ac wrth gwrs pe bai'r Alban yn cael ei dderbyn yn aelod o'r CU bydda ddim rheswm yn y byd pam na ddylai Cymru cael dod yn aelod hefyd!

17/08/2007

Wil Edwards AS

Trist oedd darllen y newyddion ar flog Vaughan am farwolaeth y cyn AS Wil Edwards. Roedd Wil yn aelod seneddol imi rhwng 1966 a 1974 ac fe wasanaethodd ei etholaeth mewn ffordd glodwiw yn ystod y cyfnod yna. Roedd Wil yn un o nifer o ASau Llafur gwirioneddol gwladgarol a oedd yn gwasanaethu Cymru yn y 60au a'r 70au. Mae'n anodd credu bellach bod y fath bobl wedi bodoli unwaith

Er fy mod wedi ymddiddori yn y ffau wleidyddol ers yn blentyn ifanc nid ydwyf erioed wedi sefyll etholiad, ac i Wil mae'r diolch am hynny. Roeddwn yn y cownt yn Nolgellau yn Chwefror 1974 pan drechwyd Wil gan Dafydd Ellis Thomas. Nid oeddwn cynt nac wedi wedyn gweld neb yn edrych mor ddigalon ag yr oedd Wil yn edrych ar y noson yna wrth iddo sylwi bod pobl Meirion wedi ei wrthod. Yn sicr byddwn i byth yn gwirfoddoli i fynd i sefyllfa lle'r oedd perygl imi ddioddef y fath drawma.

Cydymdeimladau dwys a gweddw Wil, Mrs Eleri Edwards, ei blant a'i wyrion.

Llongyfarchiadau Guto Bebb

Llongyfarchiadau mawr i Guto Bebb ar gael ei ddewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth newydd Aberconwy. O lwyddo cael ei ethol does dim dwywaith y bydd yn aelod etholaethol rhagorol ac yn gaffaeliad i San Steffan.

Mae Aberconwy yn sedd newydd sydd yn cael ei gynrychioli ar hyn o bryd gan Beti Williams (Llafur) ac Elfyn Llwyd Plaid Cymru. Bydd ru'n o'r ddau aelod cyfredol yn amddiffyn y sedd*. Yn ôl amcangyfrif gan UK Polling Report y canlyniad tybiannol yn 2005 oedd;

Llafur: 9119 (31.5%)
Ceidwadwyr 8875 (30.6%)
Democratiaid Rhyddfrydol: 5733 (19.8%)
Plaid Cymru: 4186 (14.4%)
Eraill: 1080 (3.7%)
Mwyafrif Llafur dros y Ceidwadwyr : 243 (0.8%)

Dyma'r pumed sedd yn rhestr targedau'r Blaid Geidwadol.

Rhaid dweud bod y canlyniadau tybiannol yma yn gallu bod yn annibynadwy iawn, bydda Guto neu unrhyw ymgeisydd arall yn gwneud camgymeriad o roi gormod o bwys arnynt.

Defnyddiwyd y ffiniau newydd ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai dyma oedd y canlyniad:

Gareth Jones PC 7,983 (38.6%)
Dylan Jones-Evans Ceid 6,290 (30.4%)
Denise Idris Jones Llaf 4,508 (21.8%)
Euron Hughes D Rh1,918 (9.3%)

* Cywiriad
Yr oeddwn yn tybio bod Beti Williams am sefyll yn etholaeth Arfon, ond mae Hafod a Martin Eaglestone wedi rhoi gwybod imi bod hyn yn anghywir a bod Mrs Williams am sefyll yn etholaeth Aberconwy.

Gwaith ar gael - Darllen blogiau!

Yn ôl yr Arch-flogiwr Toriaidd, Iain Dale, mae Llywodraeth Llundain wedi penderfynu monitro blogiau er mwyn cael gweld sut mae pỳls y blogosffer yn curo parthed barn ar ei bolisïau.

Mae rhai yn gweld hyn fel agwedd arall ar y brawd mawr yn gwylio. Rwy'n gweld arwyddion ££££!

Bydd rhaid cael darllenydd Cymraeg ymysg y gwylwyr er mwyn monitro sut mae'r gwynt yn chwythu ymysg y rhai sydd yn postio yn yr heniaith! Gan fy mod yn gwario oriau pob dydd yn darllen y malu cachu perlau o ddoethineb sydd yn cael eu hysgrifen ar flogiau Cymraeg - dyma'r jobyn perffaith i mi.

Os ydych yn gwybod sut mae gwneud cais am y fath jobyn, peidiwch â bod yn hunanol, rhannwch y wybodaeth efo fi. Plîs!

15/08/2007

Meddwdod Eisteddfodol

Post brawychus ar Flog Rhys Llwyd heddiw am yfed dan oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Maes b - maes meddwi - cyfrinach dywyll yr Eisteddfod

Roedd yr eisteddfod eleni dim ond cam i ffwrdd o Swydd Gaer. Difyr felly yw cymharu sylwadau Rhys a'r ymateb i sylwadau Prif Gwnstabl Swydd Gaer heddiw parthed yr un broblem o or yfed dan oed.

Beth bynnag bo'n barn am godi oedran cyfreithlon ddiota mae'n rhaid cytuno ag un o sylwadau Prif Gwnstabl Fahy: He also blamed parents for "turning a blind eye" to their children's underage drinking. Mae'n amlwg bod rhaid i rieni'r plant man y mae Rhys yn son amdanynt ysgwyddo peth o'r bai yn ogystal â swyddogion yr Eisteddfod a Heddlu Gogledd Cymru.

Os oes unrhyw ddarllenydd am dynnu sylw swyddogion yr Eisteddfod at y pwyntiau mae Rhys yn codi mae manylion cysylltu ar gael YMA

Dewis y Dyfodol




Dyma dudalen blaen y Scotsman, yn ymateb i ddogfen ymgynghorol Llywodraeth yr Alban ar annibyniaeth. Am ba hyd fydd rhaid inni ddisgwyl am bennawd tebyg ar dudalennau blaen papurau Cymru?

04/08/2007

Y Parch J Elwyn Davies

Tristwch mawr oedd darllen yn Y Cymro heddiw am farwolaeth y Parch J Elwyn Davies. Mae'r Cymro yn ei ddisgrifio fo fel Sylfaenydd Mudiad Efengylaidd Cymru. Mae'r disgrifiad yn rannol anghywir, wrth gwrs - nid sylfaenu Efengyliaeth Gymreig wnaeth Elwyn ond sicrhau ei pharhad trwy ddyddiau duon iawn yn hanes crefydd Cymru.

Wedi clywed Elwyn yn pregethu ar lawer achlysur, rhaid dweud nad oedd o'n bregethwr mawr. Ei gyfraniad mwyaf i'r achos Cristionogol oedd fel gweinyddwr hynod effeithiol.

Pobl ddiflas yw gweinyddwyr, yn ôl y cred poblogaidd, yn hytrach na phobl ddifyr a dylanwadol. Ond heb ddawn weinyddol Elwyn fydda diwygiad y 1950au wedi bod yn foment mewn hanes, yn hytrach na chychwyniad mudiad hynod ddylanwadol sy'n parhau ei dylanwad hyd heddiw. Heb weinyddiaeth Elwyn fydda na ddim panad ar gael yn y Gorlan yn ystod Eisteddfod Fflint nos yfory!

Fel un a oedd yn nofio yn erbyn y llif, yn pwysleisio Cristionogaeth traddodiadol Cymru pan oedd yr holl enwadau traddodiadol yn ceisio moderneiddio, dioddefodd Elwyn lawer o sen, gwatwar a sarhad gwbl anhaeddiannol gan honedig Gristionogion eraill. Er gwaethaf hynny, yr hyn oedd yn fwyaf nodweddiadol ohono oedd ei wên barhaus, y ffaith ei bod yn Llawenhau yn yr Arglwydd yn wastadol, yn wyneb pob sarhad.

Rwy'n cydymdeimlo yn ddwys a Mrs Davies a gweddill ei deulu niferus yn eu colled. Bydd colli Elwyn yn golled mawr i Gymru, ond yn sicr bydd colli gŵr, tad a thaid mor annwyl yn golled llawer mwy i'w deulu.

Elin! O Elin! O Elin tyrd yn ôl!

Roedd y sylwadau am y ffaith bod Elin Jones ar ei gwyliau yn Seland Newydd yn y Wales on Sunday yr wythnos diwethaf yn gwbl afresymol. Roedd y llysoedd wedi pennu tynged Shambo ac roedd swyddogion Adran Amaeth y Cynulliad yn gwbl abl i weithredu barn y Cynulliad a'r Llys heb ei phresenoldeb personol. Mae gan bawb hawl i wyliau, gan gynnwys gweinidogion y llywodraeth.

Ond, gyda'r perygl bod Clwy’ Traed a'r Genau wedi dychwelyd i'r ynysoedd hyn, ac o ystyried yr effaith trychinebus cafodd ymddangosiad diwethaf y clwy’ ar Gymru yn 2001 a'r diffyg cydweithrediad rhwng gweinidogaethau Llundain a Chaerdydd ar y pryd, y mae’n hollbwysig bod Elin yn torri ei gwyliau yn fyr bellach. Ei bod hi'n dychwelyd i fod yng nghanol y trafodaethau i sicrhau nad yw'r clwy’ yn lledu ac yn achosi trychineb mor arw i gefn gwlad Cymru a achoswyd chwe blynedd yn ôl.

Yr Undeb Afresymol

Mae'r ddadl o blaid annibyniaeth yn un mor syml, ac mor glir, fel fy mod i'n cael anhawster deall pam bod cynifer o bobl Cymru yn ei wrthwynebu.

Mae pawb, hyd yn oed yr Unoliaethwyr mwyaf pybyr, yn derbyn bod Cymru yn genedl. Statws gwleidyddol naturiol cenedl yw annibyniaeth. Gan hynny dylai Cymru bod yn annibynnol - does dim ddadl!

Mae'r cenedlaetholwr Albanaidd Mike Mackenzie yn ateb y cwestiwn yma ar flog y bargyfreithiwr Ian Hamilton QC

This business of maintaining the Union may therefore not be an area in which we are really capable of thinking rationally. Rather our attitudes may stem more from custom and belief than from reason. Those seeking to justify the continuance of the Union are therefore at a loss to find reasoned arguments.


Erthygl ddiddorol, gwerth ei ddarllen a'i thrafod.

26/07/2007

Sesiwn o dristwch

Y rheswm am ddiffyg pyst ers wythnos a rhagor yw fy mod wedi bod yn ymweld â'r teulu yn Nolgellau, gan gynnwys bwrw'r Sul yn "mwynhau"'r Sesiwn Fawr

Mae'r Sesiwn wedi fy ngadael yn ddigalon braidd.

Roedd Gŵyl Werin Dolgellau yn y 1950au a Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau yn yr 80au yn rhan o'r frwydr Genedlaethol. Yn ffordd o ddefnyddio cerddoriaeth i hybu gwladgarwch a chenedlaetholdeb. Peth felly oedd y Sesiwn Fawr yn ei chychwyniad hefyd. Ond mae min gwleidyddol, cenhadol, y Sesiwn wedi ei byli bellach. Mae cenedlaetholdeb y gân yn hen ffasiwn rŵan!

Mae canu am y frwydr genedlaethol yn rhywbeth sy'n perthyn i'r hen genhedlaeth, rhywbeth yr oedd rhieni'r genhedlaeth ifanc gyfoes yn brwydro drosti ond sy'n rhywbeth i'w ymladd yn ei herbyn bellach, gan ei fod yn perthyn i ddyddiau Mam, Dad, Nain a Thaid, rhywbeth nad yw'n trendi mwy.

Roedd y Dubliners yn wych rhyfeddol, yn canu rhai o'r hen ffefrynnau megis Paddy works on the Railway, Whisky in the Jar, Wild Rover ac ati - ond dim un o'u caneuon cenedlaetholgar enwog megis A Naton once Again - wedi cael rhybudd i beidio â'u canu rhag pechu penaethiaid Teledu a Radio, yn ôl y sôn.

Dubliners yn cael eu dilyn gan grŵp o'r enw Genod Droog. Eu prif leisydd yn fardd cynganeddol profiadol, sy'n methu sgweu geiriau gwell na Be sy' drwg? - Genod, genod drwg. Bobl annwyl mae 'na lawer mwy o ddrwg yng Nghymru na genod drwg, peth yr oedd ein prifeirdd yn ymwybodol ohoni ar un adeg!

Yn la, la, laio a bip-di bipio fel cefndir i Be sy' drwg? - Genod, genod drwg? oedd yr hogan oedd yn gallu dod a dagrau i lygaid cenedl gyfan trwy ganu am Golli Iaith ugain mlynedd yn ôl - dyna dro ar fyd!

Rwy'n derbyn fy mod yn perthyn mwy i genhedlaeth hip op' na hip hop bellach, ond diawch rwy’n methu deall pam nad yw'r genedl a'i hachos yn rhywbeth werth ei ganu amdano heddiw fel ag y bu ers talwm!

17/07/2007

Cŵn rhech neu genedlaetholwyr?

Ar y rhaglen Maniffesto dydd Sul fe ddywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas nad oes diben rhuthro i gynnal refferendwm am fwy o bwerau pe bai honno yn cael ei cholli. Sydd yn ddigon teg. Ar y llaw arall does dim diben ychwaith dechrau ymgyrch refferendwm gyda rhagdybiaeth mae colli bydd ei hanes, does dim modd ennill unrhyw frwydr trwy gychwyn y gad mewn modd negyddol a pharatoi am golli!

Canolbwyntio ar y gwaith o lywodraethu dyla’ Plaid Cymru gwneud, yn hytrach na phoeni am refferendwm nad oes modd ei ennill, medd yr Arglwydd. Eto mae tegwch yn y sylw, mae angen llywodraeth ar Gymru ac mae llywodraethu'n dda yn hollbwysig. Ond nid llywodraethu bydd Plaid Cymru, cynnal llywodraeth Lafur bydd ei rhôl fel cymwynas am addewid o lwyddiant mewn refferendwm. Llwyddiant mae'r Arglwydd yn amau na ddaw. Os na ddaw lwyddiant o ganlyniad i'r addewid pam cynnal yr addewid?

Dim ond pan ddaw hi'n amlwg bod gwaith o lywodraethu yn cael ei lesteirio oherwydd nad ydym yn gallu gwneud deddfau ein hunain heb ganiatâd San Steffan medd DET bydd ddadl glir dros gael cynnal refferendwm.. Eto mae'r Arglwydd yn llygaid ei le. Ond onid trwy lywodraeth Enfys yr oedd y tebygolrwydd mwyaf o greu'r fath anghydfod, os oes angen anghydfod o'r fath, i greu'r angen am gam pellach?

Mae'r Arglwydd, hefyd, yn awgrymu bydd angen ail dymor o lywodraeth cochwyrdd cyn daw cyfle am refferendwm. Sydd yn adlewyrchiad o gysyr ffiaidd Peter Hain i wrthwynebwyr gwrth Cymreig y glymblaid yn y Blaid Lafur.

Ac yn y cyfamser, mae'n debyg, bydd Plaid Cymru yn disgwyl i genedlaetholwyr gwneud dim i hybu'r achos cenedlaethol am 4, 6, 8 neu ragor o flynyddoedd wrth fodloni ar gael cosi eu boliau, fel cŵn rhech i'r blaid fwyaf gwrth Gymreig a fu yng Nghymru erioed.

16/07/2007

Rhagor o hawliau gan fuwch na hogan ysgol

Yn yr Uchel Lys heddiw gwrthodwyd achos hogan ysgol oedd am wisgo modrwy ddiniwed yn yr ysgol er mwyn ddangos ei ymrwymiad i ddiweirdeb rhywiol fel mynegiant o'i ffydd Gristionogol.

Hefyd yn yr Uchel Lys heddiw penderfynwyd peidio diffodd y bustach gyda'r ddarfodedigaeth sydd yn peryglu'r fuches Gymreig, gan fyddai gwneud hynny yn tramgwyddo ar hawliau dynol ffug mynachod Skanda Vale i fynegi eu ffydd.

Ymddengys bod hawliau dynol buwch Hindŵaidd yn bwysicach i'r Uchel Lys na hawliau dynol hogan ysgol a bod rhyddid crefyddol yn beth sydd i'w fwynhau gan ddilynwyr unrhyw ffydd ond y ffydd Gristionogol.

12/07/2007

Pleidleisio dros Aleri Caernarfon

Roedd y ddadl fer yn y Senedd heddiw yn cael ei godi gan Alun Ffred. Roedd o'n dadlau am werth Galeri Caernarfon fel cyfraniad i fywyd diwylliannol a diwydiannol tref Caernarfon. Cafodd ei sylwadau croeso traws pleidiol a chafwyd cytundeb bod Galeri yn enghraifft wych i Gymru gyfan o sut gellir cyfuno'r celfyddydau a diwydiant er lles pob agwedd o fywyd cymdeithasol.

Yn ystod ei araith cafwyd apêl gan Ffred ar i bawb cefnogi ymgais Galeri i ennill gwobr gan y Loteri Genedlaethol.

I fwrw pleidlais dros Galeri Caernarfon ewch YMA

Pôl y Blaid

Mae Plaid Cymru wedi ei phlesio mor arw gan ei phôl piniwn preifat diweddaraf, fel ei bod wedi penderfynu ei rhyddhau i'r wasg.

Dyma'r ffigyrau:
Llafur 45.2% fynnu 13 pwynt % ers yr etholiad
Plaid Cymru 24.3% fynnu dim ond 1.9 pwynt %
Ceidwadwyr 12.6% i lawr 11.8 pwynt %
Rhydd Dem 10.1% i lawr 4.9 pwynt %

Nid ydwyf yn or hoff o bolau piniwn Cymreig, yn bennaf gan eu bod yn gyson anghywir a hynny oherwydd brychau yn y ffordd y maent yn cael eu cynnal. Mae'r pôl yma yn cynnwys y brychau mwyaf amlwg. Yn gyntaf nid cwmni pôl piniwn mo Beaufort Research, cwmni ymchwil marchnata ydyw. Yr hyn mae’r Blaid yn gwneud yw talu Beaufort hyn a hyn y cwestiwn i'w gofyn mewn archwiliad masnachol cyffredinol. Mae pawb yn defnyddio papur tŷ bach, felly mae cwestiynau Beaufort am ba frand yr wyt yn prynu yn ddilys, ond nid pawb sydd yn pleidleisio felly dydy cwestiynau am dy hoff frand o blaid wleidyddol dim yr un mor ddilys.

Ond o gogio am funud bach bod y pôl yn dangos tueddiadau gwleidyddol cywir rwy'n synnu braidd bod y Blaid wedi ei ryddhau. Y bwriad oedd cyfiawnhau'r penderfyniad i glymbleidio a Llafur gan ddangos bod dwy blaid y glymblaid yn fwy poblogaidd nawr nag ydy'r ddwy sydd allan o'r glymblaid. Digon teg; ond pe bai ffigyrau'r pôl yn cael eu gwireddu trwy Gymru gyfan bydda'r Blaid mewn twll.

Os mae canlyniad y pôl oedd canlyniad cyffredinol "go iawn" Mai 3ydd bydda'r Blaid wedi methu ennill yng Nghonwy nac yn Llanelli. Mi fyddai, o bosib, wedi crafu un neu ddwy sedd ychwanegol ar y rhestr, ond mi fyddai'r Blaid Lafur wedi ei ddychwelyd efo mwyafrif clir iawn i'r Cynulliad heb angen cynghreirio efo Plaid Cymru na'r un blaid arall.

Yn hytrach na bod yn brawf o lwyddiant y Blaid wrth gynghreirio a Llafur, mae'r pôl yma yn brawf diamheuaeth bod y Blaid wedi gwneud camgymeriad dybryd. Mae'r pôl yn dangos yn glir mae'r Blaid Lafur sydd wedi derbyn y bendith mwyaf o'r clymblaid, gyda bron i dreuan mwy o gefnogaeth iddi rwan nag oedd ganddi ddeufis yn ôl!

10/07/2007

Wythnos faith i'r byddar

Os trowch i S4C2 rŵan (12:30 Dydd Mawrth), fe welwch Rhodri Morgan yn ateb cwestiynau aelodau'r Cynulliad. Nid rhaglen byw, mae'n amlwg gan fod Rhodri yn yr Ysbyty (brysied wella). Rhaglen wedi ei recordio sydd ymlaen ar gyfer y gymuned fyddar, gyda dyn yn cyfieithu'r drafodaeth i'r Arwyddiaith. Mae'n wych bod gwasanaeth ar gyfer y gymuned fyddar yn dod o'r Cynulliad. Mae'n bwysig bod pobl sydd yn byw efo anabledd yn cael gwasanaeth lawn o'r Cynulliad er mwyn iddynt chware rhan cyflawn ym mhrosesau democrataidd ein gwlad. Ond dydy cael y gwasanaeth wythnos gyfan ar ôl pawb arall dim yn ddigon da. Mae Wythnos yn amser maith mewn gwleidyddiaeth meddai Harold Wilson, a does dim modd inni sydd yn byw efo anabledd chware rhan gyflawn yn y broses ddemocrataidd os oes rhaid ini ddisgwyl am wythnos faith cyn cael gwybod be sy'n cael ei drafod yn y Senedd.

Gwaredigaeth trwy FFYDD, nid athroniaeth.

Mae yna dipyn o drafodaeth wedi bod yng ngholofnau'r cylchgrawn Golwg yn niweddar am y ffydd Cristionogol.

Rhai megis Rhys Llwyd yn dadlau o'r safbwynt Efengylaidd Calfinaidd. Aled Lloyd Jones, ficer Porthmadog, yn codi sgwarnogod goruwchnaturiol sydd y tu hwnt i'm dirnad i, a Cynog Dafis (AS AC gynt) yn ceisio troedio tir canol.

O ran barn athrawiaethol bersonol yr wyf yn agosach o lawer at farn Rhys Llwyd na barn y rhai sy'n ysgrifennu yn ei erbyn.(Er, fel Methodist go iawn, nid Methodist Calfinaidd, rwy'n methu derbyn heresi etholedigaeth gras Rhys a'i griw, bid siŵr).

Ond, ac mae'n ond mawr. Un o'r pethau sydd wedi fy mhryderu ers talwm efo'r mudiad efengylaidd Cymreig yw'r pwyslais mae'n rhoi ar athrawiaeth. Trwy ffydd daw gwaredigaeth, nid trwy athrawiaeth. Iawn yw dadlau yn erbyn athrawiaeth gyfeiliornus, honedig, Aled a Cynog ond ydy'r diffygion athrawiaethol yn lleihau eu ffydd yng Nghrist?

Mae Efengyl Luc yn son am ddau droseddwr a groeshoeliwyd ar yr un pryd a'r Iesu. Mae un yn mynegi ffydd gan ddweud wrth yr Arglwydd Iesu Cofia fi pan ddoi i'th Deyrnas (Luc23:42). Rwy'n sicr pe bai unrhyw un wedi gofyn i'r troseddwr hwn beth yw dy farn am etholedigaeth gras, geirwiredd yr Efengylau, traws gyfnewidiad yr offeren? neu gwestiwn athrawiaethol mawr arall, mi fyddai wedi ei ddrysu'n llwyr. Ond gan fod ffydd ganddo, yn hytrach na farn athrawiaethol uniongred, fe ddywedodd yr Iesu wrtho Yn wir 'rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym mharadwys.

Er gwaethaf pob anghytundeb athrawiaethol a'r farn uniongred, mae Aled a Cynog yn barhau i fynegi eu ffydd yng Nghrist. Onid yw hynny yn ddigonol i'w cyfrif yn gyd-gristnogion a ni sydd yn credu mewn gwaredigaeth trwy ffydd? Onid heresi a chyfeiliornad llwyr o'r efengyl yw mynnu gwaredigaeth trwy ymrwymiad at athrawiaethau arbenig?

08/07/2007

Champagne neu boen go iawn?

Fe wnaed y ddêl ysgeler. Rhaid byw hefo'i, er gwell er gwaeth. Ond nid dyma ddiwedd y stori dyma'r cychwyn go iawn. Dim ond prolog fu'r naw wythnos a aeth heibio.

Hwyrach bod IWJ wedi perswadio eu hun a'i blaid eu bod wedi ildio i Lafur er lles Cymru, ond dim ond ffŵl o'r iawn ryw bydd yn credu mai lles Cymru oedd ar flaen meddwl y Blaid Lafur, lles Llafur a lles Llafur yn unig oedd wrth wraidd penderfyniad Llafur i gefnogi'r ddêl. Peidied neb anghofio hynny.

Mae'r mudiad Llafur wedi dangos ers bron i ganrif mae hi yw prif elyn dyheadau'r genedl Gymreig mae hi yw prif wrthwynebydd ffyniant yr iaith Gymraeg, does dim byd yn y ddêl ysgeler sy'n newid hyn. Priodas gyfleuster sydd yma nid cariad pur, a Llafur sy'n cael y cyfleuster mwyaf. Bydd rhaid i Blaid Cymru gweithio yn galed iawn i sicrhau bod termau'r pre-nup yn cael eu cadw i'r llythyren, gan fod rhywfaint o dystiolaeth bod Llafur eisoes wedi ei dorri cyn bod cyfle am stag night heb son am briodas ffurfiol.

Does dim amheuaeth bod y Blaid Ryddfrydol yn ei ddydd a'r Blaid Geidwadol hefyd wedi bod yn anfwriadol esgeulus o anghenion Cymru a'r Gymraeg, ond dim ond un blaid sydd wedi mynd allan o'i ffordd i fod yn fwriadol elyniaethus i'n hiaith a'n cenedl.

Mae'n ffaith ddiymwad: o ganlyn un cocwyllt, cocwyllt bydd y wraig. Mae Plaid Cymru wedi neidio i'r gwely efo cymar anystywallt, bydd anawsterau mawr o'i flaen i sicrhau bod y cymar yn cadw at ei addewidion priodasol.

Ôl nodyn
Mae'n debyg bod stori ar fin dorri bod dau o'r prif drafodwyr parthed y ddêl cochwyrdd wedi neidio i’r un gywely yn llythrennol yn hytrach na jyst yn ffigyrol.

07/07/2007

Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?

Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
Poni welwch chwi'r deri'n ymdaraw?
Poni welwch chwi'r môr yn merwinaw'r tir?
Poni welwch chwi'r gwir yn ymgweiriaw?
Poni welwch chwi'r haul yn hwyliaw'r awyr?
Poni welwch chwi'r sŷr wedi'r syrthiaw?
Poni chredwch chwi i Dduw, ddyniadon ynfyd?
Poni welwch chwi'r byd wedi'r bydiaw?
Och hyd atat ti Dduw na ddaw - môr dros dir!
Na beth y'n geidr i ohiriaw?

Can werth ei ail ganu ar y diwrnod y mae Plaid Cymru, o bob plaid, am ail adrodd y Brad yng nghlochdy Bangor yn neuadd Pontrhydfendigaid!

Dyniadon ynfyd - o'r iawn ryw!

Colli TJ

Trist oedd clywed am farwolaeth y Parch T.J. Davies ychydig ddyddiau yn ôl. Mi ddois i adnabod TJ yn gyntaf yn Ysgol Haf yr Ysgol Sul ym 1976 pan oeddwn yn efengylwr ifanc hynod filwriaethus ac anoddefgar o farn pawb arall. Er gwaethaf fy anoddefgarwch tuag at ei farn ef, ac er gwaethaf y ffordd fwyaf dieflig o anghwrtais imi fynegi'r farn yna roedd TJ yn ymateb o hyd mewn modd rhadlon a chwrtais. Er fy mod i yn bloeddio tân a brwmstan arno ef am ei farn, roedd o'n fodlon gwrando yn barchus ar fy mloeddio a chynnig cyngor caredig wrth ymateb.

Un o'r pethau mwyaf gwirion imi wneud yn fy nydd oedd meddwi'n dwll (er fy mod yn ddirwestwr rhonc ar y pryd) ar anogaeth dirwestwyr efengylaidd eraill ac yna churo ar ddrws tŷ TJ yng Nghaerdydd a gofyn iddo am bris botel o wisgi. Cefais groeso ganddo, panad a chacen a fy nhrin fel un oedd mor sobor â sant. Gan TJ dysgais wir ystyr troi y boch arall, trwy weithred, yn hytrach na phregeth.

Mae nifer o bobl ifanc Cymru wedi cael cymorth, lloches a bendith trwy'r Gorlan yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Tynnu'r p*** allan o TJ oedd un o'r rhesymau am ddechrau'r Gorlan, neu Dafarn TJ (tomato jiws), ys y galwyd yn wreiddiol. Rhan o fawredd TJ oedd ei gefnogaeth i'r fenter, er gwaetha'r ffaith mae tynnu hwyl ar ei ben gan "elynion" crefyddol oedd rhan o'r sail.

Mae Cymru wedi colli dyn mawr, cyfaill triw i'r iaith a'r genedl a Christion anghymharol ym marwolaeth TJ, bendith bydd pob coffa amdano, heddwch i'w llwch, yn ddi-os mawr bydd ei wobr yn y Nef.

06/07/2007

Prynu Mochyn Mewn Sach

Mae'r ddêl ddieflig wedi ei dderbyn gan y Blaid Lafur, gyda mwyafrif eithaf iach. Er rhaid cofio bod y mwyafrif yna wedi ei chwyddo yn aruthrol oherwydd strwythurau annemocrataidd y Blaid Lafur, roedd 40% o gynrychiolwyr go iawn y Blaid Lafur yn wrthwynebus. Yn ôl Betsan Powys ar raglen newyddion S4C fe ildiodd rhywrai o'r 60% oherwydd y sicrwydd a roddwyd iddynt nad oedd cefnogi'r ddêl, o anghenraid, yn gyfystyr a chefnogi'r refferendwm sy'n ran o'r ddêl. Mae hyn drewi braidd gan mae'r refferendwm yw brif fendith y ddêl yng ngolwg Plaid Cymru.

Gyda 40% o gynrychiolwyr etholaethau'r Blaid Lafur a bron y cyfan o'i ASau yn erbyn refferendwm, a chynhadledd y Blaid eisoes wedi dweud bod modd cachu ar yr addewid am refferendwm, rhaid gofyn pa werth sydd i'r addewid holl bwysig yma? Dim tybiwn i. Mae'n amlwg bod Llafur yn ceisio gwerthu mochyn mewn sach i'r Blaid. Yn anffodus mae'n debyg bydd cynrychiolwyr y Blaid yn ddigon ffôl i'w prynu ym Mhontrhydfendigaid yfory. Diwrnod du yn hanes y genedl, wir yr!

30/06/2007

Yr Hen Blaid neu barti newydd?

Rwy'n rhoi fy nghefnogaeth etholiadol i Blaid Cymru oherwydd fy mod yn credu mewn annibyniaeth i Gymru. Er bod y Blaid yn gyndyn weithiau i gyhoeddi'r ffaith, Plaid Cymru yw'r unig blaid wleidyddol sydd yn credu mewn annibyniaeth i Gymru.

Pe na bawn yn genedlaetholwr mi fyddwn, yn ddi-os, yn geidwadwr. Rwy'n teimlo yn agosach at feddylfryd gwleidyddol pobl megis Dylan Jones-Evans, Guto Bebb a Glyn Davies nag ydwyf at feddylfryd Adam Price, Leanne Wood neu Bethan Jenkins. Ond nid oes gennyf broblem o fath yn byd a chyd weithio efo pobl o feddylfryd cymdeithasol ac economaidd amgen na fy un i, cyn belled a bod y cydweithio wedi selio ar yr angen am annibyniaeth yn bennaf.

Yn anffodus nid annibyniaeth yn bennaf bu agwedd Plaid Cymru ers etholiad 1997 os nad yng nghynt. Ym mhob un o'r etholiadau diweddar agwedd y Blaid i gwestiynau am annibyniaeth bu Dyw'r etholiad yma ddim yn ymwneud ag annibyniaeth mae i'w ymwneud a ..... (llenwch y bwlch efo unrhyw gach sosialaidd o'ch dewis).

Nid ydwyf am fod yn aelod o blaid sydd yn rhoi sosialaeth o flaen pob ystyriaeth arall, nid ydwyf (hyd yn oed) am fod yn aelod o blaid sy'n rhoi ceidwadaeth uwchlaw pob dim arall. Rwyf am fod yn aelod o blaid sy'n rhoi annibyniaeth i Gymru ar frig ei agenda gwleidyddol.

Y cyfyng gyngor yw:
Pa modd mae creu plaid sy'n rhoi cenedlaetholdeb ar frig ei agenda? A'i trwy geisio ail feddiannu Plaid Cymru a'i droi yn ôl at ei wreiddiau, neu drwy greu plaid genedlaethol newydd?

29/06/2007

Dim Tesco Value i'r Gymraeg

Y dilyn agwedd trahaus Thomas Cook tuag at yr iaith mae cwmni Tesco wedi danfon llythyr at rai o'i weithwyr Cymraeg eu hiaith i ddweud wrthynt am beidio â thrafod eu gwaith ymysg ei gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Tesco yn aml yn gweithio fel partner i Fwrdd yr Iaith ac yn caniatáu i'r Bwrdd defnyddio ei siopau i hybu ymgyrchoedd. Mae'r ffaith bod cwmni sydd yn gweithio mor agos â'r bwrdd yn gallu gweithredu yn y modd yma yn dangos pa mor ddiwerth yw Deddf Iaith 1993, a phaham bod angen deddf iaith newydd sydd yn amddiffyn hawliau gweithwyr yn y sector cyhoeddus.

28/06/2007

Hwyl Arglwydd Roberts - Croeso Arglwydd Rhechflin

Gyda chymaint yn digwydd yn y Bae a Thŷ’r Cyffredin ddoe cafodd hanes, a fyddai'n newyddion gwleidyddol o bwys i Gymru ar ddiwrnod arall, ei gladdu braidd. Ar ôl deng mlynedd o wasanaeth i'w wlad a'i blaid fel llefarydd materion Cymreig y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Arglwyddi mae'r Arglwydd (Wyn) Roberts o Gonwy am ymddeol.

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae Syr Wyn wedi bod yn Arglwydd gweithgar a diwyd ac mae o wedi dylanwadu ar nifer o fesurau seneddol yn ymwneud a Chymru gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Rwy’n gobeithio bod pwy bynnag sy'n cael ei ddewis yn ei le yn gymaint o "genedlaetholwr" a bu Syr Wyn, oherwydd bydd Tŷ’r Arglwyddi yn chware rhan bwysicach nag a fu yng ngwaith y Cynulliad o hyn ymlaen.

Fel y gwyddom bydd gan y Cynulliad newydd hawliad deddfwriaethol o dan drefn gymhleth. Bydd Mesurau'r Cynulliad yn gorfod cael eu cymeradwyo gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Tŷ’r Cyffredin, Y Cyfrin Gyngor a Thŷ’r Arglwyddi. Fe all Tŷ’r Arglwyddi ymwrthod a Mesurau'r Cynulliad neu (o bosib) eu diwygio, yn ogystal â rhoi sêl bendith iddynt. Gan hynny mae'n bwysig cael wladgarwyr fel yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn y Tŷ i sicrhau pob tegwch i'r mesurau.

Wrth gwrs Tori yw Syr Wyn a Thori bydd ei olynydd. Mae yna Gymry da o'r pleidiau eraill yn Arglwyddi hefyd, fy ngweinidog annwyl y Parchedig Arglwydd Roger Roberts o’r Rhydd Dems, Yr Arglwydd Elystan Morgan ac eraill o'r Blaid Lafur a Dafydd Elis Thomas o Blaid Cymru. Bydd cyfrifoldeb mawr ar rain i sicrhau pob tegwch i fesurau'r Cynulliad hefyd. Ond bydd yna anawsterau i Dafydd El. Yn gyntaf wrth gwrs bydd ganddo job a hanner i'w gyflawni yn y Cynulliad, heb fawr o amser i sbario i fod yn Nhŷ’r Arglwyddi hefyd. Yn ail gan fod Dafydd yn AC, yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ac yn Arglwydd bydd yna bwysau cyfansoddiadol arno i beidio â cheisio ymarfer dylanwad ar fwy nag un lefel o'r broses. Gan ei fod yn niwtral fel Llywydd y Cynulliad mi fydd yn anodd iddo fod yn bleidiol neu yn wrthwynebus i Fesur o'r Cynulliad mewn lle arall. Felly mae yna berygl bydd unig lais y Blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi yn cael ei dewi tra fo mesurau'r Cynulliad ger bron.

Mae yna gant a mil o resymau da dros wrthwynebu bodolaeth Tŷ’r Arglwyddi a chymaint o resymau da dros beidio â danfon Pleidwyr i'r ffasiwn le, ond mae'n rhaid inni fyw yn y byd fel y mae hyd iddi newid. Gan fydd Tŷ’r Arglwyddi yn chware rhan bwysig yn hynt a helynt Mesurau'r Cynulliad mae'n bwysig bod Arglwyddi o'r Blaid yno i gael dylanwad. Mae'n hen bryd i'r Blaid newid ei bolisi o foicotio’r Arglwyddi ac i wneud hynny ar fyrder, gan fydd y Mesur Cyntaf yn cael ei drafod yn y Tŷ tua mis Hydref.

Ond pwy i gael fel Arglwydd o genedlaetholwr? Mae yna ryw dinc yn yr enw Yr Arglwydd Alwyn o Rechflin, yn does? ;-)

26/06/2007

Mewn Undod Mae Gwendid!

Yn ôl blog Vaughan Roderick

Os nad aiff rhywbeth mawr o le dw i'n disgwyl i Blaid Cymru cefnogi coch-gwyrdd. Dyma'r rheswm. Dw i'n synhwyro bod Ieuan yn reddfol yn ddyn yr enfys. Ond dw i hefyd yn amau y bydd yn gweld undod y blaid yn ffactor allweddol.

Pe bai'n gwthio am yr enfys mae'n bosib y byddai'n colli'r bleidlais neu yn ei hennill o fwyafrif bychan. Pe bai e, ar y llaw arall, yn argymell delio a Llafur fe fyddai'r mwyafrif yn fwy sylweddol.

Fe fydd y ffaith bod cefnogwyr mwyaf pybyr yr enfys yn wleidyddion mwy aeddfed a disgybledig na rhai o gefnogwyr coch-gwyrdd hefyd yn ffactor. Fe fyddai pobol yr enfys yn derbyn penderfyniad y mwyafrif. Dyw hynny ddim, o reidrwydd, yn wir am rai o aelodau'r garfan arall. .

Yfory felly dw i'n amau y bydd Ieuan yn mynd yn groes i'w reddf ac yn aberthu ei uchelgais ei hun er mwyn ei blaid. Mae Ieuan wedi tyfu yn ystod hyn oll. Fe ddylai aelodau Plaid Cymru fod yn falch o'i harweinydd.

Os ydy hyn yn wir, a bydda ymddygiad blaenorol rhai ACau yn awgrymu bod yna bosibilrwydd ei fod yn wir, mae'n warthus o'r naill ochor a'r llall. Ar y cochwyrdd am fod mor bwdlyd o blentynnaidd ac ar yr enfyswyr am fod mor ddi-asgwrn-cefn ac ildio i'w pwdu. Beth bynnag yw rhinweddau'r naill glymblaid neu'r llall bydda wneud y dewis ar y sail y mae Vaughan yn honni y caiff ei wneud yn ffwlbri. Does dim sail waeth ar gyfer penderfynu siâp llywodraeth yn bosib.

Yn wahanol i Vaughan rwy'n methu gweld dim i'w hymfalchïo ynddi yn ymddygiad Ieuan os ydyw yn rhoi gorau i'w huchelgais i fod yn brif weinidog, nid er lles Cymru, nid er mwyn ehangu datganoli, nid er mwyn achos y genedl ond o herwydd ei ofn i sefyll yn gadarn yn erbyn rhai sydd am roi eu rhagfarnau am bleidiau gwleidyddol eraill o flaen yr hyn sydd orau i'w plaid hwy eu hunain.

Teithio i'r Ysgol

Mae yna drafodaeth ddiddorol yn cael ei gynnal yn y Cynulliad ar hyn o bryd ar ddiogelwch teithiau i'r ysgol. Mae rhan o'r drafodaeth yn codi o farwolaeth drist Stuart Cuningham Jones mewn damwain bws ysgol, ac ymgyrch ei deulu i sicrhau bod gwregysau diogelwch ar bob bws ysgol.

Mae'r bws ysgol sy'n cludo fy mhlant i Ysgol y Creuddyn yn un sydd â gwregys diogelwch ar gyfer pob teithiwr yn barod, ond mae'r plant yn gwrthod eu defnyddio. Bydd y rhai sydd yn eu gwisgo, dweder yn eu hwythnos gyntaf yn yr ysgol newydd, yn cael eu dilorni gan blant eraill. Mae diwylliant y bws ysgol yn gorfodi (bwlio hyd yn oed) plant i beidio â defnyddio'r offer sydd yn cael ei ddarparu ar gyfer eu diogelwch. Rwy'n gobeithio bydd y Cynulliad, wrth edrych ar ddiogelwch, yn ystyried dulliau o newid y diwylliant yma. Diwerth yw gwregys sy ddim yn cael ei wisgo.

A oes diwedd i'r diflasdod

Byddem yn gwybod erbyn diwedd yr wythnos, gobeithio, pwy fydd yn Llywodraethu Cymru o ganlyniad i'r etholiadau dau fis yn ôl (oni bai bod troad arall yn cael ei roi i'r gynffon). Ond gan fod yr ACau ar fin mynd ar eu gwyliau haf bydd y llywodraeth newydd ddim yn dechrau wrth ei waith tan Fis Medi. Pum mis hir ar ôl galw'r etholiad.

Rwyf wrth fy modd yn gwylio'r felin wleidyddol yn malu, ond yr wyf wedi diflasu disgwyl i wenith yr etholiad troi'n flawd llywodraethol. Ac os ydy gwleidydd-gi fatha fi wedi diflasu, rwy'n siŵr bod mwyafrif pobl Cymru wedi cael llond bol a hanner a'r sefyllfa.

Mae nifer o sylwebyddion wedi bod yn mawrygu'r newid seismic sydd wedi digwydd yng Nghymru ers yr etholiad ac wedi croesawu'r wleidyddiaeth newydd. Rwy'n cytuno, i raddau, ond mae'r ffaith bod y trafodaethau clymbleidiol wedi bod mor hirwyntog ac wedi diflasu cynifer o bobl wedi gwneud niwed i'r Cynulliad, i'r broses datganoli ac i'r achos cenedlaethol.

Beth bynnag fo'r canlyniad terfynol y mae'n hollbwysig bod y pedwar prif blaid yn edrych eto ar eu trefniadau mewnol, i sicrhau bod trafodaethau tebyg (os bydd eu hangen) ar ôl etholiad 2011 yn rhedeg yn llawer esmwythach na'r hyn a gafwyd eleni.

20/06/2007

Y Cyng. xxxxxx AC

Rwy'n cael fy nghynrychioli yn y Bae gan y Cynghorydd Gareth Jones AC. Ar wahân i'r ffaith ei fod yn cynrychioli etholaeth Aberconwy yn y Cynulliad mae o hefyd yn cynrychioli un o wardiau Llandudno ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn wir Gareth yw arweinydd grŵp y Blaid ar y cyngor ac mae o'n aelod o'r cabinet. Mae'r Cynghorydd Darren Millar yn gyd aelod iddo yng Nghyngor Conwy a'r Cynulliad.

Does dim byd newydd yn y ffaith bod Aelodau o'r Cynulliad hefyd yn aelodau o Gyngor lleol. Yn y Cynulliad cyntaf, credaf fod tua hanner yr aelodau hefyd yn gynghorwyr sir. Yn ystod yr etholiadau lleol cyntaf ar ôl creu'r Cynulliad mae'n amlwg nad oedd llawer yn gweld tyndra rhwng y ddwy swydd. Ail etholwyd pob un o'r ACau a oedd yn amddiffyn eu seddi cyngor.

Bellach dim ond tua chwarter o'r ACau sydd hefyd yn gynghorwyr (16, os yw fy ymchwil yn gywir). Ond mae ambell un wedi dal y ddau fandad ers y cychwyn, megis y Cynghorydd Peter Black AC.

Mae Peter Black wedi llwyddo yn arbennig o dda i gynrychioli ei ddwy etholaeth yn ystod y ddau dymor Cynulliad a fu, roedd Gareth hefyd yn gynghorydd ac yn AC gweithgar dros bren yn ystod ei gyfnod cyntaf yn y Cynulliad.

OND

Gan fod gan y Cynulliad, bellach, mwy o bwerau, a gan fod posibiliadau y bydd ei phwerau yn ehangu eto byth, ac yn wir gan fod y Cynulliad yn rhoi mwy a mwy o bwysau gweithredol ar y cynghorau, a ydi'n iawn i unigolyn parhau i fod yn gynghorydd ac yn AC mwyach?

19/06/2007

Pwy yw Brenin y Blogwyr?

Ni fûm erioed yn or hoff o wobrwyo pobl sy'n mynegi barn, boed gwleidyddion neu newyddiadurwyr. Fy ofn yw bod perygl i bobl cael eu dylanwadu yn ormodol gan y wobr i ddweud eu barn yn onest. Ofn pechu carfan o'r beirniaid rhag colli eu cefnogaeth ar adeg rhannu'r gwobrau, anwybyddu pethau sydd o bwys mawr i leiafrif bach gan nad oes gan y lleiafrif bach digon o glowt wrth bennu gwobrau, rhoi barn sy'n haeddu gwobr yn hytrach na barn sy'n haeddu sylw ac ati. Mae fy nheimladau chwithig am wobrwyo gwleidyddion a newyddiadurwyr yn estyn rhywfaint at blogiau, yn arbennig blogiau sydd yn trafod materion y dydd, barn gelfyddydol, barn grefyddol ac ati.

Mae'n amlwg nad yw Sanddef yn cytuno a'm marn. Y mae o wedi dechrau blog arbennig ar gyfer gwobrwyo blogiau gorau Cymru. I'r sawl sydd am gefnogi'r fenter mae manylion pellach ar gael yma.

Gwobrau Blog Cymru 2007

Pob hwyl i bawb sy'n gystadlu.

PS.Mae peint ar gael i bawb sy'n fotio i fi.
PPS Bydd y peint ar gael yn eich tafarn lleol ar ôl i chi talu amdano

17/06/2007

Llongyfarchiadau Ciaran Blamerbell

Mae dipyn go lew o ddŵr wedi llifo trwy'r afon ers imi ddysgu Ffrangeg yn yr ysgol ac yr wyf wedi anghofio bron gymaint a ddysgais o'r iaith, ond o'r ychydig yr wyf yn cofio credaf fod y dyfyniad isod o flog REPORTAGE ET PHOTO yn dweud bod Ciaran Jenkins, gohebydd blogio Golwg wedi ennill y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth blogio CNN

Je suis lauréat du "prix spécial" (le deuxième prix) du Prix CNN du meilleur blog européen d'un étudiant en journalisme.
Bravo surtout à Ciaran Jenkins, vainqueur du premier prix.

Felly llongyfarchiadau calonnog i Blamerbell ar ei lwyddiant, rwy'n siŵr bydd Cymru gyfan yn falch drosto. Llongyfarchiadau i Reportage et Photo am ddod yn ail hefyd.

12/06/2007

Diolch o Galon, Tomos Cwc!

I'r rhai ohonom sydd wedi bod yn dilyn y frwydr iaith dros y blynyddoedd does dim byd newydd, syfrdanol, neu unigryw yn hanes Thomas Cook. Mae o'n hen-hen stori. Yr ydym wedi clywed yr un hanes am fwyty yng Nghaernarfon, siop ym Metws y Coed, archfarchnad yn y Bala ac ati ac ati. Mae'r fath sarhad ar yr iaith yn digwydd mor aml, bron gellir cytuno a Rhodri Morgan bod y fath beth yn boring bellach.

Ond mae Thomas Cook wedi gwneud cymwynas a'r iaith, bron iawn, trwy ddewis yr adeg gorau un i brofi rhagfarn cwmnïau preifat tuag at yr iaith.

Yr un peth sydd wedi nodweddu gwahaniaeth barn rhwng Llafur a'r Enfys yw bod pleidiau’r enfys ill tri yn gytûn bod angen gwell ddeddfwriaeth iaith (er, yn anghytuno a sgôp y fath ddeddfwriaeth). Mae agwedd Thomas Cook wedi cryfhau’r cytundeb rhwng pleidiau'r enfys ac wedi rhoi sail i ddadl Plaid Cymru bod rhaid i Ddeddf Iaith bod yn bwnc canolog mewn unrhyw drafodaethau Cochwyrdd.

Dyma'r tro cyntaf yn fy mywyd hir, imi weld pob un o'r pedwar prif blaid yn uno i gondemnio cwmni am sarhau'r iaith mewn ffordd mor groch. Er nad ydyw agewdd Thomas Cook yn unigryw o bell ffordd, ysywaeth, bydd amseriad yr achos yma yn sicr o arwain at gryfhau hawliau'r iaith mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Felly diolch o galon Tomos Cwc.

Cenedlaetholwr nid Sosialydd

Mae nifer o sylwadau ar y blogiau gwleidyddol ac yn edeifion gwleidyddol Maes-e yn niweddar wedi profi bod yna gnewyllyn o genedlaetholwyr Cymreig sy' ddim yn derbyn y farn Sosialaidd.

Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru yn perthyn i'r canol neu'r dde o'r sbectrwm gwleidyddol. Yn anffodus ers dechrau'r wythdegau bu don o sosialwyr yn honni mae achos sosialaidd yw'r achos cenedlaethol; ers canol y nawdegau mae'r don wedi troi yn llif. Bellach yr unig ddadl genedlaethol, bron iawn, sy'n cael ei gynnig yw'r ddadl sosialaidd ac mae'r mwyafrif o Bleidwyr yn derbyn y ddadl yna, yn erbyn eu synhwyrau cynhenid, gan nad ydynt yn clywed dadl amgen.

Gan hynny yr wyf yn croesawu galwad Sanddef Rhyferys am fforwm i genedlaetholwyr sy' ddim yn Sosialwyr i gyd drafod er mwyn ceisio datblygu syniadau cenedlaethol y de a'r canol ac i geisio lledaenu neges cenedlaetholdeb Cymreig o bersbectif sydd ddim yn un Sosialaidd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno a'r fath fforwm mae rhagor o fanylion ar flog Ordivicius.

Yr wyf wedi agor trafodaeth ar yr un testun ar Faes-E. Os ydych yn aelod o'r Maes gwell bydd trafod yno yn hytrach nag yn fy mlwch sylwadau.

08/06/2007

Gwastraff Ailgylchu

Ers blynyddoedd, bellach, yr wyf wedi arfer mynd a gwydr a phapurau newyddion gwasarn i'r canolfan ail gylchu, er gwaethaf hynny mae fy nheulu wedi llwyddo llenwi ei wili-bin i'r top pob wythnos.

Bellach mae'r Cyngor lleol (Conwy) wedi penderfynu casglu sbwriel "cyffredin" pob yn ail wythnos a chasglu sbwriel ailgylchadwy pob yn ail wythnos. Y drwg ydy mai'r unig bethau y maent am imi roi yn y bin ailgylchu yw gwydr a phapur, pethau yr wyf wedi dod i'r arfer o beidio â'u binio ers talwm. Sydd yn peri problem imi, mae'n rhaid imi gael gwared â hanner cynhwysion y wili mewn modd amgen pob pythefnos.

Gwych, rwy'n cefnogi ailgylchu, felly yr wyf wedi bod yn edrych ar bob darn o rwtsh cyn ei finio, wedi edrych ar y symbol ailgylchu sydd ar bob paced ac wedi eu rhannu yn ôl y symbol. Plastig a chardfwrdd yw'r ddau beth mwyaf yr wyf yn eu binio. Er mwyn cadw lle yn y wili yr wyf wedi cadw pob darn o blastig a chardbord ar wahân yr wythnos diwethaf er mwyn eu hailgylchu.

Ddoe mi es am dro i'r domen leol i gynnig y cardfwrdd a'r plastig i'w ailgylchu, ond cefais fy ngorchymyn i'w gosod yn y sgip ar gyfer gwasarn domestig cyffredin. Sy'n golygu na fydd un darn mwy o'r gwastraff mae fy nheulu yn ei chynhyrchu yn cael ei ailgylchu nag oedd cyn i'r cynllyn ailgylchu dechrau.

Yn waeth byth, yn hytrach na un lori bin yn mynd a gwastraff wythnos o stad o gant o dai i'r domen leol, bydd angen cant o deithiau car unigol. Pa les i'r amgylchedd sydd i'r fath lol botas o drefn?

03/06/2007

Dim Cydymdeimlad a Beicwyr Gorffwyll

Prynhawn ddoe aeth tua 200 o feicwyr modur ar brotest yn nhref Llandudno yn erbyn penderfyniad prif gwnstabl y Gogledd Richard Brunstrom i ddangos lluniau o Mark Gibney y dyn a gollodd ei ben mewn damwain beic modur. Cafodd y lluniau eu dangos mewn cyfarfod preifat i newyddiadurwyr, ym mis Ebrill, ond penderfynodd un o'r newyddiadurwyr rhoi cyhoeddusrwydd i'r lluniau er mwyn cynnal fendeta yn erbyn Brunstrom oherwydd ei bolisi o weithredu y deddfau yn erbyn goryrru.

Y rheswm swyddogol dros y brotest yn ôl llefarwyr i'r wasg oedd yno oedd protestio yn erbyn y loes yr achosodd y Prif Gwnstabl i'r teulu.

Ond rhaid cofio bod Mr Gibney yn gyrru ei feic ar gyflymder o dros 100 milltir yr awr ar adeg ei ddamwain ar y B5105 rhwng Cerrigydrudion a Rhuthun. Ffordd B, ffordd gul yng nghefn gwlad. Un dyn ac un dyn yn unig sydd yn gyfrifol am y loes a achoswyd i deulu Mr Gibney, sef ef ei hun. Pe na fyddai yn gyrru mewn ffordd mor orffwyll, byddai'r damwain heb ddigwydd a bydda na ddim lluniau o ganlyniadau ei orffwylltra i ddangos i newyddiadurwyr.

Mae'n gwbl amlwg nad oedd Mr Gibney yn poeni fawr ddim am y loes yr oedd ei ymddygiad am achosi i'w deulu ei hun nac am y perygl o achosi loes i deuluoedd diniwed defnyddwyr eraill y lon ar y diwrnod y cafodd ei ladd.

Yr hyn a'm ffieiddiodd fwyaf am y rali heddiw oedd clywed rhai o'r bobl a'i mynychodd yn cwyno ar strydoedd Llandudno wedi'r rali am yr hyn sydd wedi eu pechu go iawn. Sef bod Richard Brunstrom yn ceisio tarddu ar ryddid beicwyr i ddefnyddio lonydd cefn gwlad Cymru yn yr un modd diystyron a defnyddiodd Mr Gibney y B5105 yn ôl ym mis Medi 2003.

Os ydy ymgyrchoedd Mr Brunstrom i greu lonydd diogel i drigolion cefn gwlad Cymru yn peri loes i'r fath bobl, loes pia hi - nid oes gennyf y mymryn lleiaf o gydymdeimlad a nhw.

01/06/2007

Carwyn - Dim Deddf Iaith.

Yn ôl blog Vaughan cafodd Carwyn Jones ei benodi i swydd Diwylliant ac Iaith y Cynulliad er mwyn bod yn Gweinidog Plesio Plaid Cymru. Ei swyddogaeth ef byddai sicrhau bod aelodau'r Blaid yn cael eu bwydo digon i'w cadw rhag dymchwel y Llywodraeth. Rhyfedd o beth, gan hynny, bod Carwyn wedi defnyddio ei gyfweliad cyntaf ers ei benodi i dynnu blewyn o drwyn y Blaid.

Wrth siarad ar raglen Taro’r Post ar Radio Cymru y pnawn yma fe ddywedodd Carwyn nad oedd o'n credu y byddai deddf iaith yn gwneud dim lles i'r iaith. Aeth o ddim mor bell ag i ddweud ei fod yn gwrthwynebu unrhyw ddeddf ond yn sicr yr oedd yn hollol eglur nad oedd o'n ffafrio'r syniad.

Ar un olwg does dim syndod yn natganiad Carwyn, mae'r hyn ddywedodd yn barhad o'r hyn fu polisi'r Blaid Lafur ers wyth mlynedd bellach. Ond eto ffordd od ar y naw i ddechrau cyfnod o geisio llywodraethu trwy gonsensws ac estyn allan at y pleidiau eraill, chwedl Rhodri Morgan, yw taflu dwr oer ar un o'r polisïau oedd ym maniffestos y tair gwrthblaid, a hynny o fewn diwrnod o gael ei benodi.

Wrth gwrs bydd sylwadau Carwyn yn plesio un garfan yn arbennig, yr aelodau hynny o'r Blaid Lafur sydd yn gynhenid wrth Gymreig. Wedi ei bortreadu fel un o'r Llafurwyr sy'n agos at yr Nats hyll dros gyfnod y trafodaethau ar y gytundeb ydy Carwyn yn ceisio newid ei ddelwedd rhywfaint er mwyn cryfhau ei obeithion yn y ras am yr arweinyddiaeth?

English: Carwyn and the Nat Bashers

27/05/2007

Atgyfodi Datganoli i Loegr

Yn ôl cynlluniau ar adrefnu cyfansoddiad llywodraethol gwledydd Prydain y Blaid Lafur pan ddaeth Tony Blair i rym ym 1997 roedd Cymru a'r Alban i gael eu datganoli gyntaf ac yna roedd rhanbarthau Lloegr i'w datganoli. Fe aeth y cynllun yma ar chwâl yn 2004 pan bleidleisiodd etholwyr Gogledd Ddwyrain Lloegr yn gadarn yn erbyn datganoli. Y rhanbarth yma oedd yr un a ystyrid fel y mwyaf tebygol i bleidleisio o blaid, ac o golli'r refferendwm roedd yn amlwg nad oedd modd symud ymlaen a'r cynlluniau mewn unrhyw ranbarth arall.

Yn ôl adroddiad yn y Sunday Herald heddiw bydd Gordon Brown yn ceisio atgyfodi datganoli rhanbarthol i Loegr pan ddaw yn brif weinidog.

Mae datganoli rhanbarthol i Loegr yn bwysig i Brown oherwydd ei ofnau y bydd y ffaith ei fod yn Sgotyn yn cyfrif yn ei erbyn mewn etholiad cyffredinol. Mae nifer o Saeson eisoes yn gofyn pa hawl sydd ganddo i fod yn Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros nifer o agweddau ar lywodraeth Lloegr tra fo'r agweddau yna yn cael eu pennu gan Lywodraeth arall o dan reolaeth plaid arall yn ei gartref ef ei hun.

Wrth gwrs, does dim mymryn mwy o alw am ddatganoli i ranbarthau Lloegr heddiw nag oedd yn ôl yn 2004, a dim gobaith ennill refferendwm o blaid yn unrhyw un ohonynt. Mae yna bosibilrwydd felly bydd Brown yn ceisio osgoi'r angen am refferenda yn llwyr. Mae gan Loegr ei Gynulliadau Rhanbarthol yn barod. Cyrff statudol sydd yn dod a chynghorwyr a chynrychiolwyr cyrff cyhoeddus a gwirfoddol yng nghyd i drafod pethau megis datblygu rhanbarthol. Mae modd i Brown "democrateiddio" y cyrff hyn trwy fynnu bod eu haelodau yn cael eu hethol yn hytrach na'u henwebu.

Mae'n rhaid gwrthwynebu'r fath gynllun.

Yn gyntaf oherwydd bod Cernyw yn rhan o ranbarth De Orllewin Lloegr, sydd yn cynnwys y cyfan o'r penrhyn de gorllewinol. Gwlad yw Cernyw sydd yn haeddu ei senedd / cynulliad ei hun, gwarth ar bobl Cernyw yw eu trin fel rhan fach o ranbarth Seisnig.

Yn ail oherwydd bydd y cynlluniau yn diraddio statws cenedlaethol Cymru a'r Alban - rhanbarthau Prydeinig tebyg i ganolbarth Lloegr byddent ar ôl datganoli Seisnig yn hytrach na Chenhedloedd.

Yn drydydd, ac o bosib yn bwysicach yw oherwydd mae Cenedl ydy Lloegr hefyd, nid cyfres o ranbarthau. Os ydy Lloegr i'w trin yn gyfartal a Chymru a'r Alban yna Senedd i Loegr sydd ei hangen nid naw cynulliad i Loegr.

Saesneg: Resurrection of English Regional Devolution

26/05/2007

Llafur am byth?

Wrth ymateb i ethol Rhodri Morgan yn Brif Weinidog, fe awgrymodd Ieuan Wyn Jones bod gwleidyddiaeth Cymru wedi ei newid am fyth, ac yn ymfalchïo yn y ffaith bod trafodaethau ar ddewis amgen o Lywodraeth wedi eu cynnal. Ar y rhaglenni newyddion fe fynegodd Betsan Powys teimladau tebyg yn awgrymu y bydd rhaid i drydedd lywodraeth Rhodri Morgan ymddwyn yn wahanol i'r ddau a'i rhagflaenodd gan ei fod yn gwybod, bellach, bod dewis arall o Lywodraeth yn bosibilrwydd.

Fel mae Sanddef yn ddweud ar ei flog wrth ymateb i sylwadau IWJ Ond serch yr holl drafod methu a wnaethant, felly dw'i ddim yn gweld sut gall y fath fethiant gael ei liwio fel rhywbeth positif. Ac onid gwers yr wythnosau diwethaf yw nad oes modd gael llywodraeth wahanol i lywodraeth Llafur gan fod unrhyw drafodaethau o'r fath wastad am wynebu problem y casineb cynhenid sydd gan rhai ym Mhlaid Cymru a phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol tuag at y Ceidwadwyr?

Tra bod rhai yn y Blaid yn parhau i roi sosialaeth o flaen anghenion y genedl, a thra bo dylanwad y garfan yma yn cynyddu sut mae modd cael unrhyw fath o gytundeb sy ddim yn cefnogi Llafur?

25/05/2007

Pleidlais yr unben!

O'i blaid neu yn ei herbyn, fe laddwyd y Cytundeb Enfys neithiwr gan bleidlais un unigolyn o Bwyllgor Canolog y Rhyddfrydwyr Democrataidd. Pe na bai ond un a bleidleisiodd yn erbyn y cytundeb wedi pleidleisio o'i blaid, siawns bydda'r Gytundeb Enfys yn fyw heddiw.

A'i democratiaeth yw'r fath sefyllfa? Miliwn yn pleidleisio ac un yn penderfynu?

Bydd raid i'r Cynulliad nesaf, beth bynnag fo'i ymrwymiad pleidiol, sicrhau ffordd well o bennu llywodraeth cyn etholiadau 2011!

22/05/2007

Cymru Olympaidd

Roeddwn wedi bwriadu sgwennu post yn tynnu sylw at gais Alex Salmond i gael tîm Albanaidd yng Ngemau Olympaidd 2012, ond fe gyrhaeddodd blog Annibyniaeth i Gymru'r llinell o'm mlaen.

Nid ydwyf yn un sy'n ymddiddori llawer mewn campau. Yr unig gamp yr wyf yn cymryd rhan ynddi yn rheolaidd yw dominos (os bydd tîm dominos Cymreig yng ngemau 2012, rwy'n gobeithio bod ar gael i'r dewiswyr). Mae'r post yma gan aelod o staff yr SNP yn mynegi, bron yn union fy nheimladau i (o gyfnewid gwlad ac enwau).

Wrth son am hawl gwledydd i gael cynrychiolaeth mewn gemau rhyngwladol dylid nodi bod Cernyw, nid yn unig wedi cael ei wrthod rhag cael tîm Cernywig yng Ngemau'r Gymanwlad, ond bod awdurdodau'r gemau cyfeillgar yn bygwth cyfraith ar y sawl sy'n ymgyrchu am y fath statws.

21/05/2007

Gwrthblaid Effeithiol

Wrth i'r trafodaethau am drefniadau traws pleidiol a chlymbleidiau mynd rhagddi, dim ond dau ddewis sydd gan yr ACau, bod yn rhan o'r Llywodraeth neu fod yn rhan o'r wrthblaid. Yr hyn sy'n ddifyr wrth i'r arweinwyr ystyried opsiwn yr wrthblaid yw sut mae'r gair hwn wastad yn magu'r cynffon effeithiol.

Mae yn anorfod bron i wrthblaid enfys bod yn aneffeithiol oherwydd ei natur. Bydd tri arweinydd plaid gwahanol yn gwrthwynebu'r llywodraeth yn hytrach nag un arweinydd yn lleisio barn pawb. Ceir cyfnodau pan fydd pob un o'r pleidiau yn gwrthwynebu'r llywodraeth ond am resymau gwahanol, gan ddrysu'r wrthddadl, a cheir cyfnodau pan fydd rhannau o'r wrthblaid yn ymatal mewn pleidlais neu'n cefnogi'r llywodraeth yn hytrach na sefyll yn gadarn gyda gweddill yr wrthblaid.

Eto yn y ddau Gynulliad diwethaf mae'r tair plaid lai a'r annibynwyr wedi profi, ar adegau prin, eu bod yn gallu ymddwyn fel gwrthblaid effeithiol iawn. Wedi llwyddo nid yn unig i drechu'r llywodraeth ond i sicrhau bod y llywodraeth yn ildio i'w dymuniad hwy. Ar yr adegau hyn bu'n rhaid i holl garfanau'r wrthblaid, cyd weithio, cyd gynllunio a sefyll yn gadarn fel un. Y cwestiwn amlwg wrth gwrs yw os oes rhaid wrth y fath clymbleidio i fod yn wrthblaid effeithiol, onid gwell yw clymbleidio i fod yn Llywodraeth?

Os ddaw Llywodraeth enfys, dim ond un blaid bydd yn ffurfio'r wrthblaid, a honno'n blaid sydd wedi dangos ei fod yn gallu bod yn unedig ac yn ddisgybledig. Gallasai'r Cynulliad bod yn y sefyllfa unigryw lle bydd ganddi wrthblaid effeithiol am gyfnod llawn yn hytrach na dim ond yn ysbeidiol effeithiol. Os ddaw dydd y Llywodraeth enfys, difyr bydd gweld pa mor abl bydd hi i wrthsefyll pwysau gwrthblaid effeithiol go iawn.

English: Effective Opposition

20/05/2007

Y Blaid yn Ofni'r Enfys?

Un o brif broblemau Plaid Cymru wrth ystyried y Glymblaid Enfys yw pa mor fodlon bydd adain chwith y Blaid i dderbyn clymblaid gyda'r Torïaid Cas.

Ond ai'r chwith bydd yr unig wrthwynebwyr?

Elfyn Llwyd ydy'r unig un o fawrion Plaid Cymru i ddweud ar goedd nad ydyw'n hapus efo Plaid Cymru yn defnyddio'r label sosialaidd, gan hynny yr wyf yn amcanu nad ydyw yn cyfrif ei hun fel un o chwith y Blaid.

Wedi cyhoeddi ail bôl piniwn HTV yn ystod yr ymgyrch etholiadol, yn dangos mae'r Blaid oedd yn fwyaf tebygol o fod yn yr ail safle, newidiodd Llafur ei ymosodiad o Tory lead Coalition i un o ymosod ar glymblaid a oedd yn cynnwys y Torïaid.

Y diwrnod cyn yr etholiad cafwyd enghraifft o hyn yn y San Steffan gyda Peter Hain yn cyfeirio at Nationalist-Tory Alliance. Dyma oedd ymateb Elfyn Llwyd:

Obviously, the Secretary of State has changed the order: it is now nationalist-Tory, not Tory-nationalist; in any event, it is nonsense, as it was last week.

Os mae nonsens oedd ymateb aelod o ganol / de'r Blaid i'r syniad o glymblaid genedlaethol-ceidwadol a oes obaith gwirioneddol i'r syniad o glymblaid enfys cael ei dderbyn gan awdurdodau'r Blaid?

Mae'n wybyddus bellach bod cynnig Plaid Cymru o refferendwm ar ehangu datganoli, Deddf Iaith ac adolygiad o fformiwla Barnet fel cyfnewid am gytundeb o gefnogaeth wedi ei wrthod gan AC'au gwrth Gymreig Llafur, fel pris rhy uchel i'w talu.

Mewn theori mae'r Blaid mewn sefyllfa gref iawn i fynnu mwy na hynny bellach, gyda methiant y trafodaethau Lib-Lab. Er enghraifft mynnu newid yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i osgoi'r angen am refferendwm, mynnu hawliau ychwanegol i'r Cynulliad dros faterion amgenach yn y cyfamser, ac ati.

Yn gynharach eleni fe ildiodd Plaid Cymru yn rhy gynnar yn nhrafodaethau'r gyllideb oherwydd ei ofn o gael ei chysylltu yn rhy agos a'r Torïaid, a chollwyd cyfle o gael mwy allan o'r Llywodraeth Lafur o'r herwydd.

Ydy hanes am gael ei ail adrodd?

Rwy’n poeni, ac yn poeni yn arw, y bydd y Blaid yn rhoi fewn i gynigion eilradd Llafur oherwydd yr ofn patholegol, bron, sydd gan ambell aelod o'r Blaid o gael eu cysylltu efo'r Ceidwadwyr.

Mae yna ormod o bobl yn y Blaid bydd yn fodlon derbyn llai nag oedd ar gael gan Lafur yr wythnos diwethaf er mwyn osgoi'r posibilrwydd o gyd-lywodraethu gyda Cheidwadwyr Cymru. Mae Plaid Cymru, mewn theori, yn y sefyllfa gryfaf a bu yn ei hanes - i droi'r theori yn wirionedd bydd rhaid i'r Blaid bod yn ddewr a gwneud ambell i ddewis dewr o anodd. Un o'r pethau dewraf bydd angen i'r Blaid gwneud bydd dweud wrth garfan gref o'i haelodaeth i gallio, a derbyn bod y farn Geidwadol yn farn ddilys Gymreig!

16/05/2007

Yr Arwr Tartan

Wrth i'r Alban dechrau ar un o gyfnodau mwyaf cynhyrfus yn ei hanes ers 300 mlynedd, bydd diddordeb sicr ym mysg cenedlaetholwyr Cymru yn hynt a hanes gwleidyddol y wlad.

Ar y cyfan rwy'n credu bod blogio Cymreig yn dipyn gwell na blogio yr Alban (ond hwyrach bod gennyf ragfarn). Mae yna un blog sy'n sefyll pen ac ysgwydd uwchlaw'r gweddill sef cynnig yr Arwr Tartan. Mae'n werth pigo draw i ddarllen ei fyfyrdodau yn rheolaidd os am gadw bys ar bỳls cenedlaetholdeb cyffroes ein cefndryd Celtaidd.

Mae ei gynnig diweddaraf yn cynnwys fideo o araith derbyn y brif weinidogaeth gan Alex Salmond.

Y Brif Weinidog Salmond

Llongyfarchiadau calonnog i Alex Salmond ar gael ei ddyrchafu yn Brif Weinidog yr Alban. Bydd gwaith caled a rhwystredig o'i flaen wrth iddo geisio rheoli'r Alban heb fwyafrif ac yn wyneb gwrthwynebiad Blaid Lafur sy'n credu bod yr un hawl dwyfol ganddi i reoli'r Alban ac sydd ganddi i reoli yng Nghymru.

Mae Alex Salmond yn ddyn craf ac yn ddyn galluog. Rwy'n sicr y bydd yn llwyddo i weddnewid gwleidyddiaeth a chymdeithas yr Alban er gwaethaf pob rhwystr. Pob hwyl iddo yn y gwaith.

13/05/2007

12/05/2007

Nonsens Wigley a Ryder

Mae yna lwyth o lol wedi ei ysgrifennu ar y we ac mewn ambell i gylchgrawn a phapur newyddion dros y dyddiau diwethaf parthed Dafydd Wigley. Yn ddi-os mae'r hanesion yma yn bwydo'r sawl sy'n dymuno dim ond drwg i'r Blaid. Maent yn creu rhwyg lle nad oes rhwyg yn bod ac yn creu drwgdeimlad di angen ymysg rhengoedd y Blaid.

Pe bai Dafydd Wigley, fel unigolyn, a Phlaid Cymru fel corff wedi dymuno'r sicrwydd o weld Wigley yn dychwelyd i'r Bae, roedd nifer o ffyrdd amgen i sicrhau hynny na'i roi ar restr y Gogledd.

Roedd Owen John Thomas wedi nodi ei fod am ymddeol o'i sedd yng Nghanol De Cymru, doedd dim i rwystro Wigley rhag ymgeisio am y slot gwag yno. Roedd Janet Davies wedi nodi ei bod hi am ymddeol hefyd; pe bai dymuniad i wneud eithriad arbennig i reolau'r Blaid ar ferched yn bennaf i hwyluso dychweliad Wigley De Orllewin Cymru byddai'r rhanbarth orau i wneud y fath eithriad. Pe bai Wigley wedi cynnig am sedd etholaethol Aberconwy mi fyddai wedi bod yn sicr o'r enwebiad ac mi fyddai Gareth Jones wedi ildio ei ymgeisyddiaeth, o blaid Wigley, yn gwbl di rwgnach. Mwy o gambl, ond un llai na'r rhestr, byddid petai Wigley wedi sefyll yn etholaeth Gorllewin Clwyd.

Nid sicrhau ethol Wigley oedd y bwriad. Ar ôl trychinebau 2003 a 2005 roedd yna ofn gwirioneddol yn y Blaid bod posibl i Ieuan Wyn colli ei sedd ym Môn. Pe bai hyn wedi digwydd mi fydda'r Blaid, wedi ei gwanychu gan y canlyniad, yn rhwygo ei hun i wendid mwy byth wrth geisio ethol arweinydd newydd. Ond pe bai Wigley yn cael ei ethol fel gwobr gysur am golli Môn bydda dim rhaid cael ffrae arweinyddol - bydda Wigley wedi ei dderbyn fel arweinydd naturiol.

Wrth gwrs, pe bai Wigley wedi dewis un o'r ffurf amgenach a saffach i gael ei ail ethol mi fyddai yno 'run fath i arwain y Blaid pe bai trychineb ym Môn. Roedd reswm syml pam na aed ar hyd y trywydd yna. Pe bai'r Blaid wedi cael etholiad gwael i ganolig a sicrhau dychweliad Ieuan o drwch blewyn a Wigley hefyd, bydda ymgecru arweinyddol wedi dechrau ta waeth. Yn wir pe bai Wigley wedi ei ethol bydda'r baw a'r sen sy'n cael ei anelu at Janet Rider druan, dynes sydd wedi rhoi diwrnod da o waith i'r achos cenedlaethol, yn cael ei anelu at IWJ a bydda Blaid Cymru yn yr un twll ag ydy'r Democratiaid Rhyddfrydol heddiw.

English: Miserable Old Fart: The Wigley and Ryder Nonsense

Cysylltiadau:
Llais y Sais - Blog Vaughan - Blamerbell - Labour Mark - Sanddef - Peter Black AC - Cymru Mark - Brit Nat Watch