Llongyfarchiadau mawr i Guto Bebb ar gael ei ddewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth newydd Aberconwy. O lwyddo cael ei ethol does dim dwywaith y bydd yn aelod etholaethol rhagorol ac yn gaffaeliad i San Steffan.
Mae Aberconwy yn sedd newydd sydd yn cael ei gynrychioli ar hyn o bryd gan Beti Williams (Llafur) ac Elfyn Llwyd Plaid Cymru. Bydd ru'n o'r ddau aelod cyfredol yn amddiffyn y sedd*. Yn ôl amcangyfrif gan UK Polling Report y canlyniad tybiannol yn 2005 oedd;
Llafur: 9119 (31.5%)
Ceidwadwyr 8875 (30.6%)
Democratiaid Rhyddfrydol: 5733 (19.8%)
Plaid Cymru: 4186 (14.4%)
Eraill: 1080 (3.7%)
Mwyafrif Llafur dros y Ceidwadwyr : 243 (0.8%)
Dyma'r pumed sedd yn rhestr targedau'r Blaid Geidwadol.
Rhaid dweud bod y canlyniadau tybiannol yma yn gallu bod yn annibynadwy iawn, bydda Guto neu unrhyw ymgeisydd arall yn gwneud camgymeriad o roi gormod o bwys arnynt.
Defnyddiwyd y ffiniau newydd ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai dyma oedd y canlyniad:
Gareth Jones PC 7,983 (38.6%)
Dylan Jones-Evans Ceid 6,290 (30.4%)
Denise Idris Jones Llaf 4,508 (21.8%)
Euron Hughes D Rh1,918 (9.3%)
* Cywiriad
Yr oeddwn yn tybio bod Beti Williams am sefyll yn etholaeth Arfon, ond mae Hafod a Martin Eaglestone wedi rhoi gwybod imi bod hyn yn anghywir a bod Mrs Williams am sefyll yn etholaeth Aberconwy.
Dwi'n clywed y bydd Beti yn sefyll yn Aberconwy a dwi'n eitha siwr y bydd llwyddiant Plaid Cymru yn y Cynulliad yn hwb i'w gobeithion nhw - o gael yr ymgeisydd iawn.
ReplyDeleteAmau'n fawr a fydd Guto Bebb yn llwyddo, yn enwedig wrth i'r Blaid Geidwadol implodio ar lefel Brydeinig (yn allweddol o ystyried Prydeindod llawer o'r darpar bleidleiswyr Ceidwadol).
Mae Martin Eaglestone hefyd wedi cadarnhau y bydd Mrs Williams yn sefyll yn etholaeth Aberconwy, felly ymddiheuraf am y camgymeriad. Yr wyf wedi ategu nodyn o gywiriad i'r post gwreiddiol.
ReplyDeleteMae'r ffigyrau tybiannol yn awgrymu y bydd yr etholaeth yn un andros o galed i Blaid Cymru, ond rwy'n credu bod y ffigyrau yna yn gamarweiniol iawn. Er hynny bydd eu bodolaeth yn sicr o wneud gwaith y Blaid yn anoddach yn yr etholiad.
Mae etholiad y Cynulliad wedi dangos bod bron i wyth mil o bobl yn fodlon cefnogi Plaid Cymru yn yr etholaeth. Bydd angen mil neu fil a hanner yn ychwanegol i gipio'r sedd mewn etholiad San Steffan. Gydag ymgeisydd gwell na'r llinyn trôns o ymgeisydd a safodd dros y Blaid yn 2005, dydy hynny ddim y tu hwnt i bob gobaith.
Does'na'm dwywaith fod Guto'n dalentog, ond Brit pro-America, pro-Israel ydi o.
ReplyDeleteTan fydd y Toris yn torri ffwrdd o'r blaid Brydeinig,plaid Jac yr Undeb a Land of Hope and Glory fyddan nhw.
Peth arall - sgwn i ydio am ddileu ei negeseuon tantrymaidd, hunan-bwysig ar Maes-e, cyn i'r wasg eu nodi cyn y lecsiwn?
Diolch am y geiriau caredig Alwyn. Dwi'n mawr obeithio y bydd Beti Williams AS yn dewis sefyll yma'n Aberconwy. Fe ddaru mi fwynhau etholiad 2005 a byddai llwyddo yn erbyn aelod lleol cydwybodol fel Beti Williams yn fuddugoliaeth dda iawn i'r Ceidwadwyr.
ReplyDeleteDwi'n derbyn yn llwyr fod credu mewn rhagdybiaethau yn beryglus ond fe fyddwn yn awgrymu nad 7,800 oedd pleidlais Plaid yn 2007 ond yn hytrach 6,400. 7,800 gafodd Gareth Jones AC, ar y rhestr cafodd Plaid 6,400 os dwi'n cofio'n iawn. Felly mae angen darganfod 4,000 ar Blaid Cymru os ydynt am lwyddo.
Yn 2005 yr oedd hi'n weddol amlwg fy mod ar y blaen i Beti hyd i focsys Dyffryn Ogwen a Bangor lanio yn y neuadd gyfrif ym Mae Colwyn. Heb os mae yna waith sylweddol yn gwynebu y Ceidwadwyr yn Aberconwy ond yr wyf yn troi at y gwaith yn hyderus ac yn frwdfrydig.
O ran geiriau Jason Roberts - wel ni allaf wadu fy mod yn aelod o Blaid Brydeinig, yn gochel rhag gwrth Americaniaeth syrffedus y chwith Brydeinig (sy'n cael adlewyrchiad llawn o fewn rhengoedd Plaid) ac dwi hefyd yn gryf fy nheimlad fod Israel yn haeddu bodoli. Tydi'r un o'r safbwyntiau hyn yn debygol o fy ngwneud yn wrthyn i neb ond y mwyaf eithafol o rengoedd sosialwyr agweddau Prydeinig Plaid Cymru.