31/03/2010

Arestio Gwilym Euros

Fel Cai yr wyf wedi cael ambell i gais i drafod y stori bod Gwilym Euros wedi cael ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o ymosod. Fel mae'n digwydd rwy'n gwybod dim mwy am yr hanes na sydd wedi ei gynnwys ar wefan y BBC, sydd yn brin iawn o fanylion.

Yn wahanol i Cai nid ydwyf yn credu bod y stori yn un nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol a gwleidyddiaeth. O feddwl yn ôl am straeon am DI yn parcio ei gar mewn lle anabl, Mick Bates yn fwrw gweithiwr iechyd neu Gordon Brown yn bwlian, maent oll yn storïau gwleidyddol gan eu bod yn adlewyrchu ar y gwleidydd. Mae ymddygiad gwleidydd, hyd yn oed pan nad yw'n gwleidydda yn dweud rhywbeth am ei gymeriad / ei chymeriad.

O ran Gwilym Euros fyddwn yn dweud bod ymosod yn gorfforol ar eraill yn gyfan gwbl tu allan i'w gymeriad, ond yn di os mi fydd y stori yn cael effaith gwleidyddol. O ran cael trafodaeth, y peth callaf i Gwilym gwneud yw trafod y manylion yn agored ar ei flog ei hun lle bydd o'n gallu rhoi ei ochor o o'r stori cyn i'w elynion ei droelli gan wneud mwy o niwed iddo na fydd y stori yn ei haeddu.

Wrth gwrs dydy ymosod ddim, pob tro, yn stori drwg - mae o wedi bod yn hufen ar yrfa gwleidyddol ambell i unigolyn:

30/03/2010

Freeview+ a S4C

Ers i deledu troi yn unigryw digidol yn y parthau hyn yr wyf wedi cael gafael ar flwch Freeview+. Mae'r blwch yn caniatáu imi recordio rhaglen unigol ar bob sianel, a chyfres o raglenni ar y rhan fwyaf o sianeli. Un o'r sianeli lle nad oes modd imi recordio cyfres yw S4C!

Pe bawn yn mynd ar fordaith rownd y byd a dod adref gan ddymuno dal i fyny efo'r hyn a methais o Eastenders byddai'r cyfan wedi ei gadw ar fy mlwch, ond pe bawn am ddal fyny efo anturiaethau Pobol y Cwm ddaw siom i'm rhan, gan nad yw'r linc cyfres yn gweithio ar gyfer S4C.

Cyn imi roi gwers y persli i S4C am y methiant 'ma yn eu darpariaeth, hoffwn gymharu nodau efo darllwnwyr fy mlog i gael gwybod os mae'r sianel sydd ar fai, neu wneuthurwyr fy mlwch sef Alba (ALDTR160).

Oes yna flychau Freeview+ eraill sydd yn recordio cyfresi ar S4C?

19/03/2010

Billy Wolfe 1924-2010

Un o'r llyfrau gwleidyddol cenedlaethol cyntaf imi ei ddarllen pan yn laslanc oedd Scotland Lives: the Quest for Independence gan Billy Wolfe. Roedd Billy yn ŵr hawddgar ac annwyl a dyn a roddodd oes i ymgyrchu dros yr SNP a CND gyda wen barhaus ar ei wyneb. Ef oedd Cynullydd yr SNP o 1969 i 1979 y cyfnod a welodd y blaid yn troi o fod yn grŵp pwyso dinod i fod yn rym o bwys yn yr Alban.

Trist oedd clywed gan Calum Cashley bod Billy wedi marw ddoe, bydd ei golled i'r achos cenedlaethol yn un fawr. Cydymdeimladau dwysaf i'w wraig a'i bedwar plentyn. Heddwch i'w lwch.

Mae gan yr SNP gwefan coffa a theyrngedau YMA

11/03/2010

Ecscliwsif - Mae'r BBC yn gwneud rhaglenni teledu!

Mae'n wirioneddol gas gen i yr arfer ar raglenni newyddion o adrodd stori sydd ddim yn stori go iawn, ond sy' ddim byd amgen na rhaghysbysiad i raglen arall mewn gwirionedd. Mae pob rhaglen newyddion yn euog o'r arfer ond Report Wales y BBC yw'r gwaethaf oll.

Dros fwrw'r Sul cafwyd nifer o dreilars ar gyfer y rhaglen Afghanistan - Five Welsh Families. Roedd unrhyw un a wyliodd BBC Wales ar y penwythnos yn gwybod bod y rhaglen ar fin ei ddarlledu, erbyn i'r stori ymddangos ar Wales Today nos Lun, nid ydoedd yn newyddion ond yn wybodaeth cyffredinol.

O barch i'r Bîb, roedd rhaglen Afghanistan yn rhaglen faterion cyfoes, o leiaf, ond roedd newyddion Report neithiwr yn bwrw'r arfer o raghysbysu dros ben llestri.

Y Newyddion oedd bod Syr Pryce Jones, wedi gwerthu'r Cwdyn Cysgu cyntaf ym 1876, dros gant a deg ar hugain o flynyddoedd yn ôl! Does gan y stori ddim hyd yn oed y cyfiawnhad o ffaith hanesyddol newydd ei ddarganfod - rwy'n cofio cwestiwn cwis tafarn ac eitem Hel Straeon amdani flynyddoedd lawer yn ôl

Roedd y rhaglenni dan sylw yn rhai difyr a dadlennol a gwerth eu gwylio, ond nid oedd eu darlledu yn haeddu slot ar y newyddion. Mae'n hen, hen bryd i Report Wales sylweddoli nad ydy BBC Wales makes a programme yn bennawd newyddion.

08/03/2010

Mwy o drafferthion i Geidwadwyr Conwy

Mae aelod Ceidwadol arall o Gyngor Sir Conwy wedi ymadael a grŵp y blaid. Cipiodd y Cyng. Dave Holland ward Abergele a Phensarn oddi wrth y Blaid Lafur yn 2008, dipyn o bluen yn het y Torïaid ar y pryd. Mae'r Cyng. Holland bellach am eistedd gyda'r grŵp annibynnol.

Yn ochor Aberconwy o'r sir mae ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr wedi dechrau ymgyrch o feio'r negesydd er mwyn ceisio esgus am y ffaith bod ei ymgyrch yn dechrau chwalu. Mae dau bost newydd ar flog Guto heddiw, y naill yn cwyno am safonau newyddiadurol y papur wythnosol lleol y North Wales Weekly News ar llall yn cwyno am safon newyddiadurol newyddiadurwr profiadol ac uchel ei pharch y BBC Betsan Powys.

03/03/2010

Llawen Dydd Santes Non

Ers 1987 mae Mis Mawrth wedi ei ddynodi fel Mis Merched Mewn Hanes.

Dw'n i ddim pwy sy'n gyfrifol am ddynodi dyddiau nac wythnosau na hyd yn oed dyddiau fel rhai penodedig, ond ta waeth mis Mawrth yw mis y merched!

O'r holl agweddau ar hanes yr un yr wyf fi yn hoffi mwyaf yw hanes teuluol, hanes sydd yn gwneud y ferch yn ganolog - gellir bod yn sicr o bob Mam yn yr ardd achau a'i gair hi yw y prawf gorau ceir am bob tad!

Oes angen mis o'r fath, dwn i ddim? Yn sicr mae 'na brinder merched yn y Bywgraffiadur - llai na 0.25 y cant yn ôl y son, yn di os mae merched Cymru wedi cyfrannu mwy na hynny i hanes ein gwlad.

Un o'r rhai sy'n cael mensh yn y Bywgraffiadur yw Non, Mam Dewi Sant a heddiw yw ei dygwyl hi, felly clod i Non a phob merch arall sydd wedi cyfrannu i wythïen cyfoethog hanes ein gwlad.

Y scandal treuliau mwyaf un yn y byd i gyd

Pam fod barn Elfyn Llwyd werth gymaint yn fwy na fy marn i?

Yr wyf yn fwy blin nac arfer heno. Cefais gais i gymryd rhan mewn pôl piniwn gan YouGov heddiw - fy ngwobr am ei lenwi bydd 50c, rhaid cydnabod ei fod yn 50c yn fwy na'r wobr cefais ei gynig yr wythnos dwiwethaf, sef rhoi fy enw i mewn i het ar gyfer gwobr raffl!

Wrth edrych ar dudalen Treuliau Seneddol Elfyn Llwyd AS cefais hyd i'r wybodaeth yma:

Fee of £50 received for interview lasting 30 minutes on 18 September 2009. (Registered 6 October 2009) ComRes, Four Millbank, London SW1P 3JA.
£50 for completion of a parliamentary survey. Hours: 20 mins. (Registered 21 August 2009)
11 January 2010, paid £75 by ComRes for a completing survey panel. Hours: 20 mins. (Registered 12 January 2010) BPRI, 24-28 Bloomsbury Way, London, WC1A 2PX.
£75 for completing an opinion panel questionnaire. Hours: 30mins. (Registered 3 September 2009)
£75 for completing survey. Hours: 30 mins. (Registered 25 November 2009)
£75 for completing survey. Hours: 40 mins. (Registered 9 December 2009)
Rwy'n cael ffiffti pî ac mae o'n cael 75 punt am lenwi arolwg - y bastard barus!

Os hoffech gael bod yn rhan o arolygon YouGov am 50c pitw clicier yma! Os hoffech gael crocbris am yr un gorchwyl danfonwch eich enw, cynigydd, eilydd a rhyw 10,597 o bleidleisiau i'ch swyddog canlyniadau etholiadol lleol!

Grrrr!!!!

02/03/2010

Dadl y Brif Weinidogion

Mae gan olygydd materion gwleidyddol rhaglen Newsnight y BBC, Michael Crick post diddorol ar ei flog.

Mae o'n honni bod y Bîb wedi canfod ffordd wych o gau Y Blaid, Yr SNP a phleidiau eraill allan o'r dadleuon arfaethedig ar gyfer Arweinwyr y Pleidiau cyn Etholiad Sansteffan.

Y tric yw newid enw'r dadleuon. Nid Dadleuon yr Arweinwyr byddant fwyach ond Dadl y Darpar Prif Weinidogion.
It's a cunning manoeuvre, agreed by the three main broadcasters (the BBC, ITV and Sky) and the three main parties, to exclude the SNP and Plaid Cymru leaders from the debates.

Since the SNP will only be fighting the 59 Scottish seats then Alex Salmond can't possibly become prime minister (nor Plaid's Elfyn Llwyd), so both are thereby disqualified from the TV debates.

Cunning manouver, o bosib ond nid un bydd yn dal dŵr cyfreithiol os ydy un neu ragor o'r pleidiau llai yn penderfynu herio'r drefniadaeth.

Dydy'r tric ddim yn llythrennol gywir. Mae'n eithriadol annhebygol o ddigwydd, rwy'n gwarantu, ond o dan y drefn mi fyddai'n bosib i Elfyn dyfod yn Brif Weinidog. Os ydy'r Blaid yn dweud rydym yn fodlon cefnogi llywodraeth leiafrifol Llafur/ Ceidwadwyr / Rhydd Dems ond dim ond ar yr amod mae Elfyn sydd yn cael byw yn rhif 10 Stryd Downing. Trwy ganiatáu i Nick Clegg bod yn rhan o'r ddadl y mae'r BBC eisoes wedi cydnabod bod gwahoddiad i'r ddadl yn seiliedig, nid ar y tebygolrwydd o ddyfod yn PM ond yn hytrach ar y posibilrwydd mwyaf annhebygol o gael y joban.

Wrth gwrs, ar wahân i'r ffaith bod Elfyn yn hapus yn ei dy bach twt gyfredol yn Llanuwchllyn, does dim gwarant y bydd yr un o'r tri arweinydd Pleidiau Mawr Llundain yn Brif Weinidog. Gall yr SNP curo Gordon Brown yn etholaeth Kirkcaldy and Cowdenbeath. Gall Dawn Barnes, o’r Rhydd Dems, rhoi enaid Portillo i obeithion David Cameron yn Witney, a gall y Monster Raving Loony Party rhoi cyllell finiog yng ngobeithion Nick Clegg yn Sheffeild Hallam (wel mae o'r un mor debygol a Nick Clegg Prif Weinidog!!).

Mae'r etholaethau Celtaidd yn cyfrannu 23% o etholaethau Sansteffan, hyd yn oed heb gymorth cenedlaetholwyr Seisnig, mae modd mathemategol (prin) i'r Cenedlaetholwyr Celtaidd dychwelyd y bloc fwyaf o ASau yn Senedd Llundain!

Ond posibilrwydd llawer mwy tebygol, os yw'r polau piniwn yn gywir, yw llywodraeth grog efo mwy o aelodau Llafur na Cheidwadol. Pe bai hynny'n digwydd rwy'n credu, yn sicr, mae cael gwared â Brown fel darpar Brif Weinidog bydda gofyn cyntaf pob un o'r pleidiau llai.

01/03/2010

Dim Datganoli i Islwyn

Mae yna rywbeth eithaf hilariws yn newyddion Betsan Powys bod yr arch wrthwynebydd i ddatganoli, y Cyng. Dave Rees, un o arweinwyr True Wales am sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn etholiad Sansteffan, oherwydd ei gred bod ymgeisydd Llafur Islwyn wedi ei benodi yn ganolog o Lundain yn hytrach nag yn ddatganoledig gan y blaid yn lleol.

Dathlu

Mae heddiw yn ddiwrnod dathlu annibyniaeth ym Mosnia-Hertsogofinia. Dim ond gŵyl nawddsant ydyw yng Nghymru ysywaeth.

Pa un sydd a'r achos fwyaf i ddathlu tybed?

Cyfarchion yr ŵyl i fy niferus darllenwyr yng Nghymru ac i'r un neu ddau syn pigo yma o ddwyrain Ewrop hefyd.