Showing posts with label Cyngor Conwy. Show all posts
Showing posts with label Cyngor Conwy. Show all posts

23/03/2013

Darpariaeth Cymraeg Annerbyniol Cynghorau Conwy a Dinbych


Bwrw'r Sul diwethaf mi fûm i wylio gêm rygbi dan ugain ym Mae Colwyn yn anffodus tra yno mi gollais fy waled. Ym mysg y cardiau yn y waled bu raid imi eu canslo a gwneud cais i'w hamnewid oedd  fy Nhocyn Teithio Rhatach Llywodraeth Cymru. Y cynghorau sir sydd yn darparu'r tocynnau ar ran Llywodraeth Cymru ac ers i mi dderbyn un am y tro cyntaf yr wyf wedi cael gwasanaeth Cymraeg didrafferth gan Gyngor Sir Conwy.

Mi ffoniais Cyngor Conwy dydd Llun i wneud cais am docyn newydd a chael gwybod mae Cyngor Sir Dinbych sy'n darparu'r gwasanaeth ar ran Conwy bellach a bod rhaid cysylltu â'u swyddfa yn nhref Dinbych. O ffonio’r swyddfa yn Ninbych a gofyn am ffurflen gais amnewid yn y Gymraeg cefais yr ymateb "We don't speak Welsh here" (Nid I don't speak Welsh) ac o holi am rywun i ddelio a fy nghais yn y Gymraeg cael yr un ymateb "I told you we don't speak Welsh here". Cyrhaeddodd y ffurflen gais heddiw - ffurflen uniaith Saesneg.

Er bod cynghorau Conwy a Dinbych yn cynnwys rhai o'r ardaloedd mwyaf Seisnig yng Nghymru maent hefyd yn cynnwys ardaloedd Cymraeg iawn; yn wir yn Sir Conwy mae'r unig gymunedau sydd â rhagor na 70% o siaradwyr y Gymraeg y tu allan i Wynedd a Môn. Byddwn yn ystyried gwasanaeth mor haerllug tuag at yr iaith yn annerbyniol mewn unrhyw ran o Gymru ond mae trin yr iaith yn y fath modd yng Nghonwy a Dinbych yn gyfan gwbl warthus.

Bydd cwyn yn cael ei wneud i brif weithredwyr y ddwy sir a Chomisiynydd yr Iaith - wrth gwrs; ond pam ddiawl dylid gorfod gwneud y fath gwynion er mwyn cael darpariaeth Gymraeg mor sylfaenol yn y dyddiau hyn?

05/04/2012

Dim Etholiad i Gyngor Cymuned Glan Conwy eto byth

Efo dim ond 11 o ymgeiswyr ar gyfer y 12 sedd bydd dim etholiad ar gyfer Cyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy eto eleni. Er chwilio trwy hen bapurau lleol rwy'n methu gweld unrhyw gyfeiriad at etholiad ar gyfer y Cyngor yma ers diwedd yr Ail Rhyfel Byd (gyda'r eithriad o'r isetholiad imi sefyll llynedd). Rwy'n siŵr nad yw Glan Conwy yn unigryw yn hyn o beth; fe fydd nifer fawr o gynghorau cymuned eraill yng Nghymru yn cael eu cynnal heb etholiad hefyd.

Un o ganlyniadau'r diffyg etholiad yw y byddwyf i yn aelod o'r cyngor heb orfod ymgyrchu na chael fy ngosod yn y fantol i gael fy mhrofi gan fy nghyd bentrefwyr. Byddai nifer yn gweld cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad fel bendith, ond y mae'n sefyllfa sydd yn fy nhristau i. Mi fyddai'n well gennyf i golli mewn etholiad cystadleuol na chael ennill heb gystadleuaeth. Dylai'r cynghorau bach bod yn garreg sylfaen y gyfundrefn ddemocrataidd, mae'r ffaith bod cymaint o gynghorwyr yn cael eu dethol heb etholiad yn gwneud ffars o ddemocratiaeth.

Mae yna bedwar ymgeisydd yma ar gyfer etholiadau'r Cyngor Sir
Sarah Ivonne Lesiter-Burgess Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
John Malcom Spicer Annibynnol
Dan Worsley Plaid Geidwadol Cymru
a'r ymgeisydd bydd yn cael fy nghefnogaeth i
Graham Rees Annibynnol
>

17/06/2011

Siom i'r Blaid yng Nghonwy

Mae Blog Menai yn cyfeirio at lwyddiant gwych Dafydd Meurig i gipio sedd oddi wrth y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn Arfon, llongyfarchiadau mawr iddo. Yn anffodus llwyddodd y Blaid i niweidio ei hun yng Nghonwy ar yr un ddiwrnod!

Bu farw Wil Edwards, un o gynghorwyr y Blaid, ond aeth y Blaid ddim i'r drafferth o gynnig ymgeisydd i'w olynu!

Pam?

Sut mae disgwyl ennill tir heb drafferthu amddiffyn y tir sy'n eiddo i'r Blaid yn barod?

Y canlyniad oedd:
Renne Crossley (Tori) 30
Peter Groudd (annibynnol) 477

07/04/2011

Mae Seisnigrwydd y Gyffordd yn Hanesyddol - sioc!

Yr wyf wedi derbyn ymateb gan Cyngor Conwy parthed fy nghwynion am arwyddion stryd uniaith Saesneg sydd wedi ymddangos yn niweddar yng Nghyffordd Llandudno dyma fo:

Diolch i chi am eich neges e-bost yn ddiweddar am yr arwyddion stryd newydd sydd wedi eu gosod ar hyd Conway Road.

Mae’r arwyddion stryd newydd y cyfeiriwch atynt yn cael eu gosod yn lle’r hen rai fel rhan o gynllun i wella strydwedd yr ardal mewn ymgais i gefnogi’r gwaith o adfywio Conway Road. Mae’r arwyddion hyn yn cael eu newid i adlewyrchu’r hyn a oedd yno gynt ac mae enwau’r strydoedd yn enwau swyddogol sydd wedi bodoli ers adeg creu’r strydoedd. Mae enwau swyddogol strydoedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn gymysgedd o enwau Cymraeg yn unig, Saesneg yn unig, ac weithiau dwyieithog. Er enghraifft, efallai y byddwch wedi sylwi mai enw Cymraeg yn unig sydd ar yr arwydd enw stryd newydd yn Ffordd Maelgwyn wrth i chi adael Cyffordd Llandudno tuag at gylchfan y Black Cat.

Mae’r Cyngor yn cefnogi ac yn annog defnydd o enwau Cymraeg traddodiadol ar gyfer datblygiadau newydd mewn ardal os ydynt yn briodol, ac mae’n ffafrio enwau sy’n adlewyrchu cymeriad yr ardal. Gellir gweld enghraifft o hyn ar Conway Road, lle mae enw stryd o dai newydd wedi’i henwi’n ffurfiol yn Gwel yr Afon’. Rydym yn ymwybodol fod camgymeriadau wedi ymddangos ar yr arwydd enw stryd newydd ar gyfer Gwel yr Afon, ond gallwn eich sicrhau y bydd hyn ac unrhyw bryderon eraill sy’n ymwneud ag arwyddion yn cael eu datrys yn syth.

Hefyd, fel rhan o’r Cynllun hwn, bydd yr arwyddion croeso, byrddau gwybodaeth am y gymuned, ac arwyddion cyfeirio newydd yn gwbl ddwyieithog yn unol â’n Cynllun Iaith Gymraeg.

Gobeithiaf fod hyn o gymorth i egluro’r sefyllfa.

Yn ddiffuant
Tim Pritchard

Gwêl yr Afon, gyda acen sy'n gywir nid Gwel yr Afon Tim!

Mae'n ymateb cwbl hurt - mae defnyddio CONWAY ROAD mewn llythyr Gymraeg yn brawf braidd o ba mor hurt ydyw. Mae'n gwbl amlwg mae Ffordd Conwy dylid ei ddefnyddio wrth gyfeirio at y lôn yn y Gymraeg (a Conwy Road yn y Saesneg hefyd mae Conway wedi hen chwythu ei blwc)!

Mae dadlau mae enwau hanesyddol yw Nant y Gamer Road, a bod Ffordd Nant y Gamer yn annerbyniol yn awgrymu nad oedd Cymry Cymraeg y Gyffordd yn ymwybodol mae Ffordd yw'r gair Cymraeg am Road!

Mae gwneud yr esgus bod enwau strydoedd wedi bodoli ers adeg creu’r strydoedd sef adeg pan oedd y Gymraeg yn cael ei ddilorni ac adeg pan oedd pobl am weld y Gymraeg yn cael ei ladd yn un warthus!

A hyd yn oed os yw dyn yn derbyn dadl Tim mae Osborne Road yw enw hanesyddol swyddogol Ffordd Osborne, ydy o, wir yr, yn disgwyl i ni dderbyn mae Car Park yw enw hanesyddol y Maes Parcio sydd yno?

30/03/2011

Rhywbeth yn drewi yn y Gyffordd

Ers fy mhost diwedd yr wythnos diwethaf parthed arwyddion uniaith Saesneg yn cael eu gosod yng Nghyffordd Llandudno, mae Cyngor Conwy wedi gosod un arwydd dwyieithog yn y pentref – chware teg iddynt!

Yn anffodus, mae'n anghywir!


Hyd y gwyddwn Brie Fart, yw'r hogla sy'n deillio o fwyta gormod o gaws cryf, yn hytrach na statws cyfreithiol lôn yng Ngogledd Cymru

25/03/2011

Arwyddion Saesneg Cyngor Sir Conwy

Er gwaetha'r hinsawdd economaidd garw mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael hyd i ddigon o arian i gyfnewid pob un arwydd stryd ym mhentref Cyffordd Llandudno, mae'r Gyffordd yn bentref gweddol o faint, gan hynny byddwn yn amcangyfrif bod tua deugain o arwyddion newydd wedi eu gosod yno a phob un ohonynt yn uniaith Saesneg.

Roeddwn yn credu bod yr ymgyrch dros arwyddion dwyieithog yn y gogledd orllewin wedi ei hennill yn ôl yn y saithdegau, mae'n amlwg fy mod i'n anghywir a bod angen twrio yng nghefn y sied i ganfod yr hen bot paent gwyrdd yna eto.

From Hen Rech Flin

Diweddariad.
Mae'r cynllun gosod arwyddion yn rhan o Gynllun Gwella Strydwedd gwerth £400,000 i Ffordd Conwy, fel rhan o waith adfywio parhaus Cyffordd Llandudno.

Gellir dweud eich dweud am y cynllun trwy gysylltu ar:
Ffôn: 01492 576128

E-bost:llandudnojunction@conwy.gov.uk

Llythyr:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Tîm Cadwraeth ac Adfywio, Swyddfeydd Dinesig, Bae Colwyn, LL29 8AR

08/03/2010

Mwy o drafferthion i Geidwadwyr Conwy

Mae aelod Ceidwadol arall o Gyngor Sir Conwy wedi ymadael a grŵp y blaid. Cipiodd y Cyng. Dave Holland ward Abergele a Phensarn oddi wrth y Blaid Lafur yn 2008, dipyn o bluen yn het y Torïaid ar y pryd. Mae'r Cyng. Holland bellach am eistedd gyda'r grŵp annibynnol.

Yn ochor Aberconwy o'r sir mae ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr wedi dechrau ymgyrch o feio'r negesydd er mwyn ceisio esgus am y ffaith bod ei ymgyrch yn dechrau chwalu. Mae dau bost newydd ar flog Guto heddiw, y naill yn cwyno am safonau newyddiadurol y papur wythnosol lleol y North Wales Weekly News ar llall yn cwyno am safon newyddiadurol newyddiadurwr profiadol ac uchel ei pharch y BBC Betsan Powys.

02/02/2010

Cadarnhad bod Tew am ymuno a'r Blaid

Mae'r Cynghorydd Dennis Tew, cyn llywydd Cymdeithas Ceidwadwyr Aberconwy wedi danfon cylchlythyr i'w etholwyr yn cadarnhau ei fod am ymuno a Phlaid Cymru. Mae copi o'r cylchlythyr i'w gweld ar flog Y Cynghorydd Jason Weyman

29/01/2010

Y Tori, Tew, yn ymddiswyddo

Yn dilyn ffrae'r llynedd a arweiniodd at un o gynghorwyr y Blaid Ceidwadol yn cael ei ddiarddel o'r grŵp Ceidwadol, mae Torïaid Aberconwy wedi derbyn ysgytwad arall heddiw wrth i ail aelod o'r Cyngor ymadael a'r grŵp.

Yn ôl blog y Cynghorydd Jason Weyman, mae'r Cynghorydd Dennis Tew wedi ymadael a'r grŵp Ceidwadol ac yn bwriadu bod yn gynghorydd annibynnol o hyn allan. Dydy'r rheswm dros ei ymddiswyddiad ddim yn amlwg eto, ond yr hyn sydd yn amlwg yw bod ffraeo mewnol ymysg Ceidwadwyr lleol ddim am wneud lles i ymgyrch etholiadol y Blaid Ceidwadol yn un o'i phrif etholaethau targed ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.

Mae'r Cynghorydd Tew yn cynrychioli ward Deganwy, un o gadarnleoedd y Ceidwadwyr yn yr etholaeth.

24/09/2009

Tŷ bach cost fawr


Tra bod cynghorwyr Gwynedd yn gorfod protestio er mwyn cadw toiledau Gwynedd ar agor, mae Cyngor Conwy am adeiladu rhai newydd hynod ym Metws y Coed am gost o £275 mil sef mwy na ddwywaith y £133 mil mae Gwynedd am arbed trwy gau 21 o dai bach. Rhyfedd o fyd!

17/12/2008

Anabl i Fwynhau Sioe'r Nadolig

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wedi bodoli ers 1995! Mae busnesau a chyrff wedi cael amser maith i gydymffurfio a'r ddeddf. Rhoddwyd hyd at 2004 i adeiladau cyhoeddus sicrhau mynediad cyfartal i holl aelodau'r cyhoedd. Pedwar blynedd yn ddiweddarach mae nifer o adeiladau cyhoeddus dal heb ddarparu'r mynediad angenrheidiol, ac mae hyn yn warthus.

Mae mynediad yn fwy na sicrhau bod modd i ddefnyddiwr cadair olwyn cael mynd trwy ddrws. I mi, fel person trwm ei glyw, mae mynediad yn cynnwys darparu system lŵp, system sydd yn ddarlledu sain yn uniongyrchol i declynnau clywed. Mae y rhan fwyaf o fudiadau gwirfoddol sydd yn rhedeg adeiladau cyhoeddus megis Eglwysi, capeli a neuaddau coffa yn darparu'r fath system bellach, fel sydd yn ofynnol a'r ddeddf - diolch iddynt.

Mae ysgolion, yn amlwg, yn adeiladau cyhoeddus. Ar yr adeg yma o'r flwyddyn bydd miliynau o aelodau'r cyhoedd yn ymweld ag ysgolion i wylio'r Sioe Nadolig. Ond o'm mhrofiad i, prin ar y naw yw neuaddau ysgol sydd yn cynnig gwasanaeth lŵp. Wedi holi pobl eraill trwm eu clyw mae'n ymddangos nad yw'r gwasanaeth, gweddol rad, yma ar gael o gwbl yn ysgolion siroedd Conwy na Gwynedd.

Mae fy mab yn perfformio mewn sioe ysgol nos yfory. Af yno i wylio'r sioe. Piti na fydd modd imi glywed y sioe hefyd, gan bod y cyngor sir wedi dewis peidio â chydymffurfio a deddf sydd i fod i ganiatáu imi gael mwynhau'r sioe cystal â phawb arall yn y gynulleidfa.

05/01/2008

Ysgolion Conwy - problem arall i'r Blaid?

Yn dilyn yn ôl traed Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi ei fod am gynnal adolygiad o'i ddarpariaeth addysg gynradd. Mae'r cyngor yn poeni bydd hyd at 3,000 o lefydd gwag yn ysgolion y sir erbyn y flwyddyn 2012, sef bron i dreian y llefydd sydd ar gael ar hyn o bryd.

Yn wahanol i Wynedd dydy Conwy heb ddarparu rhestr o ysgolion sydd dan fygythiad cael eu cau neu eu hadrefnu, ond yn amlwg bydd yr ardaloedd gwledig yn debycach o gael eu heffeithio yn llymach na'r ardaloedd poblog arfordirol. Yr ardaloedd gwledig, fel Nant Conwy, yw'r ardaloedd lle mae Plaid Cymru ar ei gryfaf. Er nad yw'r Blaid yn rheoli yng Nghonwy megis yng Ngwynedd mae hi'n rhan o'r glymblaid sydd yn rheoli. Gan hynny fe all y broses adrefnu ysgolion yng Nghonwy profi mor niweidiol a rhanedig i Blaid Cymru yma ac ydyw yng Ngwynedd.

Yn sicr dydy pethau ddim yn argoeli'n dda i'r Blaid ar gyfer etholiadau cyngor mis Mai yn y gogledd orllewin.

Oherwydd mae clymblaid sydd yn rheoli yng Nghonwy bydd modd i'r bai am gau ysgolion cael ei rhoi ar y Ceidwadwyr a'r cynghorwyr annibynnol hefyd. A gan mae llywodraeth Llafur y Cynulliad a orfododd yr arolygiad ar y cyngor bydd rhaid i Lafur ysgwyddo rhywfaint o'r bai hefyd. Sydd yn gadael y Rhyddfrydwyr Democrataidd fel yr unig un o'r pleidiau mawr heb faw ar eu dwylo. Dim ond pum aelod sydd gan y Rhyddfrydwyr yng Nghonwy ar hyn o bryd, ond mae'r blaid wedi bod yn dipyn o rym yn y sir yn y gorffennol. A fydd adrefnu ysgolion yn fodd i'r Rhyddfrydwyr codi eto? Neu a fydd Llais Pobl Gwynedd yn croesi'r ffin ac yn sefyll yng Nghonwy hefyd?