Yn dilyn ffrae'r llynedd a arweiniodd at un o gynghorwyr y Blaid Ceidwadol yn cael ei ddiarddel o'r grŵp Ceidwadol, mae Torïaid Aberconwy wedi derbyn ysgytwad arall heddiw wrth i ail aelod o'r Cyngor ymadael a'r grŵp.
Yn ôl blog y Cynghorydd Jason Weyman, mae'r Cynghorydd Dennis Tew wedi ymadael a'r grŵp Ceidwadol ac yn bwriadu bod yn gynghorydd annibynnol o hyn allan. Dydy'r rheswm dros ei ymddiswyddiad ddim yn amlwg eto, ond yr hyn sydd yn amlwg yw bod ffraeo mewnol ymysg Ceidwadwyr lleol ddim am wneud lles i ymgyrch etholiadol y Blaid Ceidwadol yn un o'i phrif etholaethau targed ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.
Mae'r Cynghorydd Tew yn cynrychioli ward Deganwy, un o gadarnleoedd y Ceidwadwyr yn yr etholaeth.
This comment has been removed by a blog administrator.
ReplyDeleteYr wyt yn anghywir di-enw.
ReplyDeleteBosib y dylwch dileu sy sylw uchod rhag ofn i unrhyw ddrwg ddod ohoni.
ReplyDelete