Showing posts with label Toriaid. Show all posts
Showing posts with label Toriaid. Show all posts

30/11/2011

Ymennydd ar streic?

Hwyrach mae fi sy'n dwp, ond rwy'n cael anhawster deall prif ddadl y Torïaid yn erbyn streic heddiw, sy'n cael ei ail adrodd hyd at syrffed sef bod yr undebau yn anghyfrifol am gynnal streic tra bod trafodaethau yn mynd rhagddynt.

Yn fy marn fach i dyma'r union adeg i fynegi barn ac arddangos cryfder teimlad, trwy streicio ac ati.

Onid afraid braidd byddid protestio ar ôl i drafodaethau dod i ben, ar ôl cael cytundeb neu ar ôl i benderfyniad cael ei wneud?

26/11/2010

Pwy Faga Blant?

Difyr yw gweld bod cefnogwyr pob plaid, gan gynnwys ei blaid ei hun, wedi condemnio'r cyn AS a'r darpar Arglwydd Geidwadol Howard Flight am wneud y sylw bod torri Budd-dal plant i'r cyfoethocaf yn mynd i greu system lle mae'r dosbarth canol yn cael eu hannog i beidio bridio oherwydd ei fod yn rhy ddrud, ond bydd cymhelliad ar gyfer y rhai ar fudd-daliadau i barhau i blanta.

Pwrpas gwreiddiol Budd-dal Plant oedd gwneud yr hyn y mae Mr Flight yn ei grybwyll - i annog pobl i gael rhagor o blant. Fe'i cyflwynwyd yn wreiddiol ar ôl yr Ail Ryfel Byd oherwydd bod yna pryderon y byddai merched a oedd wedi cael blas ar waith yn parhau yn y gweithle yn hytrach na dychwelyd i'w rhôl draddodiadol o aros adref i fagu plant. Byddai hynny yn ei thro yn creu problemau diweithdra i filwyr a oedd yn dychwelyd o faes y gad ac yn achosi problemau demograffig gan na fyddai'r gwragedd yn peryglu eu swyddi trwy syrthio'n feichiog. Ar ben hynny roedd angen i ferched cael mwy o blant er mwyn llenwi'r bwlch a chreasid gan golli dwy genhedlaeth yn y ddwy gyflafan.

O gondemnio sylwadau Howard Flight yr hyn mae'r holl sylwebyddion yn gwneud yw cydnabod nad yw'r budd-dal bellach yn cyflawni ei wir bwrpas. Os yw sylwadau Mr Flight yn orffwyll, yn gas ac yn ansensitif, mae'n rhaid bod talu'r budd-dal i famau hefyd yn orffwyll, yn gas ac yn ansensitif.

Os nad yw'r tâl yn gwneud ei briod waith bellach ac os yw crybwyll ei briod waith yn wirion, rhaid gofyn pam ei bod yn dal i gael ei dalu i unrhyw un, boed cyfoethog neu dlawd? Onid yw hi'n hen bryd i gael gwared â'r budd-dal fel un sydd heb bwrpas yn y byd modern?

ON
Cyn i neb ddweud fy mod i mor anystyriol o anghenion y tlawd ac ydy'r bonheddwr Ceidwadol dylid nodi nad yw'r tlawd yn cael unrhyw fendith o'r budd-dal. Mae Budd-dal Plant yn cael ei hystyried fel incwm ar gyfer pethau megis Credyd Treth a Chymorth Incwm, gan hynny mae ei werth yn cael ei ddiddymu o'r taliadau hynny.

21/09/2010

Y Blaid am ymwrthod ag enfys a chrochan aur?

Un o fanteision i'r Blaid o gynghreirio a Llafur yn 2007 oedd bod modd i'r Blaid dylanwadu ar Lywodraeth San Steffan yn ogystal â Llywodraeth y Bae.

Efo Llywodraeth y Glymblaid yn rheoli San Steffan ac yn bygwth parhau yno o dan lywodraeth tymor penodedig hyd etholiadau Cynulliad 2015, mae yna fanteision amlwg i'r Blaid uno a Chlymblaid Enfys ar ôl etholiad 2011. Os ydym am ychwanegu meysydd i gymhwysedd y Cynulliad megis darlledu, yr heddlu, carchardai ac ati, yr unig fodd i wneud hynny yw trwy gydweithio a Llywodraeth Clymblaid San Steffan.

Wrth gwrs mae 'na broblem efo agenda toriadau Clymblaid Llundain, ond mae pawb sydd wedi gweld Byw yn yr Ardd yn gwybod mae nid y fwyell yw'r unig fodd i dorri - mae torri a thocio trefnus yn gallu creu topiary hardd hefyd!

Mae modd i'r achos Cenedlaethol defnyddio'r toriadau i greu cymdeithas Gymreig sydd yn llai dibynnol ar y llywodraeth Brydeinig.

Dydy syniadaeth David Cameron o'r Gymdeithas Fawr, gymdeithas lle mae pobl yn gofyn be allwn ni gwneud i ni'n hunain? yn hytrach na gofyn Be mae'r llywodraeth am ei wneud drosom? ddim yn un diarth i genedlaetholdeb Cymreig! Dyma sylfaen Mudiad Adfer yn y 70au a'r 80au.

Yn wir galwad JFK ask not what your country can do for you - ask what you can do for your country oedd y sbardun i nifer ohonom, o oedran arbennig, i gefnogi'r achos cenedlaethol cyn i Entryism Sosialaidd llyncu enaid Cenedlaetholdeb Plaid Cymru

Rhaid gweld y posibiliadau, ar ôl etholiad, er mwyn gwneud penderfyniad ar fanteision clymbleidiol. Mae'r awgrym sydd yn dod o gefnogwyr ac arweinwyr Plaid Cymru mae clymblaid a Llafur yw'r unig ddewis yn 2011 yn niweidiol i'r achos cenedlaethol!

Yn wir, os yw'r Blaid am ddweud mai parhau'r glymblaid a Llafur eto yw eu bwriad ar ôl etholiad 2011, heb ystyried unrhyw opsiwn arall, prin bydd fy nghefnogaeth ac anwadal bydd addewid fy mhleidlais!

09/04/2010

Y Ceffyl Blaen

Efo'r Ceidwadwyr a'r Llafurwyr yn malu bod yr etholiad yn ras dau geffyl, daeth ymateb yr SNP i'r honiad hurt a gwên i fy wyneb:


Diolch i Calum Cashley ymgeisydd yr SNP yng Ngogledd Caeredin a Leith.

08/04/2010

Y Torïaid yn rhoi tai haf cyn anghenion yr economi

Fel eglurodd George Monibot mewn erthygl pedair blynedd yn ôl, ac fel mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud am ddegawdau mae Ail Gartrefi yn draen ar gefn gwlad, yn creu diboblogi a digartrefedd, yn difetha cymdeithasau ac yn creu problemau amgylcheddol. Gan hynny roedd Alistair Darling yn iawn i gael gwared ar y gostyngiadau treth sydd ar gael i berchnogion ail gartrefi. Mewn cyfnod o gyni economaidd mae'r cysyniad bod perchenogion tai haf yn cael bendith treth yn gwbl wrthyn.

Pan elwir etholiad Sansteffan mae yna drefn ar gael lle mae'r gwrthbleidiau yn gallu caniatáu i fusnes anorffenedig y llywodraeth cael ei orffen ar frys trwy system a elwir golchi fynnu. I fusnes cael ei gynnwys yn y gyfundrefn y golch mae'n rhaid i'r brif wrthblaid cytuno ar yr eitemau, os nad oes cytundeb mae'r busnes yn syrthio.

Mae llawer o sylw wedi cael ei roi i'r ffaith bod yr eLCO tai fforddiadwy yn un o'r pethau sydd heb dderbyn cydweithrediad y Ceidwadwyr a gan hynny bydd y mesur yma yn syrthio. Eitem arall sydd wedi cael llai o sylw ond a fydd yr un mor andwyol i broblemau tai Cymru yw'r ffaith bod y Ceidwadwyr am ladd y polisi i gael gwared ar ostyngiad treth i berchnogion tai haf hefyd.

Ond oes rhyfedd fod y Torïaid yn rhoi anghenion perchenogion tai haf o flaen anghenion trigolion cefn gwlad, gan na fyddent am bechu'r rhai maent am eu perswadio i bleidleisio o'u hail gartrefi er mwyn gwyrdroi canlyniadau etholiadol Cymru?

29/01/2010

Y Tori, Tew, yn ymddiswyddo

Yn dilyn ffrae'r llynedd a arweiniodd at un o gynghorwyr y Blaid Ceidwadol yn cael ei ddiarddel o'r grŵp Ceidwadol, mae Torïaid Aberconwy wedi derbyn ysgytwad arall heddiw wrth i ail aelod o'r Cyngor ymadael a'r grŵp.

Yn ôl blog y Cynghorydd Jason Weyman, mae'r Cynghorydd Dennis Tew wedi ymadael a'r grŵp Ceidwadol ac yn bwriadu bod yn gynghorydd annibynnol o hyn allan. Dydy'r rheswm dros ei ymddiswyddiad ddim yn amlwg eto, ond yr hyn sydd yn amlwg yw bod ffraeo mewnol ymysg Ceidwadwyr lleol ddim am wneud lles i ymgyrch etholiadol y Blaid Ceidwadol yn un o'i phrif etholaethau targed ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.

Mae'r Cynghorydd Tew yn cynrychioli ward Deganwy, un o gadarnleoedd y Ceidwadwyr yn yr etholaeth.

20/01/2010

Clwb Bulington Gwynedd




Yn ôl y cyfaill BlogMenai, Llais Gwynedd yw ffrindiau gorau newydd Dafydd Cameron yng Ngogledd Orllewin Cymru. Dyw'r llun ddim yn gweithio imi rywsut!

Y feirniadaeth a glywir yn erbyn y Torïaid fel arfer yw eu bod yn blaid sydd yn ymosod ar wasanaethau cyhoeddus trwy dorri ar wario a chau adnoddau. Rhyfedd fod blaid sydd am amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyhuddo o fod yn Dorïaid gan y blaid sydd am ymosod ar wasanaethau cyhoeddus trwy dorri ar wario a chau adnoddau yng Ngwynedd!