Un o fanteision i'r Blaid o gynghreirio a Llafur yn 2007 oedd bod modd i'r Blaid dylanwadu ar Lywodraeth San Steffan yn ogystal â Llywodraeth y Bae.
Efo Llywodraeth y Glymblaid yn rheoli San Steffan ac yn bygwth parhau yno o dan lywodraeth tymor penodedig hyd etholiadau Cynulliad 2015, mae yna fanteision amlwg i'r Blaid uno a Chlymblaid Enfys ar ôl etholiad 2011. Os ydym am ychwanegu meysydd i gymhwysedd y Cynulliad megis darlledu, yr heddlu, carchardai ac ati, yr unig fodd i wneud hynny yw trwy gydweithio a Llywodraeth Clymblaid San Steffan.
Wrth gwrs mae 'na broblem efo agenda toriadau Clymblaid Llundain, ond mae pawb sydd wedi gweld Byw yn yr Ardd yn gwybod mae nid y fwyell yw'r unig fodd i dorri - mae torri a thocio trefnus yn gallu creu topiary hardd hefyd!
Mae modd i'r achos Cenedlaethol defnyddio'r toriadau i greu cymdeithas Gymreig sydd yn llai dibynnol ar y llywodraeth Brydeinig.
Dydy syniadaeth David Cameron o'r Gymdeithas Fawr, gymdeithas lle mae pobl yn gofyn be allwn ni gwneud i ni'n hunain? yn hytrach na gofyn Be mae'r llywodraeth am ei wneud drosom? ddim yn un diarth i genedlaetholdeb Cymreig! Dyma sylfaen Mudiad Adfer yn y 70au a'r 80au.
Yn wir galwad JFK ask not what your country can do for you - ask what you can do for your country oedd y sbardun i nifer ohonom, o oedran arbennig, i gefnogi'r achos cenedlaethol cyn i Entryism Sosialaidd llyncu enaid Cenedlaetholdeb Plaid Cymru
Rhaid gweld y posibiliadau, ar ôl etholiad, er mwyn gwneud penderfyniad ar fanteision clymbleidiol. Mae'r awgrym sydd yn dod o gefnogwyr ac arweinwyr Plaid Cymru mae clymblaid a Llafur yw'r unig ddewis yn 2011 yn niweidiol i'r achos cenedlaethol!
Yn wir, os yw'r Blaid am ddweud mai parhau'r glymblaid a Llafur eto yw eu bwriad ar ôl etholiad 2011, heb ystyried unrhyw opsiwn arall, prin bydd fy nghefnogaeth ac anwadal bydd addewid fy mhleidlais!
Dydi'r cyhuddiad o "entryism sosialaidd" ddim yn dal dwr - ers dyddiau DJ Davies mae syniadau sosialaidd datganoledig wedi bod yn rhan ganolog o syniadaeth Plaid Cymru.
ReplyDeleteDwi wedi rhyw how-sôn am hyn o'r blaen.
ReplyDeleteMi fyddai clymblaid efo Llafur yn gosod y Blaid ar yr ochr anghywir i realiti gwleidyddol ein dyddiau ni.
Byddai clymblaid enfys yn gyfle - pe bai'n ddigon cryf - i eithrio Llafur a'u taflu allan o brif-ffrwd gwleidyddiaeth. Ond nid fel'na mae'n gweithio. Byddai clymblaid enfys yn golygu bod Llafur yn dod yn ôl yn gryfach ac yn gallu chwarae'r wrthblaid a manteisio ar anniddigrwydd pobl. Rhaid gochel rhag hynny.
Dwi o'r farn ei bod yn rhaid i'r Blaid fynd yn wrthblaid yn 2011.