04/09/2010

Pethau Bychain - hanes mawr!

Diddorol heddiw (ddoe bellach) oedd sylwi ar ymgyrch Pethau Bychain, sef ymgyrch i gael rhagor o Gymry i ddefnyddio'r Gymraeg ar y we.

Rhaid imi ymddiheuro am fethu'r achlysur. Ond o ran cyfiawnhad yr wyf wedi gosod ambell beth Cymraeg ar y we dros y blynyddoedd heb agen achlysur. Er enghraifft Cerddi'r Bugail gan Hedd Wyn, Hanes Methodistiaid Corris ac ati (ie rwy'n gwybod bod y diwyg yn wael bellach, ond roedd yn wych ar y pryd)!

Ond ta waeth yr wyf wedi bod yn defnyddio a chyfrannu at gorpws Cymraeg y we ers yn agos i bymtheng mlynedd. Rwy'n cofio ymchwilio i faint o'r Gymraeg oedd ar y we tua 1997; ar y pryd roedd ystadegau yn dangos mae'r Gymraeg oedd y drydedd iaith ar ddeg mwyaf amlwg ar y we. Ystadegyn sydd wedi ei selio ar fy nghof oherwydd mae'r Gymraeg oedd y drydedd iaith ar ddeg i'r Beibl cael ei gyfieithu iddo hefyd.

Er chwilio a chwalu rwy’n methu cael hyd i ystadegau tebyg cyfredol. Efo mwy o wledydd a mwy o ieithoedd yn defnyddio'r we mae'n debyg bod y Gymraeg wedi llithro i lawr y tabl o'r ieithoedd sy'n cael eu defnyddio ar y we bellach. Yn sicr mae angen fwy o ddefnydd o'r Gymraeg ar y we ac mae ymgyrch Pethau Bychain i gael mwy o Gymraeg ar y we yn beth clodwiw - ond cyn inni fflangellu ein hunain a darogan gormod o wae, da o beth yw cofio bod y Gymraeg wedi bod yn rhan o'r we bron o'r cychwyn cyntaf - peth i'w ddathlu!

O ran diddordeb, a oes unrhyw ymchwil sy'n gallu pennu be oedd y tudalen Cymraeg gyntaf ar y we, pwy ddanfonodd yr e-bost Cymraeg gyntaf ac ati?

4 comments:

  1. Amhosib gwybod pwy oedd y 'cynta' (oes ots?), ond er mwyn cael ebost Cymraeg cyntaf, mae'n rhaid cael i) system ebost, a ii) dau siaradwr Cymraeg ar yr un rhwydwaith. Gallai hynny fod wedi digwydd ers y 70au ar rwydweithiau academaidd, ac yn yr 80au cynnar ar rwydweithiau masnachol fel Compuserve neu BBSs preifat.

    Daeth trafodaeth Cymraeg ar y Rhyngrwyd ddim yn gyffredin tan tua 1992 ar ôl i'r rhwydwaith academig ym Mhrydain - JANET - cael ei gysylltu a'r Rhyngrwyd.

    O ran y we, mae'n bosib mae un o'r gwefannau Cymraeg cynta oedd cwrs Cymraeg Mark Nodine yn 1994 (sy'n dal ar gael yn y cyfeiriad gwreiddiol!). Wedyn daeth nifer o dudalennau gwe personol ar gyfrifon myfyrwyr neu staff prifysgolion. Mae llawer o'r gwefannau cyntaf hynny wedi ei cofnodi yn yr FAQ ar gyfer soc.culture.welsh

    ReplyDelete
  2. Pwy oedd y person cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio ATM?
    Reg Varney!

    Pwy oedd y Cymro cyntaf i ddefnyddio'r Gymraeg ar ATM?
    Dafydd El!

    Pwy oedd y person cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio ffôn symudol?
    Ernie Wise!

    Be oedd enw'r ci cyntaf yn y gofod?
    Lakia!

    A oes ots?

    Nag oes – ond difyr yw cael gwybod ta waeth!

    Does dim ots ond Pwy oedd y cyntaf i ddanfon e-bost Cymraeg? a pha dudalen Cymraeg oedd y cyntaf ar y We?

    Difyr byddid gwybod!

    ReplyDelete
  3. Y gwahaniaeth gyda'r gweddill yw fod rheiny yn achlysuron cyhoeddus a seremoniol, a felly wedi ei cofnodi yn hanes. Y bobl gynta i ddefnyddio'r technolegau oedd y peiriannwyr a techies wnaeth eu datblygu, nid y ffigyrau cyhoeddus.

    Felly er enghraifft, Ray Tomlinson oedd y person cynta i ddanfon ebost ar draws rhwydwaith am mai fe oedd y rhaglennwr oedd yn gweithio arno. Mae'n amhosib gwybod pwy ddanfonodd yr ebost Cymraeg cynta am nad yw'r wybodaeth ar gael.

    ReplyDelete
  4. Mae'n amhosib gwybod pwy ddanfonodd yr e-bost Cymraeg cyntaf am nad yw'r wybodaeth ar gael.

    Ymateb sydd yn dweud rhywbeth am natur y we, mae'n debyg. Fe ddanfonwyd yr e-bost Cymraeg gyntaf rhywbryd yn ystod fy nythwn i (gan fy mod i'n llawer hyn nag yw e-bostio). Roedd y defnydd cyntaf yna o'r Gymraeg ar y cyfrwng yn garreg milltir yn nefnydd a dyfodol yr iaith, ond carreg sydd wedi ei golli i'r ether - am siom!

    Ar y llaw arall, wrth gwrs, mae'r ffaith bod pobl yn defnyddio'r Gymraeg yn naturiol ar gyfer pob modd cyfathrebu newydd trwy gyfrwng y Gymraeg, heb ystyried mae eu un hwy yw'r e-bost / gwefan / neges distyn / neges trydar ac ati gyntaf yn y Gymraeg yn dangos cryfder yr iaith; mae'r iaith yn datblygu efo'r cyfryngau yn hytrach na gorfod cyhoeddi byth a hefyd gweler dyma'r tro cyntaf inni dal fynnu efo'r datblygiad diweddaraf hwn.

    Ond -diawch - mi fyddai'n braf cael gwybod pwy oedd William Morgan y cyfryngau newydd, mae'n siŵr bod rhywun rhywle yn ysu i hawlio'r teitl!

    ReplyDelete