31/05/2011

Abertawe, Lloegr

Llongyfarchiadau i dîm pêl droed Abertawe am gyrfau cysylltiad Cymru a Lloegr!

Prin yw'r Cymry sy'n chware i Abertawe ar hyn o bryd, prinnach byth byddent o brynu a gwerthu chwaraewyr, er mwyn ceisio cadw lle ym Mhencampwriaeth Lloegr.

Pa glod i Abertawe yw cael tîm pêl droed heb neb a anwyd o fewn can milltir i'r Liberty yn chware iddi? Pa glod i Gymru os nad oes Gymro yn y tîm?

Y gwir yw bod timoedd Conwy, Glan Conwy, Treffynnon, Docwyr Abertawe ac ati yn cyfrannu llawer mwy i'r gêm yng Nghymru, trwy fagu talent gynhenid nac ydy'r mawrion sy'n prynu talent allanol.

Un o wendidau tîm pêl droed Lloegr yng nghwpan y byd diwethaf oedd y ffaith mae prin iawn oedd y Saeson a fu'n cyd chware, neu'n chware yn gyson yn erbyn ei gilydd yn y garfan, gan fod cymaint o dramorwyr yn chware ym mhrif gynghrair Lloegr!

Gwendid Cymru ers 1959, yw mai prin yw'r Cymro sydd wedi arfer chware efo cyd Cymro yn y tîm cenedlaethol!

Does dim modd i Gynghrair Cymru cystadlu yn erbyn Cynghrair mwyaf y byd er mwyn rhoi siawns i ddewin o beldroediwr disgleirio a pharhau i gyd chware a'i gyd Gymru er lles y bel crwn yng Nghymru!

Yn ddi-os bydda dîm Bangor City yn gallu curo Tîm Genedlaethol Cymru naw gwaith allan o bob deg; am y rheswm syml bod Bangor yn dîm go iawn a Chymru yn lap scows o chwaraewyr achlysurol!

Y peth gorau i Gymru, Yr Alban, Gogledd yr Iweddon, Gweriniaeth yr Iwerddon (a thimoedd Cernyw a Llydaw os oes modd) byddid cael Uwch Gynghrair a Phencampwriaeth Celtaidd, lle i fagu a hyrwyddo talent cynhenid heb orfod ei fradychu!

25/05/2011

Hawl i rhyddfynegiant neu hawl Murdoch i gyhoeddi baw?

Pam bod y sawl sydd wedi Trydar enw Ryan Giggs (a pheldroediwr arall nad oeddwn erioed wedi ei glywed amdano gynt), yn credu eu bod yn sefyll fyny dros ryddfynegiant?

Yr hyn y maent yn eu cefnogi, mewn gwirionedd, yw hawl Rupert Murdoch i gyhoeddi unrhyw faw personol y mae o'n dymuno ei gyhoeddi heb ymyrraeth gyfreithiol i'w rhwystro.

Y rheswm pam bod enwau'r peldroedwyr wedi eu cyhoeddi miloedd o weithiau ar y we yw oherwydd bod miloedd o bobl wedi dilyn gwybodaeth gan unigolyn a oedd yn rhan o'r achos. Newyddiadurwr o'r Sun yn ôl pob son.

Mae yna rywbeth dan din uffernol mewn newyddiadurwr, na all meiddio cyhoeddi gwybodaeth yn ei bapur newydd, yn Trydar yr un wybodaeth yn ddienw er mwyn cuddio'r ffaith ei fod o neu hi wedi torri gorchymyn llys trwy annog i filoedd o bobl eraill i ail adrodd ei ddirmyg llys!

Fel dywedodd John Hemming yn Sansteffan, does dim modd carcharu'r miloedd â ail adroddodd yr honiad mae Giggs oedd wedi bod yn mocha efo Ms Thomas, ond mae modd carcharu'r newyddiadurwr unigol gwnaeth rhyddhau’r wybodaeth yn y lle cyntaf!

Ond mae o'n gweithio i'r Sun a bydd amddiffyn News International yn bwysicach i Lywodraeth sy'n dibynnu ar eirda gan Mr Murdoch na delio a'r gwirionedd o sut yr oedd modd i filoedd Trydar yr enw yn y lle cyntaf.

23/05/2011

Protestio fel Sosialwyr v protestio fel Cenedlaetholwyr

Yn ystod cyfnod yr etholiad diwethaf fe gafodd Llafur llwyddiant yng Nghymru trwy addo amddiffyn Cymru rhag toriadau'r Torïaid. Fel slogan etholiadol fe lwyddodd. Fel addewid roedd o'n gelwydd dan din nad oes modd i Lafur ei wireddu!

Mae gan Llywodraeth yr Alban llawer, lawer mwy o bwerau na sydd gan Llywodraeth Cymru. Mae gan Llywodraeth yr Alban mwyafrif clir sy'n gwrthwynebu clymblaid Llundain. Ond mae Lywodraeth yr Alban yn cydnabod nad oes ganddi'r gallu i amddiffyn yr Alban rhag rhaib San Steffan!

Yr unig fodd i amddiffyn yr Alban yw trwy annibyniaeth rhag San Steffan.

Pob tro bydd yr SNP yn llwyddo i amddiffyn yr Alban, bydd yn llwyddiant i'r SNP, pob tro bydd yr SNP yn methu amddiffyn yr Alban bydd yn achos dros annibyniaeth!

Yng Nghymru cawn Llafur yn cwyno, heb wneud yr achos cenedlaethol, a Phlaid Cymru yn gyd brotestio ag unoliaethwyr yn erbyn hyn a hyn o safbwynt y chwith yn hytrach nag o safbwynt yr achos cenedlaethol.

Bydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu'r toriadau, ar y cyd a Llafur a mudiadau'r chwith. Yn cefnogi Undebau Llafur, na fydd yn cefnogi’r Blaid yn ôl; yn chwysu gwaed yn erbyn pob drwg bydd Clymblaid San Steffan yn taflu at Gymru ond yn gwneud hynny gan anghofio'r achos cenedlaethol.!

Dydy sefyll ysgwydd at ysgwydd a gweithwyr Swyddfa Pasbort Casnewydd a'r amgylcheddwyr sy'n gwrthwynebu ehangu Bodelwyddan ddim yn ddigon dda!

Os ydym am wrthwynebu cau'r swyddfa neu ehangu'r pentref mae'n rhaid inni wneud hynny o safbwynt cenedlaethol pur os ydym am ehangu'r achos Cenedlaethol!

O safbwynt Prydeinig mae cau Swyddfa Pasbort Casnewydd ac ehangu Bodelwyddan i greu tai i Saeson yn gwneud sens!

Yr unig wrthwynebiad call i'r naill neu'r llall yw’r amddiffyniad cenedlaethol; amddiffyniad nad yw'n cael ei wneud gan genedlaetholwyr hyd yn hyn.

20/05/2011

Cwestiwn Dyrys am Question Time.

Codwyd cwestiwn ar Question Time heno parthed hawl carcharorion i bleidleisio. Roedd tri o'r pedwar ar y panel yn gwrthwynebu rhoi'r bleidlais i'r sawl sydd dan glo. Safbwynt digon dechau, am wn i!

Ond!

Os nad oes gan garcharorion yr hawl i bleidleisio gan fod eu troseddau yn eu hamddifadu o'r broses wleidyddol, paham eu bod yn cael ymddangos ar raglen wleidyddol fwyaf poblogaidd Prydain Fawr? Yn bwysicach byth paham bod y tri ar y panel sydd am amddifadu carcharorion o'r hawl i chware rhan yn y broses wleidyddol wedi cytuno ymddangos ar raglen wleidyddol a oedd yn cael ei ddarlledu o garchar?

08/05/2011

Is Etholiad Dwyfor Meirion 2013!

Wedi'r siwnami gwleidyddol yn yr Alban, diddorol yw gweld sut mae'r ddwy blaid a gollodd fwyaf wedi ymateb. Mae Tavish Scott, o ran y Democratiaid Rhyddfrydol wedi syrthio ar ei gleddyf yn syth , ac wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad disymwth fel Arweinydd ei blaid.

Mae Iain Gray wedi dweud ei fod am ymddiswyddo o arweinyddiaeth ei blaid ym mhen y rhawg, tua'r hydref, mae'n debyg.

Mr Gray yw'r callaf o'r ddau. Cyn cael dadl fewnol am yr arweinydd nesaf i Lafur yn yr Alban, gwell yw cael dadl fewnol am be aeth o'i le, a dewis arweinydd newydd sydd a'r gallu i wirio rhai o'r camgymeriadau!

Rwyf wedi clywed ambell i gefnogwr Plaid Cymru yn awgrymu bod angen i Ieuan Wyn ystyried ei ddyfodol. Rwy'n cytuno! Mae angen arweinydd amgen ar y Blaid i'w harwain i etholiadau 2016, ond dylid disgwyl i'r llwch tawelu, dwys ystyried y camgymeriadau ac yna ddewis arweinydd newydd, yn hytrach na gwneud penderfyniad byrbwyll.

O sôn am arweinydd nesaf y Blaid, rhaid crybwyll y Tywysog Dros y Dŵr, yn ddi-os Adam yw'r bersonoliaeth debycaf sydd gan y Blaid i bersonoliaeth fawr Mr Salmond.

Yn ddi-os mae Dafydd Êl wedi cyfrannu ei orau i'r Cynulliad ac wedi gwneud ei farc ar Hanes Cymru. Mae Dwyfor Meirion yn eithaf saff i'r Blaid, bydd Dafydd yn cyrraedd oed pensiwn eleni, mae gan Dafydd rhan i chwarae dros Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Fel etholaeth sydd yn wledig ac yn bost diwydiannol, mae'n etholaeth sy'n uno pob adain o'r Blaid - etholaeth sy'n gallu cyfarwyddo arweinydd i byls Cymru gyfan.

Ieuan Wyn i arwain y Blaid hyd is etholiad Dwyfor Meirion 2013 meddwn i.

06/05/2011

Gwarth y Blaid

Mae'n amlwg mae noson Llafur yw heddiw trwy lwyddo ymdrin a Chymru fel rhanbarth o Loegr, a bod Plaid Cymru wedi methu trwy ymdrin a Chymru fel rhan o Loegr angen mwy o genedlaetholdeb gan y Blaid!

Diffyg Cenedlaethlodeb am arwain at fethiant i'r Blaid

Bu ymgyrch y Blaid Lafur yn yr Alban a'i hymgyrch yng Nghymru yn debyg iawn, sef canolbwyntio ar Lywodraeth San Steffan; amddiffyn Cymru / yr Alban rhag toriadau'r Con Dems. Mae'r ymgyrch yn ymddangos fel un llwyddiannus yng Nghymru ond yn fethiant Llwyr yn yr Alban. Y cwestiwn mawr yw pam.

Hoffwn awgrymu mae llwyddiant yr SNP i ddarbwyllo pobl mae etholiad Albanaidd bu'r etholiad, tra bod Plaid Cymru wedi methu creu naratif cenedlaethol yng Nghymru!

Os am ail adeiladu mae'n rhaid i'r Blaid ail afael ar ei naratif cenedlaethol.

03/05/2011

Golwg ar Enfys

Fis diwethaf, dadleuodd Cai Larsen, ar Flog Golwg, y dylai Plaid Cymru fynd yn ôl i glymblaid â’r Blaid Lafur ar ôl Etholiadau’r Cynulliad. Heddiw mae Blog Golwg yn cyhoeddi fy nadleuon i dros Lywodraeth Enfys