Pam bod y sawl sydd wedi Trydar enw Ryan Giggs (a pheldroediwr arall nad oeddwn erioed wedi ei glywed amdano gynt), yn credu eu bod yn sefyll fyny dros ryddfynegiant?
Yr hyn y maent yn eu cefnogi, mewn gwirionedd, yw hawl Rupert Murdoch i gyhoeddi unrhyw faw personol y mae o'n dymuno ei gyhoeddi heb ymyrraeth gyfreithiol i'w rhwystro.
Y rheswm pam bod enwau'r peldroedwyr wedi eu cyhoeddi miloedd o weithiau ar y we yw oherwydd bod miloedd o bobl wedi dilyn gwybodaeth gan unigolyn a oedd yn rhan o'r achos. Newyddiadurwr o'r Sun yn 么l pob son.
Mae yna rywbeth dan din uffernol mewn newyddiadurwr, na all meiddio cyhoeddi gwybodaeth yn ei bapur newydd, yn Trydar yr un wybodaeth yn ddienw er mwyn cuddio'r ffaith ei fod o neu hi wedi torri gorchymyn llys trwy annog i filoedd o bobl eraill i ail adrodd ei ddirmyg llys!
Fel dywedodd John Hemming yn Sansteffan, does dim modd carcharu'r miloedd 芒 ail adroddodd yr honiad mae Giggs oedd wedi bod yn mocha efo Ms Thomas, ond mae modd carcharu'r newyddiadurwr unigol gwnaeth rhyddhau’r wybodaeth yn y lle cyntaf!
Ond mae o'n gweithio i'r Sun a bydd amddiffyn News International yn bwysicach i Lywodraeth sy'n dibynnu ar eirda gan Mr Murdoch na delio a'r gwirionedd o sut yr oedd modd i filoedd Trydar yr enw yn y lle cyntaf.
No comments:
Post a Comment