Showing posts with label Cwestiwn Dyrys. Show all posts
Showing posts with label Cwestiwn Dyrys. Show all posts

20/12/2014

Cwestiwn Dyrus am Anghrediniaeth

Mae anghrediniaeth yn esblygiad o'r traddodiad anghydffurfiol rhyddfrydol o rydd i bob un ei farn ac i bob barn ei llafar.

Pam, felly, bod anghredinwyr mor driw am ddychwelyd i dduwch uniongrededd yn eu safbwynt hwy nad oes hawl i unrhyw farn, ond yr un uniongred wrth grefyddol i gael ei fynegi?

Mae'n ymddangos imi bod mwy o bynciau sy'n gabledd bellach nag oedd o dan Mari Waedlyd. Nid wyf yn cael mynegi barn amgen ar hil, rhywoldeb, priodas, y Nadolig, crefydd, Ewrop nag unrhw bwnc dan haul heb fy nghuddo o fod yn phob neu'n pheil!

Be ddigwyddod i'r hen draddodiad Anghydffurfiol Gymreig o ryddid mynegiant barn?

26/12/2012

Cwestiwn Dyrys am y Sêls


Yn ôl y newyddion ar BBC Brecwast y bore 'ma mae'n debyg bydd y siopau mawrion yn gwneud hyd at £3 biliwn o elw yng nghyfnod y sêls wedi'r Nadolig! Hwb gwych i economi'r ynysoedd hyn, yn ôl pob tebyg. Ond os allant wneud gymaint o elw trwy werthu eu nwyddau gymaint yn rhatach ar ôl yr ŵyl, onid ydy hynny'n brawf eu bod yn codi gormod o lawer yn eu prisiau arferol trwy gydol y flwyddyn?

Onid gwell i'r economi'n gyffredinol ac i siopwyr cyffredin byddid codi pris teg trwy gydol y flwyddyn yn hytrach na chodi crocbris am un fis ar ddeg er mwyn creu cynddeiriogrwydd cael bargen ffals am bythefnos?

13/12/2012

Cwestiwn dyrys am Unsain a'r Blaid Lafur

Yn ôl adroddiadau o Gyngor Sir Caerfyrddin fe fu protest y tu allan i gyfarfod llawn y Cyngor ddoe gan aelodau Unsain a oedd yn gofyn am gyflog byw ar gyfer y gweithwyr tlotaf yn nghyflogaeth y cyngor. Cafwyd cefnogaethi'r ymgyrch gan gynghorwyr Plaid Cymru ond gwrthodwyd y cynnig gan y grŵp reoli sy'n cael ei arwain gan y Blaid Lafur.

Pan ddaw'r etholiadau nesaf i Gyngor Sir Caerfyrddin sut bydd Unsain yn annog ei aelodau i bleidleisio tybed? I "ffrindiau'r" undeb yn y Blaid Lafur wrth gwrs!

22/02/2012

Cwestiwn Dyrys am Hustings Plaid Cymru

Onid ydyw yn beth od bod Plaid Cymru; plaid sydd yn honni mae hyhi yw'r blaid mwyaf gwerinol, mwyaf dosbarth gweithiol, mwyaf sosialaidd a'r blaid agosaf at guriad cenedl y Cymry yn cynnal ei chyfarfod hustings agored yng Ngwesty mwyaf ecscliwsif ein gwlad?

Yn nhafarndai poer a lludw mae ennill y frwydr nid mewn gwestai serennog!

27/12/2011

Cwestiwn Dyrys am e-lyfrau.

Trwy garedigrwydd Siôn Corn cefais ddarllenydd e-lyfrau yn fy hosan eleni!

Gwych, rwy’n falch o'i gael, ond rwy'n ansicr o'i werth!

Er chwilio a chwalu rwy'n methu cael hyd i e-lyfrau Cymraeg - Am siom!

Lle mae cyfraniad y Cyngor Llyfrau i Lyfrgell e-lyfrau Cymraeg a Chymreig?

Hwyrach bod e-lyfrau Clasurol Cymraeg ar gael! Ond hyd y gwelaf nid ydynt ar gael ar gyfer fy mheiriant bach i!

Er mwyn i'r iaith barhau mae angen y Gymraeg ar y Kindel a'r Kobo ac mae angen i geidwaid cyhoeddiadau yn y Gymraeg sicrhau eu bod ar gael ar gyfer eu darllen yn y ffurf diweddaraf hefyd!!

20/05/2011

Cwestiwn Dyrys am Question Time.

Codwyd cwestiwn ar Question Time heno parthed hawl carcharorion i bleidleisio. Roedd tri o'r pedwar ar y panel yn gwrthwynebu rhoi'r bleidlais i'r sawl sydd dan glo. Safbwynt digon dechau, am wn i!

Ond!

Os nad oes gan garcharorion yr hawl i bleidleisio gan fod eu troseddau yn eu hamddifadu o'r broses wleidyddol, paham eu bod yn cael ymddangos ar raglen wleidyddol fwyaf poblogaidd Prydain Fawr? Yn bwysicach byth paham bod y tri ar y panel sydd am amddifadu carcharorion o'r hawl i chware rhan yn y broses wleidyddol wedi cytuno ymddangos ar raglen wleidyddol a oedd yn cael ei ddarlledu o garchar?

27/02/2011

Cwestiwn dyrys am ferched posh

Wrth chwilota trwy Wicipedia (Cymraeg) cefais hyd i erthygl ar Gapel Celyn. Yn yr erthygl gwelais fod cyfrannydd o'r enw Pwyll, wrth son am yr ymgyrch i gadw'r cwm rhag y dŵr wedi cyfeirio at ferch DLlG fel yr Arglwyddes Megan Lloyd George, mae hyn yn anghywir, rhaid oedd ei gywiro Y Fonesig Megan Lloyd George sy'n gywir!

Ond wrth ei gywiro, roedd gwneud y fath gywiriad yn fy nharo fi fel peth od ar y diawl i'w wneud!

Ar y cyfan dydy'r Cymry ddim yn rhoi fawr o bwys ar radd gymdeithasol!

Yn ôl stori apocraffal yr wyf wedi ei glywed (rhywbeth wnaeth Wil, frawd y cyn Brif Weinidog, dweud wrth fy nhaid, yn ôl y son), fel Lloyd yr oedd DLlG yn cael ei adnabod yn blentyn, yn hytrach na David. Roedd gweision sifil Llundain yn ffieiddio at y ffaith bod pobl Cymru mor hy ag i gyfarch y gweinidog fel Mr Lloyd (enw cyntaf) a George (cyfenw) yn yr un modd a byddent yn cyfarch Robart Jones fel Mr Robart Jones; fel eu bod wedi troi Lloyd-George yn enw dwbl! Gwir neu beidio mae bodolaeth y stori yn dangos cred cyffredinol am agwedd y Cymry tuag at statws.

A dyma'r dryswch, o dderbyn pa mor ddi-hid ydym tuag at statws, pam fod y Gymraeg yn gwahaniaethu wrth gyfieithu'r gair Lady i wanhaol raddau?

Lady - Aelod benywaidd o Dy'r Arglwyddi, neu wraig i aelod o Dy'r Arglwyddi yw'r Arglwyddes.

Lady - Teitl cwrtais i ferch Ardalydd neu Iarll yw Y Fonesig.

Lady, gwraig i Farchog "Syr" – Y Ledi.

Pam bod rhaid i ni fod mor barticiwlar, pan nad oes ots gan y Saeson, sydd yn cyfrif statws yn beth llawer pwysicach, gwahaniaethu o gwbl rhwng y wahanol raddau o Ladys?

12/01/2011

Cwestiwn dyrys parthed ymgyrch NA

Pe bai dau ymgyrch Na yn codi; y naill am ddweud Na o wrthwynebu hunanlywodraeth i Gymru a’r llall am ddweud Na gan nad yw datganoli yn ddigon da - bod angen annibyniaeth i Gymru - sut mae'r Comisiwn Etholiadol am ddyfarnu pa achos yw'r achos Na go iawn?

A oes gwerth cynnig y Na Cenedlaethol fel yr achos Na swyddogol – er mwyn yr her?

26/10/2010

Cwestiwn Dyrys am Ddallineb

Pan fo Ci Tywys yn baeddu'r palmant, sut mae perchennog y ci yn gallu canfod y baw er mwyn osgoi'r gosb o ganiatáu i'w gi baeddu?

15/10/2010

Cwestiwn Dyrys Chwaraeon a Diwylliant

Mae Deuddeg Biliwn o Bunnoedd yn gallu prynu pythefnos o chwaraeon yn Llundain, neu werth dros chweugain mlynedd o raglenni teledu Cymraeg.

Pe bait yn Weinidog Diwylliant a Hamdden yn Llywodraeth Sansteffan ac am wneud arbedion mawr yn dy gyllideb, pa un fyddet yn ei gwtogi?

Os wyt wedi dewis yr ateb amlwg, nid Jeremy Hunt* AS yw dy enw!

Ond fel mae Peter Black AC yn nodi, mi fyddai'n well i'r arian sy'n cael ei wastraffu ar S4C cael ei wario ar ysbytai er mwyn arbed y Gemau.

(*Sori am y teipo, ond maer H a'r C mor agos ar y gweddiadur!)

16/09/2010

Cwestiwn Dyrys Rhagfarnllyd

Os mae'r gair Gymraeg am racist yw hiliol, pam nad yw Cymro Cymraeg sy'n sexist yn rhywiol?

23/06/2010

Cwestiwn Dyrys am Iechyd

Gan fod y salwch Parkinson's Disease wedi ei enwi ar ôl yr un a darganfuwyd y clefyd sef Dr James Parkinson a'r salwch Crohn's Disease wei ei enwi ar ôl yr un a darganfuwyd y salwch sef Dr Burrill Bernard Crohn a'i Cymro o'r enw Dr Dai ab Utys oedd darganfyddydd y clwyf melys?

08/01/2010

Cwestiwn Dyrys Gaeafol

Be mae'r bobl sy'n cael eu cyflogi gan gynghorau Cymru i raeanu'r ffyrdd yn gwneud yn ystod cyfnodau o dywydd braf?

02/03/2009

Cwestiwn Dyrys Gŵyl Dewi

Pam bod Cymry Anghydffurfiol, sydd ddim yn credu mewn eiriolaeth i'r Saint, yn gwneud gymaint o ffỳs am Ddydd Gŵyl Dewi?

Pam bod anghredinwyr rhonc yn gwneud mwy byth o ffỳs am yr Ŵyl?

24/12/2008

Cwestiwn Dyrys Nadoligaidd

Pam fod Bethlehem yn Ddinas yn y carol Cymraeg a dim ond yn little town yn y carol Saesneg?

I'r credinwyr ymysg fy narllenwyr dymunaf bob bendith wrth i chi ddathlu dyfodiad ein gwaredwr i'r byd. I'r rhai sydd eto i brofi grym gwaredigaeth yr Arglwydd Iesu Grist ddymunaf bob llawenydd wrth i chi dathlu'r hyn sydd yn bwysig i chi ar ŵyl gyhoeddus.

Nadolig Llawen iawn i bawb.