Yn ôl y newyddion ar BBC Brecwast y bore
'ma mae'n debyg bydd y siopau mawrion yn gwneud hyd at £3 biliwn o elw yng
nghyfnod y sêls wedi'r Nadolig! Hwb gwych i economi'r ynysoedd hyn, yn ôl pob
tebyg. Ond os allant wneud gymaint o elw trwy werthu eu nwyddau gymaint yn
rhatach ar ôl yr ŵyl, onid ydy hynny'n brawf eu bod yn codi gormod o lawer yn eu
prisiau arferol trwy gydol y flwyddyn?
Onid gwell i'r economi'n gyffredinol ac i
siopwyr cyffredin byddid codi pris teg trwy gydol y flwyddyn yn hytrach na
chodi crocbris am un fis ar ddeg er mwyn creu cynddeiriogrwydd cael bargen ffals
am bythefnos?