Dyma ni, unwaith eto, yn y tymor traddodiadol o ofyn i awdurdodau Prydain am Ŵyl y Banc ar Ddydd Gŵyl Dewi!
Fel un sydd wedi fy magu yn y traddodiad anghydffurfiol, sy'n credu bod pob unigolyn sydd wedi dewis gras Crist wedi ei sancteiddio, rwy'n anghydffurfio a'r syniad bod ambell i Gymro Cristionogol yn fwy o Sant nac un arall!
Mae'n debyg bod Dewi yn hen foi daionus, ond dim myw na lai na unrhyw Gristion arall (mae'n debyg y byddai Dewi yn cytuno a fi).
Yr hyn sy'n fy synnu mwyaf yw gweld Cymru yn troi'n fwyfwy seciwlar a fwyfwy aml grefyddol, tra fo fwyfwy yn galw am ddathlu dydd nawddsant! Mae'n gwbl hurt!
Os am gael Dydd Gŵyl Genedlaethol, be am Ŵyl Glyndŵr, neu Ŵyl Llywelyn?
Neu gorau oll, be am Ddygwyl dathlu ein Hannibyniaeth!
Showing posts with label Anghrediniaeth. Show all posts
Showing posts with label Anghrediniaeth. Show all posts
01/03/2016
20/12/2014
Cwestiwn Dyrus am Anghrediniaeth
Mae anghrediniaeth yn esblygiad o'r traddodiad anghydffurfiol rhyddfrydol o rydd i bob un ei farn ac i bob barn ei llafar.
Pam, felly, bod anghredinwyr mor driw am ddychwelyd i dduwch uniongrededd yn eu safbwynt hwy nad oes hawl i unrhyw farn, ond yr un uniongred wrth grefyddol i gael ei fynegi?
Mae'n ymddangos imi bod mwy o bynciau sy'n gabledd bellach nag oedd o dan Mari Waedlyd. Nid wyf yn cael mynegi barn amgen ar hil, rhywoldeb, priodas, y Nadolig, crefydd, Ewrop nag unrhw bwnc dan haul heb fy nghuddo o fod yn phob neu'n pheil!
Be ddigwyddod i'r hen draddodiad Anghydffurfiol Gymreig o ryddid mynegiant barn?

06/06/2012
Ffydd mewn gwyddoniaeth
Mae wyth munud wedi pump bellach wedi mynd heibio, ac er gosod y larwm er mwyn ei gwylio roedd gormod o gymylau yn yr awyr i mi gael cip ar Fenws yn clipio'r haul – am siom!
Ond roedd rhaglen Horizon neithiwr am y posibilrwydd o weld y ffenomena wedi bod yn ddigon diddorol i wneud imi godi'n blygeiniol er mwyn ceisio ei gweld. Roedd hefyd yn rhaglen a oedd yn codi nifer o gwestiynau am yr hyn sydd gan ffydd a gwyddoniaeth yn gyffredin, er gwaetha'r ffaith bod ambell i anffyddiwr yn honni bod gwyddoniaeth wedi profi bod diwinyddiaeth yn ymarfer academaidd dibwynt. Y peth cyntaf i nodi yw bod gwyddonwyr yn gallu mynd dros ben llestri yn eu brwdfrydedd dros eu pwnc fel eu bod yn methu ffeithiau gwbl amlwg, yn yr union fodd ac mae ambell i hen bregethwr yn ei wneud. Brawddeg agoriadol y rhaglen oedd un gan hogan llawer iau na fi yn honni na fydd Fenws yn trawslunio'r haul eto yn ystod fy mywyd i, bywyd fy mhlant na bywyd fy wyrion. Mae'n debyg bod y ffenomena yn digwydd pob 106 i 108 mlynedd. Gan fod tipyn mwy na 108 mlynedd wedi mynd rhagddo ers dyddiadau geni fy nau daid a fy nwy nain, rwy'n mawr obeithio bydd gennyf wyrion ac wyresau dal ar dir y byw ymhen ychydig dros ganrif! Yr ail beth i nodi yw cymaint o arian, adnoddau diriaethol ac adnoddau ymenyddol sy'n cael eu gwario ar chwilio am fywyd yn y bydysawdau, er gwaetha'r ffaith nad oes, hyd yn hyn, dim fflewj o brawf am ei bodolaeth - gwariant ar ffydd pur yn hytrach nag ar adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn wybyddus! Y trydydd pwynt o ddiddordeb yn y rhaglen oedd yr orffwylltra, braidd, o geisio crafu'r posibilrwydd bod yna fywyd yn ein cysawd ni trwy chwilio am fywyd ar gymylau Fenws yn hytrach nac ar ei dir. Roedd hynny'n ymddangos fel desperation braidd o ran y gred gyffredinol mae ei'n blaned ni yw'r unig un yn y cysawd hwn sy'n gallu cynnal bywyd. Y peth mwyaf amlwg i mi yn y rhaglen oedd mai Ffydd, Gobaith, Cariad oedd spardyn y cyflwynwyr, a'r mwyaf o rhai hyn ydoedd cariad at eu gwyddor .- rwy’n siŵr fy mod wedi clywed am y fath ymrwymiad rhywle arall!02/03/2009
Cwestiwn Dyrys Gŵyl Dewi
Pam bod Cymry Anghydffurfiol, sydd ddim yn credu mewn eiriolaeth i'r Saint, yn gwneud gymaint o ffỳs am Ddydd Gŵyl Dewi?
Pam bod anghredinwyr rhonc yn gwneud mwy byth o ffỳs am yr Ŵyl?
Pam bod anghredinwyr rhonc yn gwneud mwy byth o ffỳs am yr Ŵyl?
08/01/2009
Satan i gael Cerdyn Teithio Cymru?
Yn ôl y Daily Post (mewn stori sydd ddim ar lein) bu'r ymgyrch hysbysebu atheistiaeth ar fysys Llundain yn gymaint o lwyddiant bod yr ymgyrch am gael ei ehangu i gynnwys bysus yng Ngogledd Cymru.
Bu'r sylwebyddion arferol yn cwyno am y newyddion, wrth gwrs; ond mae'n rhaid imi ei groesawu.
Mae 'na hen ddweud mai yr unig beth sydd yn waeth na phobl yn siarad amdanoch yw bod pobl ddim yn siarad amdanoch. I raddau dyma fu problem achos crefydd yng Nghymru dros yr ugain mlynedd diwethaf - nid bod pobl yn elyniaethus i neges Crist ond eu bod yn ddi-hid ohoni, neu'n anymwybodol o'i fodolaeth. H.Y. dydy pobl ddim yn siarad amdani.
O weld hysbysebion sydd yn lladd ar Gristionogaeth ar fysys y Gogledd, rwy'n cyd obeithio a threfnwyr yr ymgyrch y dônt yn achos trafod ddwys!
Yn ddi-os ni fydd neb sydd yn creu bod Iesu Grist yn waredwr iddo neu iddi yn colli ffydd o ganlyniad i hysbysebion o'r fath. Ond mae'n wir bosib bydd y drafodaeth sydd yn cael ei godi o'u bodolaeth yn arwain ambell un i adnabyddiaeth bersonol o'r Arglwydd Iesu Grist.
Gan hynny rwyf am ddiolch i drefnwyr yr ymgyrch hysbysebu. Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at weld yr hysbyseb cyntaf ar fysys rhif 25 ac at y cyfle i dystiolaethu bydd eu hymddangosiad yn cyflwyno imi.
English

Subscribe to:
Posts (Atom)