Yn 么l y Daily Post (mewn stori sydd ddim ar lein) bu'r ymgyrch hysbysebu atheistiaeth ar fysys Llundain yn gymaint o lwyddiant bod yr ymgyrch am gael ei ehangu i gynnwys bysus yng Ngogledd Cymru.
Bu'r sylwebyddion arferol yn cwyno am y newyddion, wrth gwrs; ond mae'n rhaid imi ei groesawu.
Mae 'na hen ddweud mai yr unig beth sydd yn waeth na phobl yn siarad amdanoch yw bod pobl ddim yn siarad amdanoch. I raddau dyma fu problem achos crefydd yng Nghymru dros yr ugain mlynedd diwethaf - nid bod pobl yn elyniaethus i neges Crist ond eu bod yn ddi-hid ohoni, neu'n anymwybodol o'i fodolaeth. H.Y. dydy pobl ddim yn siarad amdani.
O weld hysbysebion sydd yn lladd ar Gristionogaeth ar fysys y Gogledd, rwy'n cyd obeithio a threfnwyr yr ymgyrch y d么nt yn achos trafod ddwys!
Yn ddi-os ni fydd neb sydd yn creu bod Iesu Grist yn waredwr iddo neu iddi yn colli ffydd o ganlyniad i hysbysebion o'r fath. Ond mae'n wir bosib bydd y drafodaeth sydd yn cael ei godi o'u bodolaeth yn arwain ambell un i adnabyddiaeth bersonol o'r Arglwydd Iesu Grist.
Gan hynny rwyf am ddiolch i drefnwyr yr ymgyrch hysbysebu. Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at weld yr hysbyseb cyntaf ar fysys rhif 25 ac at y cyfle i dystiolaethu bydd eu hymddangosiad yn cyflwyno imi.
English