Mae wyth munud wedi pump bellach wedi mynd heibio, ac er gosod y larwm er mwyn ei gwylio roedd gormod o gymylau yn yr awyr i mi gael cip ar Fenws yn clipio'r haul – am siom!
Ond roedd rhaglen Horizon neithiwr am y posibilrwydd o weld y ffenomena wedi bod yn ddigon diddorol i wneud imi godi'n blygeiniol er mwyn ceisio ei gweld. Roedd hefyd yn rhaglen a oedd yn codi nifer o gwestiynau am yr hyn sydd gan ffydd a gwyddoniaeth yn gyffredin, er gwaetha'r ffaith bod ambell i anffyddiwr yn honni bod gwyddoniaeth wedi profi bod diwinyddiaeth yn ymarfer academaidd dibwynt. Y peth cyntaf i nodi yw bod gwyddonwyr yn gallu mynd dros ben llestri yn eu brwdfrydedd dros eu pwnc fel eu bod yn methu ffeithiau gwbl amlwg, yn yr union fodd ac mae ambell i hen bregethwr yn ei wneud. Brawddeg agoriadol y rhaglen oedd un gan hogan llawer iau na fi yn honni na fydd Fenws yn trawslunio'r haul eto yn ystod fy mywyd i, bywyd fy mhlant na bywyd fy wyrion. Mae'n debyg bod y ffenomena yn digwydd pob 106 i 108 mlynedd. Gan fod tipyn mwy na 108 mlynedd wedi mynd rhagddo ers dyddiadau geni fy nau daid a fy nwy nain, rwy'n mawr obeithio bydd gennyf wyrion ac wyresau dal ar dir y byw ymhen ychydig dros ganrif! Yr ail beth i nodi yw cymaint o arian, adnoddau diriaethol ac adnoddau ymenyddol sy'n cael eu gwario ar chwilio am fywyd yn y bydysawdau, er gwaetha'r ffaith nad oes, hyd yn hyn, dim fflewj o brawf am ei bodolaeth - gwariant ar ffydd pur yn hytrach nag ar adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn wybyddus! Y trydydd pwynt o ddiddordeb yn y rhaglen oedd yr orffwylltra, braidd, o geisio crafu'r posibilrwydd bod yna fywyd yn ein cysawd ni trwy chwilio am fywyd ar gymylau Fenws yn hytrach nac ar ei dir. Roedd hynny'n ymddangos fel desperation braidd o ran y gred gyffredinol mae ei'n blaned ni yw'r unig un yn y cysawd hwn sy'n gallu cynnal bywyd. Y peth mwyaf amlwg i mi yn y rhaglen oedd mai Ffydd, Gobaith, Cariad oedd spardyn y cyflwynwyr, a'r mwyaf o rhai hyn ydoedd cariad at eu gwyddor .- rwy’n siŵr fy mod wedi clywed am y fath ymrwymiad rhywle arall!
Alwyn, yn y frawddeg agoriadol yn dy drydd paragraff o dy sylwadau ar "Ffydd Mewn Gwyddoniaeth" uchod, fe ddywedi "bod gwyddonwyr yn gallu mynd dros ben llestri yn eu brwdfrydedd dros eu pwnc".
ReplyDeleteGwir a ddywedaist ! Er enghraifft, mae gwyddoniaeth wedi rhoi bod i bethau megis taflegrau, bomiau atomig a gwyddonwyr sydd wedi lladd fel rhan o'u hymchwil i wahanol bethau mewn gwersylloedd lladd yn yr Almaen a gwersylloedd carcharorion yn Siapan adeg yr Ail Ryfel Byd. Ond, peidied neb ag anghofio bod crefyddau'r byd hefyd wedi rhoi bod i erchyllterau hefyd megis, er enghraifft, aberth dynol, rhyfeloedd y Groes, y Chwilys a chyflafanau mewn llawer man. Y gwir amdani yw bod drwg a da ym mhob peth gan gynnwys crefydd a gwyddoniaeth. Nid yw crefydd na gwyddoniaeth ddim gwell na'i gilydd ac nid ydynt ddim gwaeth na'i gilydd ychwaith. Dafydd Jones o Lanrwst.