Yn ôl adroddiadau o Gyngor Sir
Caerfyrddin fe fu protest y tu allan i gyfarfod llawn y Cyngor ddoe gan aelodau
Unsain a oedd yn gofyn am gyflog byw ar gyfer y gweithwyr tlotaf yn nghyflogaeth y cyngor. Cafwyd cefnogaethi'r ymgyrch gan gynghorwyr Plaid Cymru ond gwrthodwyd y cynnig gan y grŵp reoli
sy'n cael ei arwain gan y Blaid Lafur.
Pan ddaw'r
etholiadau nesaf i Gyngor Sir Caerfyrddin sut bydd Unsain yn annog ei aelodau i
bleidleisio tybed? I "ffrindiau'r" undeb yn y Blaid Lafur wrth gwrs!
Dylse Plaid Cymru wrthod cwrdd ag Unsain na chefnogi nhw oni cheir dealltwriaeth fydd Unsain yn cefngi PC yn yr etholiad nesa.
ReplyDeleteFel arall mae PC yn 'useful idiots'.
Mae'r undebau llafur wedi sylwi fod Plaid Cymru yn 'rentamob' rhad iawn i'w llogi. Fel llawer o genedlaetholwyr, fe wnes ymgyrchu dros y glowyr, a dwi'n cofio Cymdeithas yr iaith yn flaenllaw ac yn anryjdeddus iawn. A wnaeth yr undebau a'u haelodau Gymreigio fymryn ? Wrth gwrs ddim. Mudiad arall a ddefnyddiodd gydwybod y Cymry oedd y mudiad gwrth-apartheid. Ar ol i apartheid ddiflannu, a oeddech yn eu gweld yn talu'r ddyled yn ol - dim ffiars.
ReplyDelete