Showing posts with label Anabledd. Show all posts
Showing posts with label Anabledd. Show all posts

27/02/2016

Isdeitlo ar S4C

Dechreuodd y gallu i isdeitlo rhaglenni teledu ar gyfer pobl byddar / trwm eu clyw gyda datblygu Teletex ac Oracle yn y 1970au, cyn i S4C cael ei lansio. Pwrpas y ddarpariaeth oedd galluogi pobl byddar a thrwm eu clyw dilyn rhaglenni trwy ddarllen y geiriau oedd yn cael eu dweud ar y sgrin wrth wylio rhaglen.

Fel gŵr hynod drwm fy nghlyw (ers y 70au), mae’r ddarpariaeth wedi bod yn fendith yn y fain, ond yn boen yn y Gymraeg. Rwy'n gallu gwylio rhaglenni Saesneg gyda'r teulu; yn gallu siarad trostynt, dyfalu be fydd yn digwydd nesaf, cyd chwerthin efo jôc, cyd crio efo elfen ddwys ac ati. Rwy'n methu rhannu hwyl cyd wylio rhaglen ar S4C efo'r teulu, ac wedi methu ers cyn i'r plant cael eu geni. Yr unig fodd i mi wylio rhaglenni S4C yw trwy fynd i stafell arall a defnyddio clustffonau hynod bwerus gan nad oes isdeitlau i'r Byddar ar S4C; y rheswm am hynny yw bod Spectell (gwasanaeth teletex S4C) wedi penderfynu gwrando ar farn elusen bondigrybwyll y byddar yn hytrach na gwylwyr byddar y sianel.

Mae fy mam yn Gymraes ddi-gymraeg, bu hi'n aelod o bwyllgor Wales Council for the Deaf pan holwyd barn y gymdeithas ar isdeitlo ar S4C, ymddiswyddodd hi o'r Cyngor ar y pryd o herwydd agwedd gwrth Cymraeg y Cyngor pan ddaeth cwestiwn isdeitlo ar S4C ar yr agenda. Er gwaethaf hynny penderfynu dilyn barn elusen anetholedig pobl fyddar Cymru bu penderfyniad S4C a darparu isdeitlau cyfiaith yn hytrach na isdeitau i'r trwm eu clyw.

Wrth i deledu digidol datblygu daeth y posibilrwydd o ddarparu isdeitlau mewn mwy nag un iaith. Ond yn hytrach na ddarparu is deitlau Cymraeg i bobl byddar mae S4C yn cynnig cyfieithiad i Gymraeg syml ar y botwm coch, yn hytrach nag isdeitlau go iawn.

Fel Cymro Cymraeg trwm fy nghlyw rwy'n flin, yn hynod flin, bod S4C wedi anwybyddu adnodd dylai fy nghymhwyso i fwynhau eu harlwy gyda'r teulu.

Halen ar y briw yw'r syniad bod ein sianel Cymraeg am gael ei halogi, dros Wŷl Dewi, gydag isdeitlau diofyn yn y Saesneg!

15/05/2013

Siarad ar fy rhan neu siarad ar eu cyfer?

Yn y senedd ddoe bu lobio ar ran pobl sy'n dioddef efo clyw’r digwydd (epilepsi).

Roedd Darren Millar AC yn falch o weld pobl o bob parth o Gymru yno i gefnogi'r achos

Roedd Aled Roberts AC yn falch o fod yn westai i'r digwyddiad


Dysgodd Rebecca Evans AC lawer o'r cyfarfod

Yr wyf wedi byw efo clyw’r digwydd am dros ddeugain mlynedd. Mae clyw’r digwydd yn anhawster sydd yn dueddol mewn teuluoedd, gan hynny mae gennyf nifer o gefndryd a chyfyrdryd sy'n dioddef yr un fath a fi ond, hyd y gwyddwn, doedd neb o'r teulu yn gwybod am y digwyddiad pwysig yma yn y senedd chwaith. Sy'n codi'r cwestiwn pam?

Mae'n debyg bod y lobi yma wedi ei drefnu gan grŵp o'r enw Epilepsi Action Cymru. Er gwaethaf dioddef o'r clyw am gyhyd dim ond pythefnos yn ôl (ar Twitter) clywais gyntaf am fodolaeth y fath mudiad.

Ar wahân i'r gair Cymru yn yr enw does dim gair arall o Gymraeg ar wefan y grŵp. Yn waeth byth Dyma ymateb y grŵp i ymholiad am weithgarwch yn y Gogledd:

Epilepsy Action Cymru does not have a group in North Wales. However a well established Mersey Region Epilepsy Group meets in Bangor.

Pa fandad sydd gan fudiadau o'r fath i siarad ar fy rhan ac i gael y fath ddylanwad ar ein Cynulliad?

Sut mae mudiad sydd yn amharchu'r Gymraeg ac sydd yn credu fy mod yn perthyn i barth Mersey yn cael siarad ar fy rhan i'm llywodraethwyr?

Pwy sydd yn rhoi'r hawl i'r bobl yma siarad ar fy rhan heb imi gael cyfrannu at eu trafodaethau?

Nid ydwyf yn gwybod be ddywedwyd wrth yr ACau am Glyw’r Digwydd, nid ydwyf yn gwybod os ydwyf yn cytuno neu'n anghytuno a barn y lobïwyr. Yr hyn yr wyf yn gwbl sicr ohoni yw nad oedd y lobïwyr yn siarad ar fy rhan i, fel un sy'n byw efo'r anabledd, gan na wnaed unrhyw ymdrech i gaffael fy marn i cyn iddynt fynd i bwyso ar aelodau'r Cynulliad!

Engraifft yn unig am un anabledd yw'r uchod ond un sy'n cael ei hailadrodd yn achos bron pob anabledd / afiechyd / salwch!

26/10/2010

Cwestiwn Dyrys am Ddallineb

Pan fo Ci Tywys yn baeddu'r palmant, sut mae perchennog y ci yn gallu canfod y baw er mwyn osgoi'r gosb o ganiatáu i'w gi baeddu?

22/09/2010

Y Cynulliad yn bradychu gofalwyr ifanc?

Yr wyf yn dioddef o glyw’r digwydd ac yr wyf yn hynod drwm fy nghlyw. Mae fy ngwraig yn dioddef o'r clwyf melys ac yn cael problemau symudedd, mae'r ddau ohonom o'r herwydd yn anabl, ac mae ein plant yn ofalwyr i ni.

Mae'r meibion yn gwthio cadair olwyn eu Mam, maent yn ateb y ffôn ar fy rhan i. Pan fyddwyf yn mynd ar daith ar y bws neu'r trên mae'n rhaid imi gael ofalydd cyfrifol efo fi rhag ofn fy mod yn cael ffit. Un o'r hogiau bydd yn dod efo fi, fel arfer.

I'r hogiau braint yw gwthio Mam yn y gadair olwyn, mae'n achos dadl yn aml rhyngddynt parthed tro pwy yw gwthio'r gadair. Hwyl yw mynd efo Dad ar y bws neu'r trên. Pan fo rhywun yn ffonio i werthu rwtsh ar y ffôn mêl i'r hogs yw mynegi rhegfeydd eu Tad i werthwyr ffenestri dwbl a chacalwyr eraill.

Nid ydynt yn eu hystyried eu hunain yn ofalwyr ifanc. A phan wnaed arolwg yn yr ysgol o ofalwyr ifanc ymysg y disgyblion ni wnaethent gynnig eu hunain fel enghreifftiau o'r rhai sydd yn ddioddef trwy ofalu am eu rhieni.

Fe fu drafodaeth yn y Senedd ddoe am Strategaeth Ofalwyr. Gwrthwynebwyd a phleidleisiwyd yn erbyn pob un gwelliant am rôl yr ofalydd ifanc a gynigwyd gan y gwrthbleidiau gan aelodau'r Blaid Lafur ac aelodau Plaid Cymru. Rhag cywilydd iddynt!

Cyfrannu eu gofal trwy natur yn hytrach na dyletswydd mae fy meibion, heb sylwi eu bod yn ofalwyr. Yr wyf yn hynod flin bod corff sydd yn gallu edrych uwchlaw profiad dau fachgen ysgol diniwed, wedi ymwrthod a sylwi ar, a chydnabod, gwirionedd eu gwir gyfraniad i ofal eu rhieni!

09/07/2009

Parcio heb hawl?

Mae'r holl son am barcio mewn llefydd dynodedig i'r anabl yn fy atgoffa am stori ddoniol (os ddoniol) a glywais yn cael ei hadrodd gan y Fonesig Tanni Gray-Thompson.

Roedd Tanni wedi mynd i archfarchnad pan oedd ei phlentyn gyntaf yn fân ac wedi sylwi mae prin oedd y llefydd a oedd ar gael yn y parth i yrwyr anabl. Gan ystyried ei bod hi yn gallu lliwio ei chadair olwyn yn gynt na all cerddwr byr o wynt cerdded, penderfynodd hi i adael lle gwag ar gyfer un oedd a mwy o angen na hi. Aeth hi i barcio i'r lle i rieni a phlant.

Er bod nifer o lefydd gwag yn y parth rhieni a phlant daeth dynes ffyrnig ati i fytheirio ei bod hi'n parcio yno heb hawl. Fe wnaeth y Fonesig egluro ei bod yn parcio yno efo cyfrifoldeb am ei phlentyn bach. Ymateb yr achwyn-wraig oedd:

It doesn't matter that you've got your child with you - you're not a mother - you're disabled - so you can't park here!

08/07/2009

Y Fathodyn Glas

Mae fy ngwraig yn defnyddio cadair olwyn, mae ganddi fathodyn glas sydd yn caniatáu iddi i barcio mewn parthau parcio dynodedig ar gyfer pobl sydd yn byw efo anabledd.

Yn ddyddiol, bron, yr wyf yn gorfod wynebu'r broblem o fethu a'i chynorthwyo i mewn i'r gadair olwyn oherwydd bod y parthau parcio sydd â lle i agor drws y car yn ddigon llydan wedi eu dwyn gan bobl iach o gorff.

Ar sawl achlysur yr wyf wedi methu cael lle parcio anabl mewn archfarchnadoedd a swyddfeydd, ac wedi gorfod gadael fy ngwraig yn y car, yn hytrach na'i bod hi yn dod efo fi i gyflawni'r dyletswyddau yr oeddem wedi eu bwriadu eu cyflawni ar y cyd.

Yr wyf wedi cael llond bol o gwyno i fan swyddogion sydd yn cydymdeimlo, ond yn dweud nad oes modd iddynt wneud dim parthed y broblem.

Ychydig flynyddoedd yn ôl fe welodd fy mrawd yng nghyfraith car heddlu yn defnyddio lle parcio i'r anabl yn y Bala. Tynnodd llun o'r car a'i ddanfon i'r Daily Post i gwyno. Cafodd cefnogaeth i'w gwyn gan gynghorwyr ac Aelodau Seneddol o bob plaid, gan gynnwys Plaid Cymru.

Nid mater pleidiol yw parcio mewn parth anabl heb hawl. Mae'n achos o hunanoldeb ac ymddygiad anystyriol sy'n ddangos diffyg parch i anghenion y sawl sy'n byw efo anabledd. Mae pob cyhoeddusrwydd sydd yn codi proffil y broblem yn gyhoeddusrwydd da. Gan hynny yr wyf yn ddiolchgar i'r Cynghorydd Gwilym Euros am godi'r achos.

Os ydy o'n wir fod Dafydd Iwan wedi parcio, heb achos, mewn parth anabl roedd ei ymddygiad yn anghywir. Dydy'r ffaith ei fod yn eicon cenedlaethol, dydy'r ffaith ei fod yn arwr gwladgarol, dydy'r ffaith ei fod yn Llywydd Plaid Cymru yn newid dim ar y ffaith bod parcio yn y parth yn annerbyniol. Os ydy'r honiad yn gywir y peth gorau i Dafydd ei wneud ydy syrthio ar ei fai, ymddiheuro ac addo i beidio â gwneud yr un peth eto.

Y peth gwaethaf i gefnogwyr Plaid Cymru fel Cai a Rhydian eu gwneud yw ceisio esgusodi'r fath ymddygiad di-hid i anghenion pobl sy'n byw efo anabledd.

Rhai o'r sylwadau mwyaf ffiaidd yr wyf wedi eu darllen ar flog Gwilym yw rhai gan bobl anhysbys sydd yn honni bod pethau pwysicach i'w trafod. Pan nad oes modd i ddynes gwneud rhywbeth mor hanfodol a siopa i brynu bwyd i'w plantos, oherwydd bod y parthau anabl wedi eu llenwi gan bobl diystyrlon - does 'na ddim byd pwysicach yn y byd i gyd iddi.

26/04/2009

Anabl i ddefnyddio'r Gymraeg #2

Wrth drafod y posibilrwydd bod deddf iaith newydd ar y gorwel mae ambell i awdurdod, sydd eisoes yn cynnig gwasanaeth Cymraeg, wedi nodi mae ychydig ar y naw sydd yn dewis yr opsiwn Cymraeg.

Pwynt digon teg. Ond mae yna adegau pan fo ddewis y Gymraeg yn gwbl anymarferol.

Yn aml bydd angen i ffurflen cael ei gymeradwyo gan unigolyn arall. Os nad yw'r cymeradwy yn gallu darllen y ffurflen Gymraeg does dim modd iddo ei gymeradwyo. Rhaid llenwi'r ffurflen yn iaith yr un sydd yn cymeradwyo yn hytrach nag iaith yr ymgeisydd!

Weithiau bydd cyrff yn cynnig dewis iaith ar ffurflenni yn hytrach na ffurflen ddwyieithog. Mae ffurflen Cymorth Dŵr Cymru yn enghraifft dda o hyn.

Mae modd i bobl sydd ar lwfansau incwm isel sydd a 3 neu mwy o blant, a phobl sydd ar lwfansau anabledd sydd â chyflyrau sydd yn golygu eu bod yn galw am ddefnydd dŵr ychwanegol i'r arfer, cael gostyngiad hyd at £250 oddi ar eu biliau dŵr.

Yr wyf wedi bod yn annog pobl i wneud cais am Gymorth Dŵr Cymru, ac wedi bod yn eu hannog i lenwi ochr Gymraeg y ffurflen.

Mae'r ffurflen yn un dewis iaith. Hynny yw mai modd ei lenwi yn y Gymraeg neu ei droi drosodd i'w llenwi yn y Saesneg.

Ond mae'n rhaid i'r ffurflen gais cael ei gymeradwyo gyda stamp a llofnod meddyg teulu neu nyrs bractis. Mae naw allan o'r un ar ddeg o bobl yr wyf wedi eu hanog i lenwi'r ffurflen yn y Gymraeg wedi ddweud bod y meddyg yn methu rhoi ei stamp ar y ffurflen gan nad ydyw yn ddeall y Gymraeg, a bod rhaid iddynt llenwi'r ochr Saesneg er mwyn y meddyg!

Mae'n siŵr bydd y Bwrdd Dŵr yn fesur y naw hyn fel 90% o Gymry Cymraeg sy'n ddewis yr opsiwn Saesneg!

17/12/2008

Anabl i Fwynhau Sioe'r Nadolig

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wedi bodoli ers 1995! Mae busnesau a chyrff wedi cael amser maith i gydymffurfio a'r ddeddf. Rhoddwyd hyd at 2004 i adeiladau cyhoeddus sicrhau mynediad cyfartal i holl aelodau'r cyhoedd. Pedwar blynedd yn ddiweddarach mae nifer o adeiladau cyhoeddus dal heb ddarparu'r mynediad angenrheidiol, ac mae hyn yn warthus.

Mae mynediad yn fwy na sicrhau bod modd i ddefnyddiwr cadair olwyn cael mynd trwy ddrws. I mi, fel person trwm ei glyw, mae mynediad yn cynnwys darparu system lŵp, system sydd yn ddarlledu sain yn uniongyrchol i declynnau clywed. Mae y rhan fwyaf o fudiadau gwirfoddol sydd yn rhedeg adeiladau cyhoeddus megis Eglwysi, capeli a neuaddau coffa yn darparu'r fath system bellach, fel sydd yn ofynnol a'r ddeddf - diolch iddynt.

Mae ysgolion, yn amlwg, yn adeiladau cyhoeddus. Ar yr adeg yma o'r flwyddyn bydd miliynau o aelodau'r cyhoedd yn ymweld ag ysgolion i wylio'r Sioe Nadolig. Ond o'm mhrofiad i, prin ar y naw yw neuaddau ysgol sydd yn cynnig gwasanaeth lŵp. Wedi holi pobl eraill trwm eu clyw mae'n ymddangos nad yw'r gwasanaeth, gweddol rad, yma ar gael o gwbl yn ysgolion siroedd Conwy na Gwynedd.

Mae fy mab yn perfformio mewn sioe ysgol nos yfory. Af yno i wylio'r sioe. Piti na fydd modd imi glywed y sioe hefyd, gan bod y cyngor sir wedi dewis peidio â chydymffurfio a deddf sydd i fod i ganiatáu imi gael mwynhau'r sioe cystal â phawb arall yn y gynulleidfa.

22/08/2008

Anabledd yr Eisteddfod

Mae 'na gŵyn yn y rhifyn cyfredol o Golwg am ddiffyg darpariaeth i bobl sydd yn byw gydag anabledd yn yr Eisteddfod.

Mae Meri Davies o Lanelli wedi ysgrifennu at drefnwyr yr Eisteddfod i fynegi ei siom a'i rhwystredigaeth am y ddarpariaeth.

Hoffwn ategu fy nghefnogaeth i sylwadau Ms Davies. Mi fûm yn gwthio fy ngwraig mewn cadair olwyn yn yr Eisteddfod eleni ac roedd y profiad yn artaith.

Gallwn sgwennu deg blogbost cyn llawn fynegi fy rhwystredigaeth am y ddiffyg darpariaeth Eisteddfodol ar gyfer pobl sy'n byw ag anabledd a'r anhawesterau cyfarfum yn Ngharedydd eleni.

Mae'r Eisteddfod yn defnyddio'r un esgus eleni am ddiffyg mynediad i bobl sydd yn byw ag anabledd ac a ddefnyddiwyd y llynedd a'r flwyddyn cynt; sef eu bod yn ymgynghori a'r "Disability Access Group" lleol.

Sawl aelod o DAG Caerdydd a ymwelodd â Maes Eisteddfod cyn eleni?

Heb syniad o be ydi Eisteddfod a oes modd i DAG Caerdydd gwybod unrhyw beth am anghenion Eisteddfodwyr sy'n byw gydag anabledd?

Hoffwn awgrymu yn garedig i'r Eisteddfod eu bod yn creu eu DAG eu hunnain o Eisteddfodwyr Pybyr

- megis Meri Davies sydd yn ymweld â phob Eisteddfod mewn cadair olwyn, neu un fel fi sydd yn gwthio cadair olwyn y musus 'cw trwy bob eisteddfod -

yn hytrach na dibynnu ar y grwpiau lleol sydd yn gwybod rhywfaint am anabledd, bid siŵr, ond sy'n gwybod ff**c oll am Eisteddfota i'r anabl!

Ac, ol nodyn, os ydy'r DAGs lleol mor dda - pam nad yw yr un ohonnynt wedi sicirhau lwp yn y pafiliwn hyd yn hyn?