Showing posts with label Sioe Ysgol. Show all posts
Showing posts with label Sioe Ysgol. Show all posts

02/01/2013

Deiniol a'i Bandana Amryliw

Os nad yw Dad yn cael cannu clod, pwy sydd?

Dyma ran o gynhyrchiad Ysgol y Creuddyn o Joseff a'i Got Amryliw, fy machgen gwyn i yw'r un sydd ar ddeheulaw Joseff yn gwisgo bandana gwyrdd / gwyrdd a glas / glas / glas a gwyrdd.

Fel tad yr wyf yn hynod browd o fy mab am ei ran yn y cynhyrchiad ysgol hwn. Ond fel cenedl dylem fod yn falch hefyd. Diolch i ymroddiad athrawon brwdfrydig bydd un neu ddau o'r plantos yma yn sêr S4C, hyd yn oed y Sgrin Fawr, yn y dyfodol.

Llongyfarchiadau i Ysgol y Creuddyn am sioe arbennig ac i bob ysgol arall trwy Gymru benbaladr a chynhyrchodd sioeau tebyg.



17/12/2008

Anabl i Fwynhau Sioe'r Nadolig

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wedi bodoli ers 1995! Mae busnesau a chyrff wedi cael amser maith i gydymffurfio a'r ddeddf. Rhoddwyd hyd at 2004 i adeiladau cyhoeddus sicrhau mynediad cyfartal i holl aelodau'r cyhoedd. Pedwar blynedd yn ddiweddarach mae nifer o adeiladau cyhoeddus dal heb ddarparu'r mynediad angenrheidiol, ac mae hyn yn warthus.

Mae mynediad yn fwy na sicrhau bod modd i ddefnyddiwr cadair olwyn cael mynd trwy ddrws. I mi, fel person trwm ei glyw, mae mynediad yn cynnwys darparu system lŵp, system sydd yn ddarlledu sain yn uniongyrchol i declynnau clywed. Mae y rhan fwyaf o fudiadau gwirfoddol sydd yn rhedeg adeiladau cyhoeddus megis Eglwysi, capeli a neuaddau coffa yn darparu'r fath system bellach, fel sydd yn ofynnol a'r ddeddf - diolch iddynt.

Mae ysgolion, yn amlwg, yn adeiladau cyhoeddus. Ar yr adeg yma o'r flwyddyn bydd miliynau o aelodau'r cyhoedd yn ymweld ag ysgolion i wylio'r Sioe Nadolig. Ond o'm mhrofiad i, prin ar y naw yw neuaddau ysgol sydd yn cynnig gwasanaeth lŵp. Wedi holi pobl eraill trwm eu clyw mae'n ymddangos nad yw'r gwasanaeth, gweddol rad, yma ar gael o gwbl yn ysgolion siroedd Conwy na Gwynedd.

Mae fy mab yn perfformio mewn sioe ysgol nos yfory. Af yno i wylio'r sioe. Piti na fydd modd imi glywed y sioe hefyd, gan bod y cyngor sir wedi dewis peidio â chydymffurfio a deddf sydd i fod i ganiatáu imi gael mwynhau'r sioe cystal â phawb arall yn y gynulleidfa.