Dechreuodd y gallu i isdeitlo rhaglenni teledu ar gyfer pobl byddar / trwm eu clyw gyda datblygu Teletex ac Oracle yn y 1970au, cyn i S4C cael ei lansio. Pwrpas y ddarpariaeth oedd galluogi pobl byddar a thrwm eu clyw dilyn rhaglenni trwy ddarllen y geiriau oedd yn cael eu dweud ar y sgrin wrth wylio rhaglen.
Fel gŵr hynod drwm fy nghlyw (ers y 70au), mae’r ddarpariaeth wedi bod yn fendith yn y fain, ond yn boen yn y Gymraeg. Rwy'n gallu gwylio rhaglenni Saesneg gyda'r teulu; yn gallu siarad trostynt, dyfalu be fydd yn digwydd nesaf, cyd chwerthin efo jôc, cyd crio efo elfen ddwys ac ati. Rwy'n methu rhannu hwyl cyd wylio rhaglen ar S4C efo'r teulu, ac wedi methu ers cyn i'r plant cael eu geni. Yr unig fodd i mi wylio rhaglenni S4C yw trwy fynd i stafell arall a defnyddio clustffonau hynod bwerus gan nad oes isdeitlau i'r Byddar ar S4C; y rheswm am hynny yw bod Spectell (gwasanaeth teletex S4C) wedi penderfynu gwrando ar farn elusen bondigrybwyll y byddar yn hytrach na gwylwyr byddar y sianel.
Mae fy mam yn Gymraes ddi-gymraeg, bu hi'n aelod o bwyllgor Wales Council for the Deaf pan holwyd barn y gymdeithas ar isdeitlo ar S4C, ymddiswyddodd hi o'r Cyngor ar y pryd o herwydd agwedd gwrth Cymraeg y Cyngor pan ddaeth cwestiwn isdeitlo ar S4C ar yr agenda. Er gwaethaf hynny penderfynu dilyn barn elusen anetholedig pobl fyddar Cymru bu penderfyniad S4C a darparu isdeitlau cyfiaith yn hytrach na isdeitau i'r trwm eu clyw.
Wrth i deledu digidol datblygu daeth y posibilrwydd o ddarparu isdeitlau mewn mwy nag un iaith. Ond yn hytrach na ddarparu is deitlau Cymraeg i bobl byddar mae S4C yn cynnig cyfieithiad i Gymraeg syml ar y botwm coch, yn hytrach nag isdeitlau go iawn.
Fel Cymro Cymraeg trwm fy nghlyw rwy'n flin, yn hynod flin, bod S4C wedi anwybyddu adnodd dylai fy nghymhwyso i fwynhau eu harlwy gyda'r teulu.
Halen ar y briw yw'r syniad bod ein sianel Cymraeg am gael ei halogi, dros Wŷl Dewi, gydag isdeitlau diofyn yn y Saesneg!
No comments:
Post a Comment