26/11/2015
Corbyn yn Ymatal
Cynigiodd JC weledigaeth o wrthwynebiad croch i anghyfiawnder byddai'n deffro'r etholwyr lu sydd wedi ymatal rhag pleidleisio cyhyd o'u trwmgwsg.
Yn etholiad 2015, bu i fwy o'r etholfraint ymatal rhag pleidleisio (33%), na phleidleisiodd dros y Llywodraeth Ceidwadol (24%), roedd ymgyrch Corbyn yn bygwth ennill canran gref o'r ymatalwyr i achos Llafur.
Ond ers dewis Corbyn yn arweinydd mae'r Blaid Lafur Seneddol wedi penderfynu ymatal ar achos toriadau lles, ymatal ar achos Trident ac ymatal ar gant ac un o achosion eraill. Yn hytrach na deffro'r etholfraint mae'r Blaid Lafur, o dan arweiniad JC, wedi penderfynu cyd cysgu a hwy ac wedi cryfhau'r agwedd 's dim pwynt pleidleisio, gwaeth ymatal.
Rwy'n deall ymateb gwrthblaid sy'n gwrthwynebu anghyfiawnder yn groch, er gwaetha'r ffaith ei fod yn gwybod bod y frwydr yn ofer, rwy'n deall wrthblaid sy'n gorfod dal ei drwyn a chefnogi Llywodraeth er lles y Wlad, rwy'n methu deall wrthblaid sy'n rhy ofnus i wneud y naill na'r llall; ymatal ar ôl ymatal bu hanes Llafur ers yr etholiad; rhy llwfr i ymosod, rhy llwfr i ildio, sy'n awgrymu i mi bod Llafur yn rhy llwfr i benderfynu dim, a gan hynny yn rhy llwfr i reoli!
Mae Llafur wedi ildio nifer o gefnogwr oedd yn gweld "pwynt" pleidleisio am y tro cyntaf yn ôl i achos " be di'r ots". Cyn iddynt dilyn Llafur yn ôl i'r twll du o ymatal pleidlais, hoffwn awgrymu iddynt nad ydy Leanne Wood yn un am ildio, dydy hi ddim yn un i ymatal nac i sefyll lawr mewn brwydr (rwy'n gwybod o brofiad, mae'r creithiau yna o hyd), ac os ydych am weld lais cryf dros y difreintiedig, peidiwch a mynd yn ôl i feddwl bod pleidlais yn ddiwerth, pleidleisiwch Plaid Cymru, dros Gymru a Chyfiawnder!
02/05/2015
Picl Ed Miliband a Mrs Windsor
Mae datganiadau Ed Milliband o alw "blỳff" y pleidiau cenedlaethol trwy ddweud ei fod am gyflwyno Araith Brenhinol Llafur di gyfaddawd a herio'r pleidiau llai i'w drechu yn nonsens!
Er mwyn creu'r cam argraff ei bod hi'n wleidyddol di duedd mae Araith y Frenhines yn rhestr ffug o bethau y mae hi'n gofyn i'w llywodraeth i wneud.
Dyma broblem fwyaf y Blaid Lafur, bydd y Frenhines ddim yn gwneud araith oni bai ei bod hi'n gant y cant yn sicr bydd yr araith yn cael ei basio, byddai gwrthod pasio Araith Brenhinol yn her i'r Frenhiniaeth yn hytrach na her i Lafur a bydd y Frenhiniaeth dim yn fodlon cael ei herio er mwyn chware rhan yn gemau Llafur.
Mae bygythiad Llafur o herio Plaid / SNP i beidio a chefnogi araith frenhinol, sy'n cael ei ysgrifennu gan Lafur, yn dwt lol botas maip! Os nad ydy Llafur yn GOFYN i eraill am gefnogaeth a chael sicrwydd o'r gefnogaeth honno bydd Ei Mawrhydi ddim yn yngan gair o araith arfaethedig Llafur, bydd dim cyfle i Lafur "herio'r" pleidiau llai i drechu ei gynigion!
Yr unig ddewis bydd gan Lafur, ac eithrio i ofyn yn barchus i bleidiau llai i roi cefnogaeth iddi am bris, yw peidio a chyflwyno Araith Frenhinol gan roi sicrwydd i Mrs Windsor na fydd yn pleidleisio yn erbyn araith Ceidwadol (trwy ymatal).
Yn hytrach na galw "blỳff" Plaid a'r SNP a'r pleidiau eraill mae Ed druan wedi creu ei bicl ei hun!
21/04/2015
Y Lle am Lansiad Maniffesto
Mae'r Edinburgh International Climbing Arena, wedi cael cyhoeddusrwydd byd eang gwerth miliynau o hysbys am ddim trwy'r i gyfryngau'r byd casglu yno i adrodd ar gynnwys Maniffesto'r SNP. Sy'n gwneud i ddyn meddwl pam bod pleidiau Cymru heb gael yr un weledigaeth?
Meddyliwch am Leanne yn cyhoeddi polisïau ei phlaid trwy wibio dros 100 milltir yr awr yn Zip World, neu Carwyn yn bownsio pob polisi Llafur yn Bounce Below, neu Andrew RT yn cyhoeddi ei bolisïau ymysg dinosoriaid Tan yr Ogof, neu Nick Clegg yn lansio ei faniffesto mewn man bydd digon mawr i gynnal Cynhadledd y LibDems y flwyddyn nesaf:
06/03/2015
Testun Rhagfynegol (Predictive Text)
https://play.google.com/store/apps/details?id=org.troi.literatim
Rhaglen testun rhagfynegol sydd wedi bod ar gael ers achau. Rhaglen sy ddim yn wybyddus i Lafurwyr gan nad ydynt yn defnyddio'r Gymraeg ar y cyfryngau amgen eu hunain!
Rhagrith disgwyliedig gan y Blaid Lafur!
16/01/2014
Danedd dodi ac annibyniaeth
Mae'r ffaith bod gan yr Alban gwell gyfle i gael annibyniaeth cyn bod modd i mi cael danedd gosod newydd yn adrodd cyfrolau am wasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru o dan reolaeth Plaid Lafur Carwyn Jones!
29/06/2013
Gwers Cadwaladr Jones i Fôn
Yr wyf wedi bod yn chwilio papurau ar lein am hanes Dolgellau, bro fy magwraeth, ac wedi dod ar draws sawl hanesyn difyr am fy nheulu. Bedydd, Priodas, Cofnod Claddu ac ati. Yng nghanol yr holl minutiae bersonol yr hanes mawr o Ddolgellau yn niwedd y 19 ganrif oedd hanes y llofrudd Cadwaladr Jones, y dyn olaf i ddioddef y gosb eithaf yng Ngharchar Sir Feirionnydd.
Roedd trosedd Cadwaladr yn un erchyll. Fe lofruddiodd hogan yr oedd yn cael perthynas a hi y tu allan i briodas; fe gladdodd ei chorff mewn bedd bâs, a phan oedd o'n tybio bod llif yr afon yn ddigon cryf darniodd ei chorff a'i thaflu i'r afon yn y gobaith y byddai'r darnau yn llifo i'r môr. Yn anffodus i'r dihiryn aeth darnau o'r corff yn sownd yn adeiladwaith Bont yr Aran (y bont bwa ger y siop kibabs) ac fe gafodd ei ddal, ei ganfod yn euog a'i ddedfrydu i farwolaeth.
Pan ddaeth dydd y dienyddiad daeth y dieneiddiwr swyddogol ar y trên i Ddolgellau a mynd yn syth at siop T.H.Roberts i ymofyn am raff. Roedd y dienyddiwr yn cael ei dalu am raff fel rhan o gostau ei gwaith, ond yn aml roedd y trigolion lleol mor frwd i weld dihiryn yn crogi bod y rhaff yn cael ei roi yn rhad ac am ddim gan siopwr lleol. Gwrthodwyd gwerthu rhaff iddo yn Nolgellau, yr Abermaw, Aberystwyth, Y Bala a Rhuthun, bu'n rhaid iddo fynd yn ôl dros y ffin i Gaer i gaffael ar raff (am bris lawn).
Wrth gwrs bod pobl Gogledd Cymru yn gweld Cadwaladr fel dihiryn afiach a oedd yn haeddu ei gosb, yr hyn a oedd yn wrthun iddynt oedd Sais hy yn dod i mewn i Gymru i weinyddu'r gosb honno i un ohonynt hwy.
Pawb yn cytuno mae bastard drwg oedd Cadwaladr – ond ein bastard drwg ni!
Rwyf wedi gweld rhywbeth ffigurol tebyg yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru sawl gwaith. Pan oedd Ron Davies o dan lach y papurau Prydeinig am ei gamweddau, codi gwrychyn am eu hymosodiadau ar un o'n hogiau ni fu ymateb y Cymry cefn gwlad (os nad Cymry'r cymoedd).
Cofio bod yn Nhafarn y Stag Dolgellau pan glywyd bod Dafydd Êl wedi bod yn anffyddlon i'w wraig gyntaf, hogan o Ddolgellau. Pawb wedi ffieiddio ato. Ond pan ddaeth riporter o'r Sun i'r dafarn i geisio chwilio baw am Ddafydd roedd yr hac yn lwcus dianc efo'i bywyd. Roedd DET yn gont am gachu ar ben Elen, ond cont ni ydoedd nid cont Y Sun.
Un o'r siociau mwyaf i wleidyddiaeth Cymru a Phrydain oedd ethol y Tori o Brighton, Keith Best yn AS Môn ym 1979. Roedd Keith yn gyff gwawd i genedlaetholwyr ar ôl ei ethol, ond chware teg iddo fe ddysgodd y Gymraeg a fu'n AS etholaethol pen ei gamp. Pan gafodd ei ddal yn twyllo efo siars BT a'i garcharu, yr oedd o hefyd wedi ei ddyrchafu yn "gont ond ein cont ni, nid cont Llundain". Ceisiodd y Ceidwadwyr ymbellhau oddi wrtho, ceisiodd Llafur gwneud môr a mynydd o'i gam, gwrthod gwneud sylw ond un o deimlo tristwch ar ei ymadawiad o dan y fath amgylchiadau oedd sylw'r Blaid, a bu hynny'n allweddol yn ethol IWJ am y tro cyntaf.
Cyn cychwyn yr ymgyrch y mae'r Blaid Lafur wedi methu rheol Cadwaladr Jones dwywaith. Y maent wedi danfon estron i grogi John Chorlton ac y maent wedi ceisio cachu ar enw un sydd, yn ddiamheuaeth, yn hogyn lleol ac un o "hogia ni" yr etholaeth!
03/09/2011
Rwy'n casáu gogledd Cymru
Rwy'n eithaf hoff o bob rhan o ogledd ein gwlad, ond rwy'n casáu'r cysyniad gwleidyddol o Ogledd Cymru.
Dydy Gogledd Cymru ddim yn rhanbarth gwleidyddol naturiol Gymreig unedig cyfoes. Mae ffug undod y gogledd yn cael ei coleddu, nid er mwyn undod, ond yn unswydd er mwyn creu rhaniadau yng Nghymru; mae'n rhan o gêm y gwrth Gymreig i greu polisi o divide and rule sy'n milwriaethu yn erbyn undod cenedlaethol.
Bron pob tro y bydd y geiriau North Wales yn cael eu yngan, bydd y cyd-destun yn un o gwynion am y Sowth yn cael rhywbeth gwell na ni, neu bod y Sowth yn rhy bell i ffwrdd a bod pobl y Sowth mor ddiarth inni fel bod gennym mwy yn gyffredin a dynion bach gwyrdd Gogledd y blaned Mawrth na chyd Cymro sy'n byw mor bell i ffwrdd a Thresaith diarth!
Dros chwarter canrif yn ôl fe nododd Dennis Balsom bod yna dair rhanbarth gwleidyddol Cymreig:
Y Fro Gymraeg, y Cymru Gymreig a'r Cymru Prydeinig.
Hwyrach nad yw'r labeli yna yn addas bellach, ond mae'r rhaniadau yn aros yn gyffelyb – dyma raniadau naturiol Cymru, ac os oes angen, fel mae Carl Saregent yn mynnu, i gynghorau cyd weithio rhaniadau Balsam yw'r rhai callaf er mwyn cydweithrediad!
Mae gan Aberdaron a Thregaron llawer mwy sy'n gyffredin na sydd gan y naill na'r llall a Brymbo neu Llanandras. Mae Caernarfon, Aberystwyth a Chaerfyrddin yn debycach i'w gilydd nag ydynt yn debyg i Wrecsam.
Mae synnwyr cyffredin yn dweud bod problemau Caergybi ac Abergwaun bron yn efeillio.
Os oes angen uno cynghorau neu uno gwasanaethau cynghorau, mae uno ar hyd y gorllewin a'r dwyrain yn amlwg yn llawer mwy synhwyrol nag yw uno ar hyd y gogledd o ran lles trefniadaeth. Ond tafellu Cymru, yn annaturiol, o ran gogledd, canolbarth, gorllewin a de sydd orau o ran y Blaid Lafur, er mwyn creu dicter rhanbarthol sy'n wrthyn i'r syniad o genedl Gymreig unedig!
26/08/2011
Can Niwrnod Carwyn
Os yw'r Sgotsmon yn gywir, mae llywodraeth newydd Alex Salmond bellach yn dathlu ei ganfed diwrnod o'i ail gyfnod o lywodraeth. Gan fod Mr Salmond a Carwyn Jones wedi sefyll etholiad ar yr un dwthwn, mae'n debyg bod Mr Jones hefyd yn codi gwydraid i ddathlu'r un garreg filltir.
Be mae Carwyn wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod?
Ychydig ar y diawl yn ôl ambell i sylwebydd! Amen a Haleliwia am hynny medda fi!
Drwg llywodraethau sydd yn bwrw'r tir gan redeg (o gyfieithu'r ystrydeb hyll) yw deddfu ar frys ac yn ddiystyrlon, heb ddwys ystyriaeth, jest am greu'r argraff o newid cyfeiriad; boed angen newid cyfeiriad neu beidio.
Un o'r pethau a oedd yn fy mhoeni am refferendwm mis Mawrth oedd bod y pwerau ychwanegol mor gyfyng, bod Llywodraeth newydd y Cynulliad (o ba bynnag liw) am ruthro i'w ddefnyddio er mwyn eu defnyddio jest er mwyn profi hyblygrwydd ei gyhyrau newydd yn hytrach na'u defnyddio er fydd y genedl. Rwy'n hynod falch nad yw Carwyn Jones wedi syrthio i'r fath drap.
Felly llongyfarchiadau i Carwyn am ddefnyddio ei 100 niwrnod cyntaf yn ddwys ystyried yn hytrach na'u hafradu ar ruthro i ddeddfau di angen er mwyn creu ffug argraff o brysurdeb llywodraethol.
29/04/2011
Ie'n annhymerus yn pleidleisio Llafur
11/04/2011
Pleidlais i Lafur = Pleidlais i Middle England yn y Bae?
Nid y darllediadau ydy'r unig bethau sydd yn debyg rhwng yr ymgyrchoedd yn y tair gwlad. Prif fyrdwn dadl Llafur yn y tri etholiad yw bod bleidlais i Lafur yn fodd i amddiffyn yr Awdurdod lleol / Yr Alban / Cymru rhag ymosodiadau Llywodraeth San Steffan; sydd yn nonsens llwyr wrth gwrs. Prin yw gallu Cyngor Sir i amddiffyn ei hetholwyr rhag Llywodraeth Canolog; a heb rymoedd ariannol does dim modd i Lywodraethau Cymru a'r Alban i amddiffyn eu trigolion chwaith.
Yn wir mae record Llywodraeth y Bae o amddiffyn Cymru rhag toriadau San Steffan hyd yn hyn wedi bod yn rhestr hir o fethiannau llwyr: S4C, Swyddfa'r Trwyddedau Teithio, Sain Tathan ac ati ac ati; nid fy mod i'n beio Llywodraeth glymblaid Llafur/PC yn y Bae am y fethiannau hyn - does gan y Cynulliad dim mo'r grym i wrthsefyll toriadau canolog y ConDems; ond celwydd creulon a thwyllodrus yw honni bod pleidlais i Lafur yn Etholiadau'r Cynulliad mynd i newid y sefyllfa!
Y trydydd peth sydd yn debyg yn y tair ymgyrch yw'r penderfyniad i drin y tri etholiad fel refferendwm canol tymor ar fethiannau Llywodraeth San Steffan. Ymosod ar yr anghenfil tinflewog Torïaidd / Thatcheraidd (gan anghofio bod Llafur wedi parhau i ddilyn polisïau Thatcheraiddd a hyd yn oed wedi clodfori Thatcher yn ystod ei dymor o Lywodraeth Brydeinig ddiweddar) a chysylltu eu gwrthwynebwyr eraill a'r Torïaid.
Mae cysylltu'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r bwystfil yn dacteg amlwg. Mae'r polisi o gysylltu'r SNP hefyd yn gwneud rhywfaint o sens; mae llawer o lwyddiannau llywodraeth leiafrifol yr SNP wedi deillio o gefnogaeth seneddol gan y Blaid Geidwadol (er bod nifer o'i fethiannau i basio mesurau wedi deillio o'r ffaith bod Llafur wedi pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr i'w trechu). Ond mae dilyn yr un trywydd yng Nghymru yn chwerthinllyd. Iawn dydy'r Blaid heb ddweud Na! Na! Nefar i glymblaid gyda'r Ceidwadwyr ond y mae'r rhan fwyaf o'i lefarwyr wedi dweud bod hynny yn hynod annhebygol A phwy mae'r Blaid wedi bod yn bropio fynnu mewn llywodraeth am y pedair blynedd diwethaf?
Mae'n gwbl amlwg nad yw Llafur am gael ymgyrch ar gyfer budd Sir, neu er bydd yr Alban, nac er bydd Cymru. Mae'r ymgyrch Lafur yn un Prydeinig er budd y Blaid Lafur Prydeinig. Diben Llywodraeth Lafur yng Nghymru bydd i adsefydlu Lafur y DU gyfan, nid lywodraethu Cymru er budd Cymru - sefyllfa digon pwdr ynddo'i hunan! Ond os mae pwrpas Llywodraeth Lafur yn y Bae yw adfer rhywfaint o grediniaeth i Lafur Prydeinig, oni fydd yn rheoli Cymru mewn modd sydd yn gweithio - nid at fuddiannau Cymru - ond at ddant y cyn pleidleiswyr Llafur a gollwyd yn Middle England yn 2010?
06/04/2011
Disunited Anti-Welsh Llafur
Dyma boster gan grŵp all-bleidiol yn awgrymu sut i bleidleisio yn dactegol er mwyn sicrhau nad yw Llafur yn cael goruchafiaeth ar wleidyddiaeth Cymru eto eleni. Pam fod copi (dienw) wedi ei ddanfon i FlogMenai ond nid i mi ffor ff... sec?
Pe bawn wedi cael yr e-bost di enw a dderbyniwyd gan FlogMenai, mi fyddwn wedi llyncu'r abwyd ac wedi ei gyhoeddi fel ymgyrch go iawn a oedd yn llawn haeddu ei gefnogi.
Y mae'n gwbl amlwg, bellach, mae bwriad danfon y post at FlogMenai, yn unig, o flogwyr Cymru oedd er mwyn i Cai llyncu'r abwyd a chyhoeddi ei gefnogaeth llwyraf i'r ymgyrch o bleidleisio i'r Ceidwadwyr mewn sawl etholaeth. Diolch byth, fe welodd Cai gwendidau'r ddadl, a'i chondemnio.
Pe bai Cai wedi llyncu'r abwyd mi fyddai'r Blaid Lafur wedi cynhaeafu'r ffaith bod prif blogiwr y Blaid wedi cefnogi'r fath gachu - heb ots dyna oedd y bwriad; hwyrach bod y bwriad yn fwy eithafol byth sef ceisio gorfodi'r Blaid i ddiarddel Cai o'u restr o gefnogwyr blogiawl - neu wneud prif blogiwr Plaid Cymru yn embaras i'r Blaid!
Diolch byth eu bod wedi methu!
Caru neu gasáu BlogMenai, mae ei gyfraniad i fyd blogio yn y Gymraeg yn un enfawr. Mae ymgais y Blaid Lafur i'w danseilio mewn ffordd dan din, yn hytrach na chreu blog Llafur Cymraeg o safon i ddadlau yn ei erbyn yn adrodd cyfrolau am eu hagwedd tuag at yr Iaith Gymraeg!
Ond os ydy adran triciau budron y Blaid Lafur am hysbysu nad oes ganddynt obaith yng Ngorllewin Caerdydd, Gorllewin Caerfyrddin, Caerffili, Glyn Nedd, Gogledd Caerdydd, De Clwyd, Gorllewin Clwyd, Bro Morgannwg, Gwyr, Brycheiniog a Maesyfed, Canol Caerdydd, Gorllewin Casnewydd a Dwyrain Abertawe - pa hawl sydd gyda fi i anghytuno a'u hasesiad?
29/03/2011
Cari On Elecsiwn Cymru
Efo dim ond 3 wythnos i fynd cyn i nifer ohonom bleidleisio lle mae'r bwrlwm etholiadol? Ble mae'r taflenni, y posteri, y cnoc ar y drws , yr alwad ffôn? Pa le mae'r blogiau, y trydar y tudalennau Gweplyfr?
Hyd yn hyn yr wyf wedi derbyn un daflen yn fy annog i bleidleisio i'r Democrat Rhyddfrydol (uniaith Saesneg ar wahân i un paragraff byr sy'n addo cefnogi annibyniaeth S4C - addewid a dorrwyd neithiwr gan Arglwyddi'r Lib Dems); ac yr wyf wedi gweld car UKIP yn mynd heibio fy nhy heb gorn siarad (be ddigwyddodd i'r cyrn etholiadol?)
Rwy'n byw mewn etholaeth lle mae gan dair o'r pum brif blaid gobaith i gipio'r sedd, ond yr unig ddwy sy'n ymgyrchu yw'r ddwy heb obaith mul!
Hurt Botas, sefyllfa sydd a mwy o ffars yn perthyn iddi na ffilm Cari On!
25/03/2011
Wêls Wân Tŵ - Dim Diolch!
Mater o farn yw pa mor onest oedd y Blaid ar y pryd, ond ar ôl etholiad 2007, roedd yna awgrym cryf bod modd creu clymblaid enfys gwrth-Lafur, yn cael ei harwain gan Blaid Cymru. Be sydd wedi newid ers hynny?
Yr ateb syml, wrth gwrs, yw mai'r Blaid Geidwadol, bellach, yn brif blaid, Llywodraeth San Steffan mewn clymblaid a thrydydd lliw'r enfys, sef y Democratiaid Rhyddfrydol. Byddwn yn tybio bod hynny yn rheswm o blaid ail adfer y posibilrwydd o glymblaid enfys! Wedi'r cwbl un o brif ddadleuon yr achos dros Gymru'n un oedd y byddai modd cael consesiynau o San Steffan, yn ogystal â chytundebau yn y Bae, o gynghreirio a phlaid llywodraeth Llundain.
Mae angen symudiadau o San Steffan o hyd ar Gymru os yw datganoli am esblygu, ac ar hyn o bryd y Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr yw'r rhai sy'n gallu cynnig y fath consesiynau, ac y maent y debycach o'u cynnig i Lywodraeth Enfys nag i Gymru'n Un #2!
Mae Ieuan yn cyfiawnhau ymwrthod a ddêl gyda'r Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr trwy ddweud Mae angen fformiwla ariannu deg i Gymru, ac yn sicr nid dyna y mae Fformiwla Barnett yn ei gynnig. Ond pa Gynghrair yn y Cynulliad sydd yn fwyaf tebygol o fynd i'r afael a'r fath achos; cynghrair a'r Blaid Lafur neu gynghrair a phleidiau Llywodraeth San Steffan?
Y gwir yw bod syniad yr Enfys wedi ei drechu yn 2007 gan chwith eithafol y Blaid, nad oeddent byth bythoedd am weld Plaid Cymru yn clymbleidio a Bwystfil Tinflewog y Blaid Ceidwadol o dan unrhyw amgylchiadau, a'r un bobl sydd y tu cefn i ddatganiad Ieuan Wyn nad oes gobaith i'r Blaid cytuno ag Enfys eto.
I mi'r Fwystfil Tinflewog yng Ngwleidyddiaeth Cymru, casawyr pob dim sydd yn dda yn ein traddodiad gwerinol Cymreig a Chymraeg, yw'r Blaid Lafur.
Mae Cymru wedi dioddef o dan ganrif o hegemoni Llafur a'i chasineb tuag at ein hiaith a'n cenedl, mi fyddwn wrth fy modd pe bai ei gafael unbenaethol ar ein gwlad yn cael ei thorri unwaith, os nid am fyth.
Rwy'n casáu’r Blaid Lafur a chas perffaith o herwydd bod y Blaid Lafur wedi dangos cas perffaith tuag at hunaniaeth Gymreig a'r Iaith Gymraeg am dros ganrif, ac y mae'n parhau i'w wneud.
Os mae bwriad Plaid Cymru yw ymladd yr etholiad ar bolisi o Wêls Wân Tŵ - a llyfu tin y fwystfil Llafur - bydd fy mhleidlais i yn y bin yn hytrach nag yn y post.
27/09/2010
Wesleaid, Annibynwyr a Llafurwyr!
Mae nifer o byst ar y blogiau gwleidyddol yn ymarfer yr un fath o broc yn erbyn y Blaid Lafur heddiw, maent yn edrych ar sawl papur pleidlais a danfonwyd i bob etholaeth ac yn dwt twtian am gyn lleied a danfonwyd i ambell le. Gweler enghreifftiau o'r fath bost gan Better Nation am faint Llafur yn yr Alban a physt gan Syniadau, BlogMenai a Phlaid Wrecsam am gyn lleied o bobl sydd yn aelodau o'r Blaid Lafur yng Nghymru.
O ran fy mharth i o'r byd rwy'n gweld mae dim ond 168 o aelodau sydd gan Lafur yn Aberconwy. O gofio bod yr ardal yn cael ei gynrychioli gan AS Llafur dim ond 4 mis yn ôl mae hynny'n edrych yn andros o isel. Ond heb wybod sawl aelod sydd o'r pleidiau eraill mae'r wybodaeth yn ddiwerth. A lwyddodd y Ceidwadwyr i gipio'r sedd trwy ddenu mwy o aelodau newydd? Be di'r neges os oes gan Plaid Cymru deng waith mwy o aelodau yn Aberconwy, ond eto wedi ei drechu gan Lafur?
Yn y bôn mae'r pyst am faint aelodaeth y Blaid Lafur yn ddiwerth, oni bai bod rhifau aelodaeth y pleidiau eraill hefyd ar gael er mwyn cymharu cryfder aelodaeth ac er mwyn cymharu effaith cryfder aelodaeth ar y canlyniad terfynol.
Nid bod rhifau'n bwysig. Mae un Wesla yn werth mwy na chan Annibyn, wedi'r cwbl!
21/04/2010
Na! – Nid ydwyf yn sefyll dros y Blaid Lafur
Mae'r ffyliaid yn credu fy mod yn ceisio cuddio fy hunaniaeth neu yn cywilyddio, rhywsut, o gael fy adnabod fel yr hwn ydwyf. Y gwir yw fy mod wedi defnyddio'r enw Alwyn ap Huw yn gyhoeddus ers dros bymtheng mlynedd ar hugain o herwydd bod yna Alwyn Humphreys, llawer mwy cyhoeddus na fi, yn y byd Cymraeg a bod defnyddio'r enw yn creu dryswch o ran adnabyddiaeth yn hytrach nag hunaniaeth.
Ers i Lafur cyhoeddi enw eu hymgeisydd seneddol yn Nwyfor Meirionnydd yr wyf wedi cael llond bol o dderbyn e-byst, llythyrau trwy'r post, galwadau ffôn a sylwadau ar y stryd yn fy llongyfarch / fy nghondemnio / fy holi am sefyll yn enw Llafur yn Nwyfor Meirionnydd. Rhai gan aelodau'r teulu a chyfeillion agos, pobl dylent wybod yn well.
Er mwyn cael gwared ag unrhyw ddryswch hoffwn nodi mae NID FI yw'r Alwyn Humphreys ymgeisydd Llafur Dwyfor Meirionnydd.
Rwy'n mawr obeithio na fydd neb yn rhoi pleidlais i Alwyn Humphreys oherwydd eu bod yn credu mai myfi yw efe. Rwy'n ansicr sut byddwyf yn teimlo o glywed bod yr Alwyn Humphreys arall wedi colli pleidleisiau oherwydd y dryswch :-(
15/04/2010
Y Ddadl Mawr - Minlliw ar Foch
Os oes rhaid dewis fuddugwr allan o'r tri mi fuaswn yn dewis Nick Clegg. Nid oherwydd bod o wedi siarad yn well na'r ddau arall, ond oherwydd nad oedd o'n gwisgo gymaint o golur a'r ddau arall - roedd o'n anodd gwylio Brown a Chameron yn siarad heb i'w minlliw amlwg tynnu sylw i ffwrdd o'r hyn yr oeddynt yn dweud. Be ddwedodd Obama am roi minlliw ar fochyn?
Dyma farn Alex Salmond am y sioe:
09/04/2010
Y Ceffyl Blaen
13/02/2010
Dyma Ronnie
http://ronniehughes.wordpress.com/
A mae Guto Bebb wedi symud ei berlau o ddoethineb i:
http://aberconwyconservatives.co.uk/category/blogs/
15/01/2010
Darogan Etholiad 2010 G
Gorllewin Abertawe:
Dyma sedd y mae rhai yn troelli fel un i'r Democratiaid Rhyddfrydol ei gipio. Rwy’n methu gweld y rhesymeg. Mae'n un o'r seddau lle mae llawer yn sefyll ond dim ond dwy blaid sydd yn bodoli, yn Aberconwy y dewis yw'r Blaid Geidwadol a'r Blaid Arall. Yng Ngorllewin Abertawe'r dewis yw'r Blaid Lafur a'r blaid sy ddim yn Llafur. O ran ymgeiswyr y Blaid Arall rwy'n teimlo bod pobl yn flin efo'r awdurdod lleol Rhyddfrydol yn ogystal â'r llywodraethau Llafur. Rene Kinzett, bydd arweinydd y r wrthblaid yng Ngorllewin Abertawe, ond dim digon o arweinydd i gipio'r sedd.
Gorllewin Caerdydd:
Hen Sedd Rhodri Morgan, cyn iddo droi o San Steffan i'r Bae, teg ei alw'n sedd gadarn Kevin Brennan bellach, am o leiaf un tymor Seneddol arall.
Gogledd Caerdydd
Sedd Mrs Rhodri Morgan. Ond sedd ddifyr o ran hanes y Blaid Lafur yng Nghymru. Dyma'r fath o sedd Middle England a dargedwyd gan Tony Blair er mwyn sicrhau buddigoliaeth New Labour ym 1997. A Mrs Morgan fu'n fuddugol o'r herwydd. Un o'r rhesymau pam nad fu'r dŵr coch croyw rhwng Caerdydd a Llundain mor groyw, ag y gallasai bod, mi dybiaf. Bydd gan Rhods gymar i fwynhau ei ymddeoliad yn y rhandir a'r Mwnt dyfod Mis Mai, mi dybiaf. Jonathan Evans AS bydd dyn Gogs Caerdydd!
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
Dyma sedd mae'r Ceidwadwyr yn credu eu bod wedi eu prynu. Mae arian llwgr werth miloedd a miloedd o bunnoedd wedi eu gwario yma er mwyn sicrhau buddugoliaeth i'r Ceidwadwyr, a hynny'n buddugoliaeth nad yw budd yr etholaeth yn ymwneud dim a hi.
Mi dybiaf fod y llwgr wedi prynu’r etholaeth ac mae buddugoliaeth ffiaidd i'r Ceidwadwyr bydd hanes yr etholaeth.
Erfyniaf ar bawb sy'n parchu democratiaeth boed yn Ceidwadwyr Cymreig, yn Llafurwyr, Yn Rhyddfrydwyr Democrataidd neu yn Genedlaetholwyr sydd wedi cael llond bol a'r Blaid i bleidleisio yng Nghaerfyrddin a De Phenfro a phleidleisio i John Dixon, er mwyn profi nad yw etholaethau Cymru ar werth i'r bidiwr uchaf a ffieiddiaf.
Gorllewin Casnewydd
Sedd yr hen gyfaill Paul Flynn. Caru o neu ei gasáu o , mae Paul wedi rhoi lliw i wleidyddiaeth Cymru mewn nifer o ffurf. Mae'r dyn yn enigma. Yn perthyn i draddodiad y Gymru Wyddelig wrth Gymreig megis Touhig a Murphy, mae Paul yn siaradwr Cymraeg rhugl, ond dydy ei iaithgarwch ddim yn ymestyn at gariad i'r Fro Gymraeg gwledig! Mae o'n casáu amaethwyr a'r cas perffaith. Pe bai'r ffermwyr yn cyfnewid cae o ŷd am gae o dail mwg drwg, bydda mwy o gydymdeimlad ganddo iddynt o bosib! Mi fydd yn golled aruthrol i'r sin gwleidyddol Cymreig gweld Paul yn colli ei sedd. Er gwaethaf gobeithion y Ceidwadwyr, mae'n annhebygol o ddigwydd.
Gorllewin Clwyd
Er ei fod o'n ymddangos yn un agos iawn ar bapur, does dim cystadleuaeth yma. Yn 2005 fe gipiodd David Jones y sedd o fewn drwch blewyn gan Lafur. Pe bai'r Blaid Lafur yn ymladd i gipio seddi, dyma un fydda o fewn ei olygon. Ond amddiffyn yr hyn sydd ar ôl bydd hanes Llafur yn etholiad 2010, prin bydd eu diddordeb yn llefydd megis Gorllewin Clwyd. Hir oes i Blog David Jones MP, amdani!
Gwyr
Sedd od ar y diawl. Mi ddylid bod yn gadarnle i'r Ceidwadwyr, ond Llafur yw, a Llafur bydd ar ôl yr etholiad eleni hefyd!
07/01/2010
Darogan Etholiad 2010 D
De Caerdydd a Phenarth
Bydd Alun Michael yn dal y sedd yma'n gyffyrddus, ond dyn a ŵyr pam!
De Clwyd
Sedd anodd ei phroffwydo. Mae mwyafrif Llafur yn eithaf iach dros y Ceidwadwyr, sef plaid yr ail safle yn 2005, bron i ugain y cant. Ond mae'r aelod cyfredol yn sefyll lawr eleni, ac mae'r aelod cyfredol yn dipyn o dori efo d bach. Er ei bod yn hogan o'r Rhos yn wreiddiol, cynghorydd yn Sowthwark Llundain yw olynydd Martin Jones, tra bod yr ymgeisydd Ceidwadol yn dechrau ar yrfa fel ymgeisydd parhaus. Llafur i'w gadw o drwch y blewyn, ond byddwn i ddim yn tagu ar y corn fflecs o glywed bod fy mhroffwydoliaeth yn anghywir a bod y Ceidwadwyr wedi cael lwc yma.
Delyn
Gellir ailadrodd yr hyn a ddywedais am Dde Clwyd am Ddelyn hefyd, job a hanner i'r Ceidwadwyr curo, mi ddylai bod yn y bag i Lafur, ond ar noson lwcus fe all droi'n annhebygol o lâs
Dwyfor Meirionnydd
Y Blaid i enill yma efo'r canran uchaf o bleidlais fuddugol trwy wledydd Prydain, o bosib. Ond gydag etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau Ewrop yn rhannol gyfrannol, mae'n bwysig i'r Blaid i gosi'r etholwyr yma i bleidleisio er mwyn eu cadw yn frwdfrydig ar gyfer yr etholiadau cyfrannol.
Dwyrain Abertawe
Etholaeth mae'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn sniffian, ac o gael canlyniad da eleni, mae gan y RhDs gobaith yn etholiad y Cynulliad 2011. Ond yn y bag i Lafur ar gyfer San Steffan eleni mi dybiaf
Dwyrain Caerfyrddin & Dinefwr
Fel Ceredigion 2005, un i'r Blaid ei golli, yn hytrach nag un i bleidiau eraill eu trechu. Cyn belled a bod Pleidwyr yr etholaeth ddim yn llaesu dwylo ac yn gwario gormod o egni yn cefnogi eu cymdogion yn y tair sedd gyffiniol sydd yn obeithiol i'r Blaid, mi ddylai bod yn saff i Blaid Cymru
Dwyrain Casnewydd
Ar bapur yn y bag i Lafur, bu'r RhDs yn curo ar y drws yn etholiadau'r Cynulliad. Er bod mynydd iddynt eu dringo rwy'n credu bod modd i'r Rhyddfrydwyr Democrataidd curo yma. Mae'n sedd lle mae'r bobl leol wedi cael eu trin fel ŷd i'r felin gan Lafur. Cyn Dori yn cael ei barashiwtio i mewn i'r sedd ym 1997 ac ar ôl iddo ymddiswyddo i'r Arglwyddi, y Blair Babe Jesica Morden yn cael ei pharashiwtio i mewn i'r sedd i'w olynu. Rhwng y ffaith bod Llafur ar ei lawr yn gyffredinol a'r ffaith bod Llafur mewn twll o'i wneuthuriad ei hunan yn Nwyrain Casnewydd, rwyf am roi'r etholaeth hon yn nwylo'r Rhyddfrydwyr Democrataidd yn 2010.
Dyffryn Clwyd
Un arall sy'n anodd ei ddarogan. Canlyniadau'r Cynulliad a chanlyniadau'r cyngor lleol yn awgrymu'n gryf ei fod o fewn gafael y Ceidwadwyr. Ond mae Chris Ruane yn ddyn lleol poblogaidd ac yn aelod hynod weithgar yn yr etholaeth. Digon i gadw ei sedd ar bleidlais bersonol, o drwch y blewyn, mi gredaf. Llafur i'w gadw efo mwyafrif o lai na mil.