Pob hyn a hyn byddwyf yn cael fy mhlagio gan drolied ar fy mlog Saesneg. Pobl sydd yn credu eu bod wedi canfod rhyw gyfrinach fawr o wybod mae Humphreys yw fy enw teuluol.
Mae'r ffyliaid yn credu fy mod yn ceisio cuddio fy hunaniaeth neu yn cywilyddio, rhywsut, o gael fy adnabod fel yr hwn ydwyf. Y gwir yw fy mod wedi defnyddio'r enw Alwyn ap Huw yn gyhoeddus ers dros bymtheng mlynedd ar hugain o herwydd bod yna Alwyn Humphreys, llawer mwy cyhoeddus na fi, yn y byd Cymraeg a bod defnyddio'r enw yn creu dryswch o ran adnabyddiaeth yn hytrach nag hunaniaeth.
Ers i Lafur cyhoeddi enw eu hymgeisydd seneddol yn Nwyfor Meirionnydd yr wyf wedi cael llond bol o dderbyn e-byst, llythyrau trwy'r post, galwadau ff么n a sylwadau ar y stryd yn fy llongyfarch / fy nghondemnio / fy holi am sefyll yn enw Llafur yn Nwyfor Meirionnydd. Rhai gan aelodau'r teulu a chyfeillion agos, pobl dylent wybod yn well.
Er mwyn cael gwared ag unrhyw ddryswch hoffwn nodi mae NID FI yw'r Alwyn Humphreys ymgeisydd Llafur Dwyfor Meirionnydd.
Rwy'n mawr obeithio na fydd neb yn rhoi pleidlais i Alwyn Humphreys oherwydd eu bod yn credu mai myfi yw efe. Rwy'n ansicr sut byddwyf yn teimlo o glywed bod yr Alwyn Humphreys arall wedi colli pleidleisiau oherwydd y dryswch :-(