Un o'r obeithion (ac fel un sy'n casáu'r Blaid Lafur, un o'r pryderon i mi) oedd bod ymgyrch Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi bywiogi'r rhai nad oeddent erioed wedi pleidleisio cynt i gefnogi Llafur. Fe lenwodd neuaddau yn Lloegr i wrando ar wleidydd am y tro cyntaf ers dyddiau neuaddau llawn Lloyd Gerorge.
Cynigiodd JC weledigaeth o wrthwynebiad croch i anghyfiawnder byddai'n deffro'r etholwyr lu sydd wedi ymatal rhag pleidleisio cyhyd o'u trwmgwsg.
Yn etholiad 2015, bu i fwy o'r etholfraint ymatal rhag pleidleisio (33%), na phleidleisiodd dros y Llywodraeth Ceidwadol (24%), roedd ymgyrch Corbyn yn bygwth ennill canran gref o'r ymatalwyr i achos Llafur.
Ond ers dewis Corbyn yn arweinydd mae'r Blaid Lafur Seneddol wedi penderfynu ymatal ar achos toriadau lles, ymatal ar achos Trident ac ymatal ar gant ac un o achosion eraill. Yn hytrach na deffro'r etholfraint mae'r Blaid Lafur, o dan arweiniad JC, wedi penderfynu cyd cysgu a hwy ac wedi cryfhau'r agwedd 's dim pwynt pleidleisio, gwaeth ymatal.
Rwy'n deall ymateb gwrthblaid sy'n gwrthwynebu anghyfiawnder yn groch, er gwaetha'r ffaith ei fod yn gwybod bod y frwydr yn ofer, rwy'n deall wrthblaid sy'n gorfod dal ei drwyn a chefnogi Llywodraeth er lles y Wlad, rwy'n methu deall wrthblaid sy'n rhy ofnus i wneud y naill na'r llall; ymatal ar ôl ymatal bu hanes Llafur ers yr etholiad; rhy llwfr i ymosod, rhy llwfr i ildio, sy'n awgrymu i mi bod Llafur yn rhy llwfr i benderfynu dim, a gan hynny yn rhy llwfr i reoli!
Mae Llafur wedi ildio nifer o gefnogwr oedd yn gweld "pwynt" pleidleisio am y tro cyntaf yn ôl i achos " be di'r ots". Cyn iddynt dilyn Llafur yn ôl i'r twll du o ymatal pleidlais, hoffwn awgrymu iddynt nad ydy Leanne Wood yn un am ildio, dydy hi ddim yn un i ymatal nac i sefyll lawr mewn brwydr (rwy'n gwybod o brofiad, mae'r creithiau yna o hyd), ac os ydych am weld lais cryf dros y difreintiedig, peidiwch a mynd yn ôl i feddwl bod pleidlais yn ddiwerth, pleidleisiwch Plaid Cymru, dros Gymru a Chyfiawnder!
No comments:
Post a Comment