Un o'r pethau sydd wedi eu mewnforio i Ynys y Cedyrn o UDA, sydd yn mynd dan fy nghroen, yw'r dymuniad i asesu Llywodraeth ar ôl 100 niwrnod o lywodraeth. Rwy'n methu deall y rhesymeg sydd yn honni bod y can niwrnod cyntaf am fod yn adlewyrchiad o'r hyn sydd i ddod (yn achos Llywodraeth Cymru) yn ystod y 1726 o ddyddiau sy'n weddill o'r cyfnod o lywodraeth.
Os yw'r Sgotsmon yn gywir, mae llywodraeth newydd Alex Salmond bellach yn dathlu ei ganfed diwrnod o'i ail gyfnod o lywodraeth. Gan fod Mr Salmond a Carwyn Jones wedi sefyll etholiad ar yr un dwthwn, mae'n debyg bod Mr Jones hefyd yn codi gwydraid i ddathlu'r un garreg filltir.
Be mae Carwyn wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod?
Ychydig ar y diawl yn ôl ambell i sylwebydd! Amen a Haleliwia am hynny medda fi!
Drwg llywodraethau sydd yn bwrw'r tir gan redeg (o gyfieithu'r ystrydeb hyll) yw deddfu ar frys ac yn ddiystyrlon, heb ddwys ystyriaeth, jest am greu'r argraff o newid cyfeiriad; boed angen newid cyfeiriad neu beidio.
Un o'r pethau a oedd yn fy mhoeni am refferendwm mis Mawrth oedd bod y pwerau ychwanegol mor gyfyng, bod Llywodraeth newydd y Cynulliad (o ba bynnag liw) am ruthro i'w ddefnyddio er mwyn eu defnyddio jest er mwyn profi hyblygrwydd ei gyhyrau newydd yn hytrach na'u defnyddio er fydd y genedl. Rwy'n hynod falch nad yw Carwyn Jones wedi syrthio i'r fath drap.
Felly llongyfarchiadau i Carwyn am ddefnyddio ei 100 niwrnod cyntaf yn ddwys ystyried yn hytrach na'u hafradu ar ruthro i ddeddfau di angen er mwyn creu ffug argraff o brysurdeb llywodraethol.
No comments:
Post a Comment