Showing posts with label Brenhiniaeth. Show all posts
Showing posts with label Brenhiniaeth. Show all posts

02/05/2015

Picl Ed Miliband a Mrs Windsor


Mae datganiadau Ed Milliband o alw "blỳff" y pleidiau cenedlaethol trwy ddweud ei fod am gyflwyno Araith Brenhinol Llafur di gyfaddawd a herio'r pleidiau llai i'w drechu yn nonsens!

Er mwyn creu'r cam argraff ei bod hi'n wleidyddol di duedd mae Araith y Frenhines yn rhestr ffug o bethau y mae hi'n gofyn i'w llywodraeth i wneud.

Dyma broblem fwyaf y Blaid Lafur, bydd y Frenhines ddim yn gwneud araith oni bai ei bod hi'n gant y cant yn sicr bydd yr araith yn cael ei basio, byddai gwrthod pasio Araith Brenhinol yn her i'r Frenhiniaeth yn hytrach na her i Lafur a bydd y Frenhiniaeth dim yn fodlon cael ei herio er mwyn chware rhan yn gemau Llafur.

Mae bygythiad Llafur o herio Plaid / SNP i beidio a chefnogi araith frenhinol, sy'n cael ei ysgrifennu gan Lafur, yn dwt lol botas maip! Os nad ydy Llafur yn GOFYN i eraill am gefnogaeth a chael sicrwydd o'r gefnogaeth honno bydd Ei Mawrhydi ddim yn yngan gair o araith arfaethedig Llafur, bydd dim cyfle i Lafur "herio'r" pleidiau llai i drechu ei gynigion!

Yr unig ddewis bydd gan Lafur, ac eithrio i ofyn yn barchus i bleidiau llai i roi cefnogaeth iddi am bris, yw peidio a chyflwyno Araith Frenhinol gan roi sicrwydd i Mrs Windsor na fydd yn pleidleisio yn erbyn araith Ceidwadol (trwy ymatal).

Yn hytrach na galw "blỳff" Plaid a'r SNP a'r pleidiau eraill mae Ed druan wedi creu ei bicl ei hun!

08/06/2011

Ymddygiad Amharchus gan Aelodau Cynulliad

Fe wnaeth nifer o Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru dangos diffyg parch arswydus yn ystod ymweliad Brenhines Lloegr i'r Senedd ddoe.

Cafodd y mwyafrif helaeth o'r aelodau eu hethol wedi sefyll etholiad fel Sosialwyr, Cenedlaetholwyr neu Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Sosialwyr i fod i gredu bod pawb yn gyfartal, nad oes bonedd a gwrêng, nad yw un unigolyn yn well nag un arall oherwydd damwain genedigaeth. Mae Cenedlaetholwyr i fod i gredu bod Cymru yn genedl, bod sofraniaeth yn dod o bobl Cymru yn hytrach nag oddi wrth Teyrn gwlad arall. Mae democratiaid i fod i gredu bod pennaeth gwlad yn cael ei ethol gan y bobl yn hytrach na chael ei roi inni "Trwy Ras Duw" ac etifeddfraint. Trwy sefyll etholiad ar y fath tocynnau does dim byd sydd yn rhesymol sy’n awgrymu dylai'r buddugol yn yr etholiadau cow-towio i Frenhines wedi eu hethol, ond dewisodd 38 o'r 45 ohonynt wneud hynny ddoe.

Roedd ymddygiad 38 o Aelodau'r Cynulliad a benderfynodd mynychu Agoriad Brenhinol y Senedd ddoe yn hynod amharchus; yn amharchu'r etholwyr a'u hetholasant fel Sosialwyr, Cenedlaetholwyr a Democratiaid, yn amharchu egwyddorion Sosialaeth, Cenedlaetholdeb a Democratiaeth ond yn waeth byth yn dangos diffyg hunan barch, trwy wneud rhywbeth nad oeddent yn dymuno gwneud er mwyn y drefn!

Diolch byth am y pump a ddangosodd dipyn bach o barch i'w etholwyr, eu hegwyddorion a'u hunain.

06/06/2008

Dolen Frenhinol Ddiangen

Mae Dolen Cymru yn elusen wych. Fe'i sefydlwyd tua chwarter canrif yn ôl gan y cenedlaetholwr Dr Carl Clows i brofi bod modd i wlad fach fel Cymru cael effaith werth chweil ar lwyfan y byd trwy efeillio Cymru a gwlad o faint cyffelyb yn y byd sy'n datblygu.

Does dim ddwywaith bod y ddwy wlad yn y ddolen wedi cael bendith o'r cyswllt.

Un o'r bendithion mae o wedi rhoi i Gymru yw ei fod yn “achos cenedlaethol” sydd wedi uno'r genedl. Mae'n cael ei weld fel achos gwerth chweil gan y de a'r chwith, gan genedlaetholwyr a gan unoliaethwyr. Mae Merched y Wawr a'r WI, yr Urdd a'r Sgowtiaid, cymunedau gweledig a chymunedau trefol, oll wedi dangos brwdfrydedd cyffelyb dros yr achos.

Pam, felly, bod yr elusen wedi dewis dryllio'r undod yma trwy wahodd y Tywysog Harri i fod yn noddwr i'r elusen? Heb y nawdd brenhinol doedd yr achos ddim yn un gwrth frenhinol, roedd yn elusen gyffredin, fel nifer o rhai cyffelyb.

Efo'r nawdd newydd sy'n cael ei ddathlu heddiw mae Dolen Cymru wedi troi o achos sy'n uno'r genedl i un sy'n gwahanu’r genedl.

Beth bynnag eich barn am y frenhiniaeth mae'n rhaid derbyn ei fod yn achos sy'n rhannu yn hytrach nag uno Cymru. Mae rhai yn caru'r holl rwysg ac yn caru'r sefydliad mae eraill yn ei chasáu a chas perffaith.

Beth bynnag fo'r achos o blaid neu yn erbyn y frenhiniaeth, be oedd diben tynnu'r fath dadl i mewn i Ddolen Cymru?