Mae Dolen Cymru yn elusen wych. Fe'i sefydlwyd tua chwarter canrif yn ôl gan y cenedlaetholwr Dr Carl Clows i brofi bod modd i wlad fach fel Cymru cael effaith werth chweil ar lwyfan y byd trwy efeillio Cymru a gwlad o faint cyffelyb yn y byd sy'n datblygu.
Does dim ddwywaith bod y ddwy wlad yn y ddolen wedi cael bendith o'r cyswllt.
Un o'r bendithion mae o wedi rhoi i Gymru yw ei fod yn “achos cenedlaethol” sydd wedi uno'r genedl. Mae'n cael ei weld fel achos gwerth chweil gan y de a'r chwith, gan genedlaetholwyr a gan unoliaethwyr. Mae Merched y Wawr a'r WI, yr Urdd a'r Sgowtiaid, cymunedau gweledig a chymunedau trefol, oll wedi dangos brwdfrydedd cyffelyb dros yr achos.
Pam, felly, bod yr elusen wedi dewis dryllio'r undod yma trwy wahodd y Tywysog Harri i fod yn noddwr i'r elusen? Heb y nawdd brenhinol doedd yr achos ddim yn un gwrth frenhinol, roedd yn elusen gyffredin, fel nifer o rhai cyffelyb.
Efo'r nawdd newydd sy'n cael ei ddathlu heddiw mae Dolen Cymru wedi troi o achos sy'n uno'r genedl i un sy'n gwahanu’r genedl.
Beth bynnag eich barn am y frenhiniaeth mae'n rhaid derbyn ei fod yn achos sy'n rhannu yn hytrach nag uno Cymru. Mae rhai yn caru'r holl rwysg ac yn caru'r sefydliad mae eraill yn ei chasáu a chas perffaith.
Beth bynnag fo'r achos o blaid neu yn erbyn y frenhiniaeth, be oedd diben tynnu'r fath dadl i mewn i Ddolen Cymru?
Heb y nawdd brenhinol doedd yr achos ddim yn un gwrth frenhinol, roedd yn elusen gyffredin, fel nifer o rhai cyffelyb.
ReplyDeleteEfo'r nawdd newydd sy'n cael ei ddathlu heddiw mae Dolen Cymru wedi troi o achos sy'n uno'r genedl i un sy'n gwahanu’r genedl.
Cytuno 100% gyda hyn, mae'nm wir bechod bod sawl elusen neu sefydliad (neu efallai rhai unigolion o fewn iddynt) yn credu bod caelc ysylltiad brenhinol yn rhoi status gwell iddynt, tra mae mewn gwririonedd yn dieithrio nifer fawr o gefnogwyr presenol a darpar gefnogwyr, boed yn wladgarwyr, genedlaetholwyr neu hyd yn oed weriniaethwyr prydeinig.