Braf yw gweld Elfyn Llwyd AS yn ymuno a byd y blogwyr. Mae'n debyg mae blog dros dro bydd gan yr Aelod dros Ddwyfor Meirion, tra pery ei ymgeisyddiaeth dros lywyddiaeth Plaid Cymru.
Siom ta waeth yw nad oes modd gosod sylwadau ar y blog. Rwy'n dallt y broblem o sylwadau hurt gallasai blog o'r fath ei denu ac yn deall pam na fyddai Elfyn yn dymuno gadael i sylwadau o'r fath amharu ar ei ymgyrch. Ond heb y gallu i roi sylw does dim modd i gefnogwyr llawr gwlad mynegi eu cefnogaeth a does dim modd i'r aelodau ansicr gofyn cwestiynau dilys i'r ymgeisydd..
Chwilia am yr opsiwn gwirio sylwadau ar dy ddasfwrdd, Elfyn, os wyt am i'r flog bod yn ffordd i bontio efo aelodau cyffredin y Blaid!
Dwi ddim yn deall y post yma, maen posib gadael sylwadau (ond yn wir gyda 'Moderation Enabled').
ReplyDeleteTrio eto http://etholwnelfyn.blogspot.com/
Doedd dim modd gadael sylwadau pan ysgrifenwyd y post. Rwy'n falch o weld bod Elfyn wedi newid y gosodiadau bellach.
ReplyDelete