Wel dyna awr a hanner o fy mywyd na chaf i fyth yn 么l, am wastraff llwyr o amser. Roedd y rhaglen yn fy atgoffa o'r darllediadau gwleidyddol a oedd yn cael eu dangos yn y 70au gydag arweinydd plaid yn grwnian yn ddiflas i mewn i gamera.
Os oes rhaid dewis fuddugwr allan o'r tri mi fuaswn yn dewis Nick Clegg. Nid oherwydd bod o wedi siarad yn well na'r ddau arall, ond oherwydd nad oedd o'n gwisgo gymaint o golur a'r ddau arall - roedd o'n anodd gwylio Brown a Chameron yn siarad heb i'w minlliw amlwg tynnu sylw i ffwrdd o'r hyn yr oeddynt yn dweud. Be ddwedodd Obama am roi minlliw ar fochyn?
Dyma farn Alex Salmond am y sioe:
No comments:
Post a Comment