Mae Guto Bebb yn hogyn annwyl a ffein.
Pan fydd o'n curo ar ddrysau pobl ym Mhenmachno, Betws a Chapel Curig bydd pobl barchus y plwyfi hynny yn ei drin gyda pharch ac yn ymddwyn yn groesawgar tuag ato gan ei fod yn hogyn mor annwyl a ffein.
Prin eu bod am ei gyfarch efo dos o 'ma'r baw isa'r domen, byddwn i byth yn pleidleisio i ti hyd yn oed pe bai Satan ei hun yn ymgiprys yn dy erbyn yn enw Plaid Cymru / Llafur / Rhyddfrydwyr. Bydda bobl cefn gwlad byth yn dweud y fath beth. Cafodd Guto'r ymateb croesawgar parchus disgwyliedig i bob ymgeisydd.
Y drwg ydy eu bod yn ymddwyn yr un mor barchus tuag at yr ymgeiswyr eraill hefyd. Mae Ronnie a Mike a Phil wedi derbyn ymatebion yr un mor wresog yn yr un pentrefi ac y mae Guto wedi ei dderbyn.
Roedd Guto yn dal i wisgo trywsus cwta pan es i ati i ganfasio am y tro cyntaf. Roedd yr ymateb a gefais mor barchus, mor wresog, mor gefnogol ag imi gredu yn ddiamheuaeth bod fy ymgeisydd am ennill gyda mwyafrif mawr. Cefais fy siomi, fe ddaeth yn olaf. Ac wedi canfasio mewn etholiadau ac isetholiadau ar bob lefel o lywodraeth yr wyf wedi cael fy siomi mwy o weithiau nac ydwyf wedi cael fy mhlesio o bell ffordd.
Y gwir yw bod pobl yn gelwyddog. Nid yn gelwyddog cas ond yn gelwyddog parchus. Yn yr un modd ac mae dyn yn ymateb i wraig sydd yn gofyn ydy fy nhin yn edrych yn fawr yn hon? Yn dweud Na chariad! O herwydd y bydda ddweud Fel mae'n digwydd mae dy din yn edrych fel cefn bws yn beth hynod wirion i ddweud.
Hwyrach bydd Ysbyty Ifan yn rhoi cefnogaeth 100% i'r Ceidwadwyr eleni, hwyrach bod 100% o bobl plwy' Penmachno yn credu bod gan Guto tin fach bert. Ond peidied a chyfrif arni cyn Mai 7fed.
No comments:
Post a Comment