Yr wyf wedi bod yn esgeulus efo fy narogan, ac wedi ei adael ar ei hanner, er gwaetha'r ffaith fy mod wedi addo i Blaid Wrecsam y byddwn yn sicr yn cyrraedd Wrecsam cyn dyddiad yr etholiad. Gwell ail afael ar yr ymdrech trwy edrych ar sedd Wrecsam - er mwyn cadw addewid.
Mae gennyf lyfr yn rhywle yn y tŷ 'ma sy'n rhoi canlyniadau etholiadau Cymru o 1832 hyd at ddyddiad ei gyhoeddiad ar ddechrau'r 1990au. Er chwilio a chwalu rwy'n methu yn fy myw a chael hyd iddi.
Mae hyn yn siom, oherwydd bod gennyf ryw brith gof bod Wrecsam yn y 40au y 50au a dechrau 60au yr ugeinfed ganrif (pan nad oedd Plaid Cymru yn wneud yn hynnod o dda mewn unrhyw etholaeth) ymysg canlyniadau gorau Plaid Cymru, yn enill deg i bymtheg y cant o'r bleidlais yn yr etholaeth pan nad oedd y Blaid yn cael prin 5% trwy Gymru gyfan. A syniad bod Wrecsam wedi dychwelyd mwy o bleidleisiau mewn ambell i flwyddyn na Sir Gaernarfon, Meirion neu Sir Gaerfyrddin.
Yn etholiad 2005, dim ond o drwch y blewyn cadwyd ernes ymgeisydd Wrecsam.
Cyn i Dennis Balsom creu ei theori Cymru’n dri, fe wnaeth y Blaid dechrau gweithredu'r theori gan ganolbwyntio ar y Gymru Gymraeg a'r Cymoedd a chan anwybyddu llefydd ar y ffin, megis Wrecsam.
Mae Cymru Wrecsam yn gallu bod yn llawer mwy balch o'u Cymreictod na Chymru Caernarfon, gan eu bod yn llawer mwy ymwybodol o'r bygythiad i'w Cymreictod. Camgymeriad oedd i'r Blaid anwybyddu egin cenedlaetholdeb Wrecsam yn y 1970au.
Mae gan y Ceidwadwyr siawns prin o gipio'r sedd a'r Democratiaid Rhyddfrydol siawns prinnach. Fy narogan yw y bydd Llafur yn dal ei afael.
Ond dyma sedd lle na ddylai’r un cenedlaetholwr cael ei demtio i bleidleisio yn dactegol. O'i hadeiladu yn ôl i'w hen ogoniant, trwy gynyddu pleidlais Plaid Cymru a chynyddu dylanwad y Blaid, fe all Wrecsam droi yn Islwyn Etholiad Cynulliad 2018.
Pob hwyl i Arfon yn yr ymgyrch o adeiladu dyfodol gwell i Wrecsam.
A thithau wedi colli dy lyfr efallai y bydd gynno chdi ddiddordeb yn y ddolen ganlynol:
ReplyDeletehttp://www.politicsresources.net/area/uk/edates.htm
Cystadlwyd Etholaeth Wrecsam gyntaf gan y Blaid yn 1950 gan Gerain Bowen a cafodd 1.7% o'r bleidlais. Elystan Morgan yn Is etholiad 1955 yn cael 11.3%. Elystan eto yn cael 10.3% yn Etholiad Gyffredinol 1955. Cafodd Elystan 6,500 neu 12.2% o'r bleidlais yn 1959. Yn 1964 y diweddar J.R. Thomas oedd yr ymgeisydd a cafodd ynte 8.9% on erbyn 1966 roedd pleidlais y Blaid i lawr i 2200 neu 4.5% a fela buodd hi wedyn.
ReplyDeleteDiolch am y cyfarchion.