Mae croeso i unrhyw un gwneud sylwadau ar flog Yr Hen Rech Flin. Oni bai eu bod yn enllibus neu yn groes i gyfraith bydd y sylwadau yn sefyll. Os ydynt yn dangos fy mod wedi gwneud camgymeriad yn fy sylwadau, os ydynt yn fy nghyhuddo o fod yn wirion yn fy asesiad o sefyllfa wleidyddol, os ydynt yn honni y dylwn wedi rhoi mwy o ddŵr yn y chwisgi cyn dweud fy nweud, mae'r sylwadau yn cael eu cyhoeddi.
I mi dyma sylwedd blog, lle i ddweud fy nweud a lle i eraill gwneud sylwadau i wrthddweud yr hyn a ddwedwn. Yn anffodus, er gwaethaf imi wneud sylwadau ar y saith post diweddaraf ar flog Guto nid oes un ohonynt wedi eu cyhoeddi yno.
Os oes gan Guto ofn sylw beirniadol, ofn anghytundeb ac ofn dadl a oes ganddo'r sylwedd i fod yn AS dros holl aelodau ei etholaeth?
Yr Aelod Seneddol David Jones. Yr ydwyf wedi cofnodi sawl sylw yn y gorffenol, oll gyda ffynonellau, ond yr un ohonynt wedi eu cyhoeddi.
ReplyDeletePam na chyhoeddi di dy sylwadau ar y blog hwn?
ReplyDeleteThis comment has been removed by the author.
ReplyDeleteSgwn i os mai dyma fydd yn ei wneud gyda'i gostau os bydd yn ennill sef dim ond cyhoeddi y rhai y bydd yn dymuno i ni ei weld
ReplyDeleteHwyrach dy fod yn poeni mai Guto yw'r "hen rech flin" go iawn!
ReplyDeleteNid chdi ydi'r cyntaf i gael y broblem yma - Roedd 'Syniadau' yn poeni hefyd.
ReplyDeleteMae'n fy atgoffa o Martin Eaglestone braidd. Roedd hwnnw'n hollol barod i drafod pan nad oedd etholiad ar y gorwel, ond pan fyddai etholiad yn dynesu ni fyddai'n cyhoeddi unrhyw sylw nad oedd yn ei hoffi - hyd yn oed rhai hynod gwrtais oedd yn cywiro camgymeriadau ffeithiol yn ei flog.
Pethau'n troi'n hyll yn Aberconwy - honiadau o Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr fod yn naill blaid wedi bod yn dymchwel arwyddion.
ReplyDeleteMae Guto angen geiriadur, mae'n honni ar ei flog mai Cowardly Shit yw ysytr 'cachgi'!
ReplyDeletehttp://aberconwyconservatives.co.uk/ironic-or-just-nasty/
Pethau'n troi'n hyll yn Aberconwy - honiadau o Blaid Cymru a'r Ceidwadwyr fod yn naill blaid wedi bod yn dymchwel arwyddion.
ReplyDeleteMae'n debyg bod y Blaid wedi cael bai ar gam am dorri rhai o arwyddion y Torïaid er gwaetha'r ffaith bod perchennog y cau wedi dweud wrth y Torïaid bod buwch wedi eu curo i lawr.
Diolch am y cyswllt Rhys, mi fethais i hwnna, ond yr wyf wedi ymateb rwan.
ReplyDelete