02/02/2010

Cadarnhad bod Tew am ymuno a'r Blaid

Mae'r Cynghorydd Dennis Tew, cyn llywydd Cymdeithas Ceidwadwyr Aberconwy wedi danfon cylchlythyr i'w etholwyr yn cadarnhau ei fod am ymuno a Phlaid Cymru. Mae copi o'r cylchlythyr i'w gweld ar flog Y Cynghorydd Jason Weyman

2 comments:

  1. Ymddengys bod hynny'n hwb enfawr i ymgyrch ehtoliadol Plaid Cymru yn yr etholaeth, ond tybed a ydi hi'n achos o Blaid Cymru eto'n gadael unrhyw un i mewn i'r blaid? Ydi'r cynghorydd Tew yn credu ym mhrif nodau Plaid Cymru ar ol bod yn Geidwadwr am dros ddeugain o flynyddoedd?

    Dwnim de.

    ReplyDelete
  2. Cwestiwn da HoR. Mae ambell i g诺yn y mae Guto yn nodi am y Cyng Tew yn rhai yr wyf wedi clywed gan eraill, tu fewn a thu allan i'r blaid Geidwadol.

    Ar arfordir y Gogledd, does dim ddwywaith, bod yna garfan o'r Blaid Geidwadol sydd yn gweld eu hunain fel plaid y mewnfudwyr sydd yn ymladd y brodorion. Byddwn i ddim yn dweud bod Dennis Tew yn aelod o'r garfan honno, ond mewn deugain mlynedd o fod yn Dori amlwg yn yr ardal hon, prin fu ymdrech Mr Tew i ddarbwyllo ei cyn cyd pleidwyr i beidio ag arddel y fath safbwynt.

    I ddweud y gwir rwy'n synnu bod Mr Tew wedi penderfynu ymuno ag unrhyw blaid. Mae'n ymddangos imi ei fod yn unigolyn efo barn "annibynnol" iawn ei annibyniaeth barn fu ei broblem efo'r Ceidwadwyr, bydd ei annibyniaeth barn yn broblem i'r Blaid hefyd.

    Os ydy Dennis Tew am sefyll ar gyfer ei ddychwelyd fel Cynghorydd Deganwy yn 2012, prin bydd ei obeithion fel ymgeisydd Plaid Cymru, bydd ei enw a'i hanes, o bosib, yn ddigon i'w ail hethol fel ymgeisydd annibynnol. Os ydy o'n sefyll eto yn 2012, rwyf bron yn sicr y bydd o wedi canfod rheswm i ymadael a'r Blaid erbyn hynny.

    ReplyDelete