05/02/2010

Torri Stori Tori?

Yn 么l sgwrs cefais gydag aelod o Gyngor Conwy heddiw, mae dau aelod arall o'r Cyngor ar fin cyhoeddi eu bod am ymadael a'r Gr诺p Ceidwadol yn y dyddiau nesaf. Si difyr, ond un mae'n rhaid ei gymeryd efo phinsiad o halen, gan fod fy "ffynhonnell" yn un garw am dynnu coes. Amser a ddengys os ydwyf y cyntaf i dorri stori neu yn gyff gwawd.

Ond ta waeth wrth gael golwg sydyn trwy borwr blogiau Google i weld os oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi si'r cynghorydd, ddois ar hyd i ddau bost sydd yn adrodd dwy stori wahanol am ffrind gorau newydd Phil Edwards.

Ar flog Ymgyrch San Steffan Y Blaid Geidwadol yn Aberconwy mae Guto Bebb yn dweud:
Little or no support was forthcoming from Cllr. Tew in relation to my campaign in 2005 or the campaign on behalf of Dylan Jones-Evans in 2007.

Ond ar flog Ymgyrch Cynulliad Y Blaid Geidwadol yn Aberconwy dywedodd Dylan Jones-Evans:

I spent over two hours with Councillor Dennis Tew (pictured) walking up and down the streets of Conwy - at this rate, there will be little point in buying a treadmill to get fit and lose weight (and Dennis put me to shame walking up the hills around the town).
Politics, the new diet and exercise regime!!!

Does dim modd cysoni'r ddau bost nag oes?

1 comment: