25/03/2011

Arwyddion Saesneg Cyngor Sir Conwy

Er gwaetha'r hinsawdd economaidd garw mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael hyd i ddigon o arian i gyfnewid pob un arwydd stryd ym mhentref Cyffordd Llandudno, mae'r Gyffordd yn bentref gweddol o faint, gan hynny byddwn yn amcangyfrif bod tua deugain o arwyddion newydd wedi eu gosod yno a phob un ohonynt yn uniaith Saesneg.

Roeddwn yn credu bod yr ymgyrch dros arwyddion dwyieithog yn y gogledd orllewin wedi ei hennill yn ôl yn y saithdegau, mae'n amlwg fy mod i'n anghywir a bod angen twrio yng nghefn y sied i ganfod yr hen bot paent gwyrdd yna eto.

From Hen Rech Flin

Diweddariad.
Mae'r cynllun gosod arwyddion yn rhan o Gynllun Gwella Strydwedd gwerth £400,000 i Ffordd Conwy, fel rhan o waith adfywio parhaus Cyffordd Llandudno.

Gellir dweud eich dweud am y cynllun trwy gysylltu ar:
Ffôn: 01492 576128

E-bost:llandudnojunction@conwy.gov.uk

Llythyr:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Tîm Cadwraeth ac Adfywio, Swyddfeydd Dinesig, Bae Colwyn, LL29 8AR

3 comments:

  1. Anonymous7:21 pm

    Rydw i hefyd wedi sylwi ar hyn.

    Bydd sdicer Cymdeithas yr Iaith ddim yn para'n hir iawn.

    Posib bod angen rhywbeth mwy fel paent, neu tynnu'r arwydd yn rhydd a'i daflu tu allan i ddrysau Bodlondeb?

    ReplyDelete
  2. Anonymous2:13 pm

    Rwy'n cytuno! lot a lot o baent

    ReplyDelete