05/03/2011

Derbyn y canlyniad yn raslon

Fel yr unig un i wneud cais am statws ymgyrchydd swyddogol fel arweinydd yr ymgyrch NA yn y Refferendwm, yr oeddwn yn hynod siomedig o glywed Rachel Banner yn gwneud ymateb ar ran yr ymgyrch Na, wedi cyhoeddi'r canlyniad yn y Senedd, tra nad oeddwn i, hyd yn oed, wedi derbyn gwahodd i'r cyfrif!

Pe bawn wedi cael gwahodd i fod yn bresennol ac i ymateb; dyma'r hyn byddwn wedi ei ddweud:

Rwy'n Llongyfarch yr Ymgyrch Ie ar fuddugoliaeth ysgubol.

Wir yr! Yr oedd ambell i gyhoeddiad yn sioc imi! Nid oeddwn yn disgwyl i'r canlyniad Ie i fod mor bendant ac mor glir. Mae canlyniadau yn llefydd megis Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Powys a hyd yn oed yn Sir Fynwy (lle mae 321 o bleidleiswyr a anghofiodd i bleidleisio Ie ddoe yn cicio eu hunain heddiw) yn syfrdanol, ac ymhell tu hwnt i'r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl.

Hoffwn ddiolch i'r chwarter miliwn o bobl a bleidleisiodd o blaid fy ymgyrch Na! Dim Digon da! Yr oeddwn yn gwybod fod llawer yn cydsynio nad oedd cwestiwn y refferendwm yn un gymwys; nad oedd yn cynnig cydraddoldeb gyda Senedd yr Alban na Chynulliad Gogledd Iwerddon, ond nid oeddwn wedi disgwyl cymaint â chwarter miliwn o bobl i gytuno â mi yn y blwch pleidleisio.

Yr wyf yn cydymdeimlo a'r 65% o etholwyr Cymru a ddewisodd beidio â phleidleisio oherwydd bod yr hyn a oedd yn cael ei gynnig mor ansylweddol fel eu bod yn teimlo nad oedd unrhyw werth pleidleisio o'i blaid nac yn ei herbyn. Rwy'n rhoi sicrwydd 100% fod yr ymgyrch yn dechrau nawr i wneud y refferendwm nesaf (yn 2012, os nad yn gynt) yn un bydd yn cynnig opsiwn gwerth mynd allan i bleidleisio Ie drosti!

1 comment: