Bwrw'r Sul diwethaf mi fûm i wylio gêm
rygbi dan ugain ym Mae Colwyn yn anffodus tra yno mi gollais fy waled. Ym mysg
y cardiau yn y waled bu raid imi eu canslo a gwneud cais i'w hamnewid oedd fy Nhocyn Teithio Rhatach Llywodraeth Cymru.
Y cynghorau sir sydd yn darparu'r tocynnau ar ran Llywodraeth Cymru ac ers i mi
dderbyn un am y tro cyntaf yr wyf wedi cael gwasanaeth Cymraeg didrafferth gan
Gyngor Sir Conwy.
Mi ffoniais Cyngor Conwy dydd Llun i
wneud cais am docyn newydd a chael gwybod mae Cyngor Sir Dinbych sy'n darparu'r
gwasanaeth ar ran Conwy bellach a bod rhaid cysylltu â'u swyddfa yn nhref
Dinbych. O ffonio’r swyddfa yn Ninbych a gofyn am ffurflen gais amnewid yn y
Gymraeg cefais yr ymateb "We don't speak Welsh here" (Nid I don't
speak Welsh) ac o holi am rywun i ddelio a fy nghais yn y Gymraeg cael yr un
ymateb "I told you we don't speak Welsh here". Cyrhaeddodd y ffurflen
gais heddiw - ffurflen uniaith Saesneg.
Er bod cynghorau Conwy a Dinbych yn
cynnwys rhai o'r ardaloedd mwyaf Seisnig yng Nghymru maent hefyd yn cynnwys
ardaloedd Cymraeg iawn; yn wir yn Sir Conwy mae'r unig gymunedau sydd â
rhagor na 70% o siaradwyr y Gymraeg y tu allan i Wynedd a Môn. Byddwn yn ystyried
gwasanaeth mor haerllug tuag at yr iaith yn annerbyniol mewn unrhyw ran o Gymru
ond mae trin yr iaith yn y fath modd yng Nghonwy a Dinbych yn gyfan gwbl
warthus.
Bydd cwyn yn cael ei wneud i brif
weithredwyr y ddwy sir a Chomisiynydd yr Iaith - wrth gwrs; ond pam ddiawl
dylid gorfod gwneud y fath gwynion er mwyn cael darpariaeth Gymraeg mor
sylfaenol yn y dyddiau hyn?