Mae Blog Menai yn cyfeirio at lwyddiant gwych Dafydd Meurig i gipio sedd oddi wrth y Rhyddfrydwyr Democrataidd yn Arfon, llongyfarchiadau mawr iddo. Yn anffodus llwyddodd y Blaid i niweidio ei hun yng Nghonwy ar yr un ddiwrnod!
Bu farw Wil Edwards, un o gynghorwyr y Blaid, ond aeth y Blaid ddim i'r drafferth o gynnig ymgeisydd i'w olynu!
Pam?
Sut mae disgwyl ennill tir heb drafferthu amddiffyn y tir sy'n eiddo i'r Blaid yn barod?
Y canlyniad oedd:
Renne Crossley (Tori) 30
Peter Groudd (annibynnol) 477
Dyma broblem sylfaenol y Blaid ydy bod ganddy nhw ddim strwythur, aelodau na gweithwyr mewn ardaloedd Cymreig fel Uwch Aled, ardaloedd lle mae hi'n dyngedfennol fod y Blaid yn cadw seddau sydd ganddy nhw.
ReplyDelete