Mae'n wirioneddol gas gen i yr arfer ar raglenni newyddion o adrodd stori sydd ddim yn stori go iawn, ond sy' ddim byd amgen na rhaghysbysiad i raglen arall mewn gwirionedd. Mae pob rhaglen newyddion yn euog o'r arfer ond Report Wales y BBC yw'r gwaethaf oll.
Dros fwrw'r Sul cafwyd nifer o dreilars ar gyfer y rhaglen Afghanistan - Five Welsh Families. Roedd unrhyw un a wyliodd BBC Wales ar y penwythnos yn gwybod bod y rhaglen ar fin ei ddarlledu, erbyn i'r stori ymddangos ar Wales Today nos Lun, nid ydoedd yn newyddion ond yn wybodaeth cyffredinol.
O barch i'r Bîb, roedd rhaglen Afghanistan yn rhaglen faterion cyfoes, o leiaf, ond roedd newyddion Report neithiwr yn bwrw'r arfer o raghysbysu dros ben llestri.
Y Newyddion oedd bod Syr Pryce Jones, wedi gwerthu'r Cwdyn Cysgu cyntaf ym 1876, dros gant a deg ar hugain o flynyddoedd yn ôl! Does gan y stori ddim hyd yn oed y cyfiawnhad o ffaith hanesyddol newydd ei ddarganfod - rwy'n cofio cwestiwn cwis tafarn ac eitem Hel Straeon amdani flynyddoedd lawer yn ôl
Roedd y rhaglenni dan sylw yn rhai difyr a dadlennol a gwerth eu gwylio, ond nid oedd eu darlledu yn haeddu slot ar y newyddion. Mae'n hen, hen bryd i Report Wales sylweddoli nad ydy BBC Wales makes a programme yn bennawd newyddion.
No comments:
Post a Comment