15/08/2007

Meddwdod Eisteddfodol

Post brawychus ar Flog Rhys Llwyd heddiw am yfed dan oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Maes b - maes meddwi - cyfrinach dywyll yr Eisteddfod

Roedd yr eisteddfod eleni dim ond cam i ffwrdd o Swydd Gaer. Difyr felly yw cymharu sylwadau Rhys a'r ymateb i sylwadau Prif Gwnstabl Swydd Gaer heddiw parthed yr un broblem o or yfed dan oed.

Beth bynnag bo'n barn am godi oedran cyfreithlon ddiota mae'n rhaid cytuno ag un o sylwadau Prif Gwnstabl Fahy: He also blamed parents for "turning a blind eye" to their children's underage drinking. Mae'n amlwg bod rhaid i rieni'r plant man y mae Rhys yn son amdanynt ysgwyddo peth o'r bai yn ogystal 芒 swyddogion yr Eisteddfod a Heddlu Gogledd Cymru.

Os oes unrhyw ddarllenydd am dynnu sylw swyddogion yr Eisteddfod at y pwyntiau mae Rhys yn codi mae manylion cysylltu ar gael YMA

No comments:

Post a Comment