Roedd y sylwadau am y ffaith bod Elin Jones ar ei gwyliau yn Seland Newydd yn y Wales on Sunday yr wythnos diwethaf yn gwbl afresymol. Roedd y llysoedd wedi pennu tynged Shambo ac roedd swyddogion Adran Amaeth y Cynulliad yn gwbl abl i weithredu barn y Cynulliad a'r Llys heb ei phresenoldeb personol. Mae gan bawb hawl i wyliau, gan gynnwys gweinidogion y llywodraeth.
Ond, gyda'r perygl bod Clwy’ Traed a'r Genau wedi dychwelyd i'r ynysoedd hyn, ac o ystyried yr effaith trychinebus cafodd ymddangosiad diwethaf y clwy’ ar Gymru yn 2001 a'r diffyg cydweithrediad rhwng gweinidogaethau Llundain a Chaerdydd ar y pryd, y mae’n hollbwysig bod Elin yn torri ei gwyliau yn fyr bellach. Ei bod hi'n dychwelyd i fod yng nghanol y trafodaethau i sicrhau nad yw'r clwy’ yn lledu ac yn achosi trychineb mor arw i gefn gwlad Cymru a achoswyd chwe blynedd yn 么l.
No comments:
Post a Comment