Wrth i'r trafodaethau am drefniadau traws pleidiol a chlymbleidiau mynd rhagddi, dim ond dau ddewis sydd gan yr ACau, bod yn rhan o'r Llywodraeth neu fod yn rhan o'r wrthblaid. Yr hyn sy'n ddifyr wrth i'r arweinwyr ystyried opsiwn yr wrthblaid yw sut mae'r gair hwn wastad yn magu'r cynffon effeithiol.
Mae yn anorfod bron i wrthblaid enfys bod yn aneffeithiol oherwydd ei natur. Bydd tri arweinydd plaid gwahanol yn gwrthwynebu'r llywodraeth yn hytrach nag un arweinydd yn lleisio barn pawb. Ceir cyfnodau pan fydd pob un o'r pleidiau yn gwrthwynebu'r llywodraeth ond am resymau gwahanol, gan ddrysu'r wrthddadl, a cheir cyfnodau pan fydd rhannau o'r wrthblaid yn ymatal mewn pleidlais neu'n cefnogi'r llywodraeth yn hytrach na sefyll yn gadarn gyda gweddill yr wrthblaid.
Eto yn y ddau Gynulliad diwethaf mae'r tair plaid lai a'r annibynwyr wedi profi, ar adegau prin, eu bod yn gallu ymddwyn fel gwrthblaid effeithiol iawn. Wedi llwyddo nid yn unig i drechu'r llywodraeth ond i sicrhau bod y llywodraeth yn ildio i'w dymuniad hwy. Ar yr adegau hyn bu'n rhaid i holl garfanau'r wrthblaid, cyd weithio, cyd gynllunio a sefyll yn gadarn fel un. Y cwestiwn amlwg wrth gwrs yw os oes rhaid wrth y fath clymbleidio i fod yn wrthblaid effeithiol, onid gwell yw clymbleidio i fod yn Llywodraeth?
Os ddaw Llywodraeth enfys, dim ond un blaid bydd yn ffurfio'r wrthblaid, a honno'n blaid sydd wedi dangos ei fod yn gallu bod yn unedig ac yn ddisgybledig. Gallasai'r Cynulliad bod yn y sefyllfa unigryw lle bydd ganddi wrthblaid effeithiol am gyfnod llawn yn hytrach na dim ond yn ysbeidiol effeithiol. Os ddaw dydd y Llywodraeth enfys, difyr bydd gweld pa mor abl bydd hi i wrthsefyll pwysau gwrthblaid effeithiol go iawn.
English: Effective Opposition
Ond y gwahaniaeth amlwg yw y bydd gan y Llywodraeth Enfys fwyafrif. Dros y blynyddoedd diwethaf, roedd y Blaid Lafur yn llywodraethu fel Llywodraeth leiafrifol.
ReplyDeleteOs bydd y Llywodraeth Enfys yn ddisgybliedig felly, does dim ots pa mor effeithiol bydd y Blaid Lafur, ni fydd ganddi ddigon o bleidleisiau i atal dyheadau y Llywodraeth Enfys.
Dwi'n amau'n fawr mae rhanedig fydd yr wrthblaid Llafur beth bynnag, gyda'r cenedlaetholwyr Prydeinig a'r cenedlaetholwyr Cymreig yn ymladd ymysg eu gilydd am bwer.