Gan fod yr ymgyrch etholiadol wedi tynnu at ei derfyn bydd y blogiau gwleidyddol mewn rhyw fath o limbo am yr 20ain awr nesaf. Prin fydd fawr o sylwadau i'w gwneud hyd y dadansoddi yn oriau man bore dydd Gwener. Yn ystod y cyfnod yma hoffwn ofyn cwestiwn yn hytrach na gwneud sylw.
Pa ddylanwad mae'r we wedi cael ar yr etholiad yma?
Yn ddi-os mae 'na llawer iawn fwy o weithgaredd ar y we wedi bod eleni nag oedd hyd yn oed dwy flynedd yn 么l yn ystod etholiadau San Steffan 2005. Mae tua 35 o flogiau Cymreig wedi bod yn ymdrin 芒'r etholiad yng Nghymru yn unig. Mae defnydd eang wedi ei wneud o YouTube ac, yn 么l y son (er na dderbyniais i 'run ) mae e-byst wedi eu danfon gan rai ymgeiswyr i'w hetholwyr. Ond ydy o wedi cael unrhyw effaith ymarferol ar yr etholiad a'i chanlyniadau?
Oes yna bleidlais wedi ei hennill neu ei golli gan y gweithgaredd ar y we?
Ydy'r we yn cael effaith mwy subtle, yn cynorthwyo'r rhai gweithgar i finiogi dadl neu i fenthyg ymateb gan wefan wrth ymgyrchu yn y cigfyd?
Ydy'r we yn gwneud niwed? Bod y rhai gweithgar yn credu eu bod wedi gwneud eu dyletswydd trwy flogio neu greu fideo YouTube ac yn defnyddio hynny fel esgus tros beidio curo drysau, llenwi amlenni ac ati?
Dyw'r blogs dim yn cael "influence" o gwbl. Dim ond anoracs fatha ti a fi sy'n darllen y blogiau. Mae pawb sy'n darllen blog am etholiad yn gwybod sut mae e mynd i fotio yn barod.
ReplyDeleteHwyl i politicos yw blog etholiad nid "vote winner"
Do, mae blogiau yn dylanwadu ar y cyfryngau.
ReplyDelete