Un o'r pethau sydd yn mynd dan fy nghroen i wrth gofio 1997 yw'r honiad bod y rhai a methodd pleidleisio ar y diwrnod naill ai yn dawel yn erbyn datganoli, neu yn rhy ddi-hid i drafferthu pleidleisio.
Ar ddiwrnod y bleidlais cafodd fy Mam yng nghyfraith trawiad ar ei chalon, danfonwyd hi i'r ysbyty am chwech y bore, fe f没m i, fy ngwraig, chwaer fy ngwraig a fy mrawd yng nghyfraith yn yr ysbyty trwy'r dydd yn disgwyl y gwaethaf. Am hanner awr wedi deg y nos cawsom gwybod bod Mam wedi dod dros y gwaethaf a bod gobaith iddi gael gwellhad.
Dyna bump pleidleisiwr, pob un yn gefnogwyr datganoli, fel mae'n digwydd, na phleidleisiodd ar y diwrnod AM RESWM NAD OEDD DIM I'W GWNEUD A DIFATERWCH. Rwy'n si诺r bod hanesion tebyg ym mysg y gwrthwynebwyr hefyd.
Peidied neb honni mae difaterwch oedd y rheswm dros bob diffyg pleidlais!
Hefyd, gallaf gredu bod rhai (efallai dim rhif anferthol) o genedlaetholwyr wedi atal eu pleidlais gan eu bod yn teimlo bod beth a gynnigir yn sarhad, tra byddai rhywun oedd yn chwyrn yn erbyn ddim yn mynd i atal ei bledlais 'Na'
ReplyDelete