28/09/2007

Gwarth Titwobble yn y Teulu

Pan ddaw'r copi newydd o Golwg i'r T欧 'ma mi fydd gennyf, fel arfer, rhyw sylw bachog i'w gwneud ar y blog am ei gynnwys gwleidyddol.

Mae hynny'n amhosibl heddiw gan fy mod am guddio fy mhen mewn cywilydd.

Yr wyf yn gwrido o weld y copi cyfredol! Ar y tudalen blaen ac eto ar dudalen 24 mae yna lun o fy nghyfnither hoff Olwen Levold. Roedd Mam Olwen nid yn unig yn fodryb imi ond yn athrawes ysgol Sul arnaf hefyd. Teulu Olwen oedd ochor barchus y teulu!

Roedd Olwen a fi yn arfer cyd fodio i gyfarfodydd o Gymdeithas yr Iaith a Mudiad Adfer efo'n gilydd ac yn arfer cynllwynio yn ein glaslencyndod i wirio holl broblemau'r byd

Ond ow! ac och! dyma Olwen yn ymddangos yng Ngolwg, ar ei newydd wedd, fel Teresa Titwobble o' Tool. Cywilydd a gwarth i'r teulu. A oes modd imi godi fy mhen mewn cymdeithas barchus eto gan wybod bod Titwobble yn y teulu?

I'r rhai ohonoch sy'n ymhyfrydu yn y fath ychafinas, bydd sioe Olwen Bei-Ling Burlesque i'w gweld yn Theatr y Chapter, Caerdydd ar Hydref 5ed a'r 6ed. Diolch byth mae yng Nghaerdydd ydyw ac nid yn Nolgellau!!!!!

5 comments:

  1. Hehe! Mi ddarllenes i hwn bore ma. Balchder deimles i, nid cywilydd!!

    Dwi'm yn meddwl mod i'n cofio nabod Olwen. Pryd adawodd hi Ddolgellau dirion deg?

    ReplyDelete
  2. Anonymous10:49 am

    Hmm, dwi'n ymweld 芒 ffrind coleg ym Manceinion dros y penwythnos, a ma hi (y gwyddel gwyllt ag yw hi) wedi addo outing i glwb burlesque... Os fyddai dal mewn un darn ar 么l y profiad, ai i weld y bei-ling peth 'ma yn Chapter!

    ReplyDelete
  3. Anonymous1:08 pm

    Pa un ydy hi?

    Mae'r ferch sy'n sefyll yn ail o'r dde yn ff***n ffantastigedig. FFwwaaa!!!

    ReplyDelete
  4. heheh, hi ydy eich chyfnither? Mae rhaid imi gyfaddef foment o boen wrth weld y clawr hefyd, ond ddim cymaint am y cynnwys ag am y binc sgrechian yna...

    ReplyDelete
  5. Olwen yw'r un sydd yn eistedd ar yr ochor de yn y tu blaen. Mae Olwen tua'r un oed a dy dad, Nwdls. Oherwydd bod pobl ag anabledd yn cael eu tynnu allan o ysgolion prif ffrwd yn nyddiau eu hieuenctid cafodd hi y rhan fwyaf o'i addysg yn ysgol y ddeillion ym Mhen-y-bont (rwy'n credu) gan ddim ond dychwelyd i Ysgol y Gader ar gyfer y chweched ddosbarth.

    Os oedd unrhyw un a'r cyfenw Humphreys yn yr ysgol 'run pryd a thi mae'n debyg eu bod yn perthyn i Olwen a fi.

    Tafod yn foch oedd y "cywilydd". Roedd o'n dipyn o sioc go iawn gweld y llun, ond mae'n rhaid dweud fy mod yn reit browd o Olwen, go iawn.

    ReplyDelete