15/09/2007

Symyd o'r Bae i'r Gyffordd, da neu ddrwg?

Yn ôl tudalen blaen y rhifyn cyfredol o'r Cymro (14.09.07) mae Gareth Jones AC yn gandryll o herwydd y penderfyniad i ohirio'r cynllun i adleoli adrannau o'r Cynulliad Cenedlaethol i Gyffordd Llandudno am o leiaf dwy flynedd.

Rwy'n cytuno a llawer o gŵyn Mr Jones:

Mae angen i Gymru Gyfan elwa o ddatganoli ac mae'n rhwbio halen i'r briw yn yr ardal yma fod swyddi wedi mynd i Ferthyr Tudful a bod rhai i Aberystwyth ar eu ffordd

Rwy'n cydymdeimlo a llawer o rwystredigaeth Mr Jones bod y Cynulliad, unwaith eto, yn trin y gogledd mewn modd eilradd. Os yw'r Cynulliad, wir yr, am fod yn Gynulliad Cenedlaethol, mae'n rhaid iddi brofi i bobl, o bob parth o'n gwlad, mae nid Cynulliad Caerdydd mohoni!

Ond, mae gan nifer o bobl Conwy amheuon parthed cynllun y Gyffordd. Maent yn teimlo mae symud 600 o swyddi o Gaerdydd yw'r bwriad yn hytrach na chreu cyfleoedd i bobl leol.

Yr unig swyddi i bobl leol sy'n debygol o fod ar gael yn y Gyffordd bydd swyddi isel eu cyflog megis swyddi glanhawyr. Bydd y swyddi cyflog mawr i gyd yn cael eu cyflenwi gan Goloneiddwyr o Gaerdydd sy'n cael eu symud o'r ddinas i'r stics!

Siawns bod mymryn bach o ymyl arian i'r cwmwl o ohirio'r prosiect yn y Gyffordd. Sef y cyfle i bobl sir Conwy gwerthuso'r prosiectau i symud swyddi o Gaerdydd i Ferthyr ac Aberystwyth a chael gweld os ydynt yn cynnig mantais i bobl leol yn hytrach na'u bod yn ddim byd llai nag ymerfariad o symud cyrff o Gaerdydd i'r Gogledd.

3 comments:

  1. Anonymous8:55 am

    Wel, dyna'r disgwyl. Ac y son hefyd ydy nad ydy'r bois o Gaerdydd 'na yn hapus iawn am symud i Aberconwy chwaith!

    Ond dw'i'n gallu dychmygu byddai hyn yn creu rhywfaint o swyddi newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

    ReplyDelete
  2. Beth sydd angen ydi ffordd well rhwng y gogledd a'r de [ neu'r de a'r gogledd! ], wedyn mi fydd y 'gap' mawreddog 'na sydd yn anffodus yn dal i fodoli , dipyn llai.

    'Rwy'n cydymdeimlo a llawer o rwystredigaeth Mr Jones bod y Cynulliad, unwaith eto, yn trin y gogledd mewn modd eilradd. Os yw'r Cynulliad, wir yr, am fod yn Gynulliad Cenedlaethol, mae'n rhaid iddi brofi i bobl, o bob parth o'n gwlad, mae nid Cynulliad Caerdydd mohoni!'

    Cytuno yn llwyr HRF !

    ReplyDelete
  3. Parthed y symudiad i Ferthyr, allai weld cannoedd yn fwy yn teithio fyny'r A470 pob dydd o Gaerdydd ac yn pocedu'r lwfans teithio hael ad-leoli am flwyddyn.

    Dwi'n gwbod mai am Conwy ni'n sn, ond meddyliais neithiwr fel nad oes dim swyddfeydd asiantaeth cyhoeddys Cymreig na Phrydeinig wedi ei lleoli yn Wrecsam sef prif dref y gogledd.

    ReplyDelete