Mae 'na nifer o bethau, gweddol newydd, sydd bellach yn rhan o draddodiad hanesyddol y Nadolig. Mae'n debyg mae Albert, gwr y Frenhines Victoria oedd yn gyfrifol am y goeden Nadolig sydd yn must have ym mhob tŷ yng Ngwledydd Prydain bellach. Hysbyseb gan Coca-Cola ym 1931 sydd yn gyfrifol, yn ôl y son, am y dyn barfog yn ei benwynni a'i wisg goch, a J Glyn Davies sy'n gyfrifol am enw Cymraeg y gwron Siôn Corn.
Mae'r pethau yma mor gyffredin bellach fel ei bod yn anodd credu bod yna rhai ar dir y byw (gan gynnwys fy rhieni) sydd yn hyn na thraddodiad Siôn Corn a bod y goeden Nadolig wedi ymddangos yn beth newydd estron i bobl yr wyf yn eu cofio, megis fy hen daid.
Rhan arall o draddodiad y Nadolig cyfoes yw clywed arweinwyr crefyddol yn cwyno bod y seciwlar wedi dwyn y Nadolig oddi wrth y Cristionogion. Bod ystyr ac ysbryd y Nadolig wedi ei golli.
Traddodiad anghydffurfiol bu traddodiad crefyddol Cymru ers dros ddwy ganrif. Dydy anghydffurfwyr ddim yn dathlu gwyliau eglwysig. Mae anghydffurfiwr go iawn yn credu bod rhaid cofio am enedigaeth, bywyd, dysgeidiaeth, marwolaeth ac atgyfodiad yr Iesu yn barhaus - nid jyst ar ddyddiau arbennig. Cystal cofio am enedigaeth y Crist ar Fawrth y pymthegfed ag ar Ragfyr y 25in.
Dydy'r Nadolig ddim yn perthyn i draddodiad crefyddol y Cymry o gwbl, a nonsens yw i grefyddwyr Cymru cwyno am golli gwir ystyr gŵyl nad oedd ystyr iddi erioed yn ein traddodiad Cristionogol arbennig ni.
Gall Gristion o Gymro mwynhau hwyl yr ŵyl fel rhan o ddathliad cymdeithasol neu ymwrthod a'r ŵyl fel rhywbeth sy'n perthyn i'r byd. Yr hyn na all Cymro Efengylaidd Cristionogol gwneud yw cwyno am sarhad Nadoligaidd trwy honni bod pobl wedi dwyn oddi wrthym rywbeth nad oedd yn eiddo i'n traddodiad cynhenid yn y lle cyntaf!
Nadolig Llawen i holl ddarllenwyr blog yr HRF. Mwynhewch yr ŵyl trwy loddest, trwy weddi neu trwy'r ddau!
Ww, sylw da iawn. Di ddim yn grediniwr na dim, ond mae'r modd mae pobl yn ymddwyn (boed yn gristnogion neu beidio) dros y dolig yn fy nghwenud yn sál.
ReplyDeleteDwi'n dod o deulu sydd, er nad efallai'n grefyddol o ran 'dogma' (hynny yw, nid ydynt yn dyfynnu'r beibl na dim), yn byw bywyd digon driw i'r traddoidiad anghydffurfiol - rhaid i mi esgus hyd heddiw i fy ewythyr (sy'n ffarmwr os ydy hynny ryw wahaniaeth) nad wyf yn mynychu tafarndai! Yn y gorffenol, yn enwedig yn ystod fy arddegau roeddwn yn teimlo tipyn o rwystredigeth gyda ymddygiad 'sobor fy rhieni a'u hagweddau at llawer o bethau.
O ddod i ddeall mwy am y traddodiad(au) anghydffurfiol yng Nghymru, dwi'n dod i ddeall llawer mwy am agwedda/personoliaeth fy rhieni a'm teulu agos. Er nad ydw i'n cytuno á nhw pob tro, dwi'n fawr parchu eu cysondeb a'u safiad.
Dwi'n cofio fy nhad yn deud, pan oedd yn fachegn ac yn mynd at ei nain a'i daid (fy hen nain a'm taid) ym Mhenycae, ochrau Wrecsam y ffordd yr oedd nhw'n dathlu'r Nadolig neu adeg beam yn y to, a'i addurno mymryn.
ReplyDeleteDwi'n meddwl bod hyn yn draddodiad paganaidd/Rhufeinig, neu un sy'n deillio o cyn dyfodiad Cristnogaeth modern.