03/06/2007

Dim Cydymdeimlad a Beicwyr Gorffwyll

Prynhawn ddoe aeth tua 200 o feicwyr modur ar brotest yn nhref Llandudno yn erbyn penderfyniad prif gwnstabl y Gogledd Richard Brunstrom i ddangos lluniau o Mark Gibney y dyn a gollodd ei ben mewn damwain beic modur. Cafodd y lluniau eu dangos mewn cyfarfod preifat i newyddiadurwyr, ym mis Ebrill, ond penderfynodd un o'r newyddiadurwyr rhoi cyhoeddusrwydd i'r lluniau er mwyn cynnal fendeta yn erbyn Brunstrom oherwydd ei bolisi o weithredu y deddfau yn erbyn goryrru.

Y rheswm swyddogol dros y brotest yn ôl llefarwyr i'r wasg oedd yno oedd protestio yn erbyn y loes yr achosodd y Prif Gwnstabl i'r teulu.

Ond rhaid cofio bod Mr Gibney yn gyrru ei feic ar gyflymder o dros 100 milltir yr awr ar adeg ei ddamwain ar y B5105 rhwng Cerrigydrudion a Rhuthun. Ffordd B, ffordd gul yng nghefn gwlad. Un dyn ac un dyn yn unig sydd yn gyfrifol am y loes a achoswyd i deulu Mr Gibney, sef ef ei hun. Pe na fyddai yn gyrru mewn ffordd mor orffwyll, byddai'r damwain heb ddigwydd a bydda na ddim lluniau o ganlyniadau ei orffwylltra i ddangos i newyddiadurwyr.

Mae'n gwbl amlwg nad oedd Mr Gibney yn poeni fawr ddim am y loes yr oedd ei ymddygiad am achosi i'w deulu ei hun nac am y perygl o achosi loes i deuluoedd diniwed defnyddwyr eraill y lon ar y diwrnod y cafodd ei ladd.

Yr hyn a'm ffieiddiodd fwyaf am y rali heddiw oedd clywed rhai o'r bobl a'i mynychodd yn cwyno ar strydoedd Llandudno wedi'r rali am yr hyn sydd wedi eu pechu go iawn. Sef bod Richard Brunstrom yn ceisio tarddu ar ryddid beicwyr i ddefnyddio lonydd cefn gwlad Cymru yn yr un modd diystyron a defnyddiodd Mr Gibney y B5105 yn ôl ym mis Medi 2003.

Os ydy ymgyrchoedd Mr Brunstrom i greu lonydd diogel i drigolion cefn gwlad Cymru yn peri loes i'r fath bobl, loes pia hi - nid oes gennyf y mymryn lleiaf o gydymdeimlad a nhw.

2 comments:

  1. Jest i ddeud mod i'n cytuno. Mae lonydd cefn gwlad Cymru yn cael eu trin fel rhyw fath o gampfa macho ar gyfer gyrrwyr beiciau modur. O'r hyn dwi'n ei ddeall, pwrpas y gynhadledd i'r wasg oedd cyfiawnhau polisi heddlu Gogledd Cymru. Ond bod rhyw newyddiadurydd yn defnyddio unrhyw ffon i guro Brumstrom.

    Mae'n ddiddorol cymharu bygythiad beunyddiol paedoffiliaid i blant gydag effaith goryrru. Onid yw ceir yn caethiwo plant, mewn trefi ac yn y cefn gwlad? Ond wrth gwrs gan ein bod i gyd yn gyrru, does dim modd i ni ganfod bai arnon ni ein hunain.

    ReplyDelete
  2. Cytuno Miliast - yn wir dwi'n cofio chwarae yn y stryd pan o'n i'n blentyn yn y 70au, a'r rheol oedd fod rhaid i geir arafu a disgwyl i'r plant symud o'r stryd cyn mynd ar eu blaenau. Y plant (neu unrhyw gerddwr arall) oedd biau'r stryd, nid y cerbyd.

    ReplyDelete