Ni fûm erioed yn or hoff o wobrwyo pobl sy'n mynegi barn, boed gwleidyddion neu newyddiadurwyr. Fy ofn yw bod perygl i bobl cael eu dylanwadu yn ormodol gan y wobr i ddweud eu barn yn onest. Ofn pechu carfan o'r beirniaid rhag colli eu cefnogaeth ar adeg rhannu'r gwobrau, anwybyddu pethau sydd o bwys mawr i leiafrif bach gan nad oes gan y lleiafrif bach digon o glowt wrth bennu gwobrau, rhoi barn sy'n haeddu gwobr yn hytrach na barn sy'n haeddu sylw ac ati. Mae fy nheimladau chwithig am wobrwyo gwleidyddion a newyddiadurwyr yn estyn rhywfaint at blogiau, yn arbennig blogiau sydd yn trafod materion y dydd, barn gelfyddydol, barn grefyddol ac ati.
Mae'n amlwg nad yw Sanddef yn cytuno a'm marn. Y mae o wedi dechrau blog arbennig ar gyfer gwobrwyo blogiau gorau Cymru. I'r sawl sydd am gefnogi'r fenter mae manylion pellach ar gael yma.
Gwobrau Blog Cymru 2007
Pob hwyl i bawb sy'n gystadlu.
PS.Mae peint ar gael i bawb sy'n fotio i fi.
PPS Bydd y peint ar gael yn eich tafarn lleol ar ôl i chi talu amdano
Wel, y syniad yw dathlu a chodi proffeil y blogosffer Cymreig (a Chymraeg). Cofiwch mai dim ond y blogwyr eu hun fydd yn gallu pleidleisio, felly mi fyddan nhw yn amlach na ddim yn enwebu a phleidleisio dros flogiau maen nhw'n hen gyfarwydd a nhw.
ReplyDeleteTipyn o hwyl ydy ar ddiwedd y dydd.
Wrth gwrs fy mod yn sylwi mae hwyl ydy'r nod Sanddef!
ReplyDeleteFel y byddwyf yn nodi yn fy araith wrth dderbyn y brif wobr:
Rwy'n derbyn mae hwyl ydy blogio, ond mae angen sylwedd hefyd. Rwy’n gobeithio bydd y rhai daeth i'r ail a'r drydydd safle (yn bell ar fy ôl), yn gallu dysgu, o ddarllen fy mlogiau, sut i gyfuno hwyl a sylwedd yn y modd yr wyf innau'n gwneud. Ac o ddarllen blog un o'r meistri, yn gallu codi eu safon hwythau i'r safon uchel yr wyf wedi gosod.
Rwy'n gobeithio bydd safon fy mlog arobryn yn ysbrydoliaeth i flogwyr am flynyddoedd i ddod.
Hwyl ac addysg yn un, dyna be sy' angen mewn araith derbyn anrhydedd yn de?
Rhaid dweud Alwyn mod i'n edmygu dy ddefnydd o'r modd dibynnol! Rhagorol iawn yn wir!
ReplyDelete